Ewch i’r prif gynnwys

Cyd-ddylunio adnoddau hyfforddi hunanreoli ar gyfer gofalwyr oedolion hŷn

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â gofalwyr i ddatblygu adnoddau hyfforddiant hunanreoli i'w helpu i gefnogi'r bobl y maent yn gofalu amdanynt i wneud penderfyniadau am eu gweithgareddau bob dydd.

Beth yw diben y prosiect ymchwil hwn?

Oedolion hŷn ag anghenion gofal uwch yw’r grŵp sydd angen cymorth fwyaf i helpu i reoli eu poen yn y cymalau, ochr yn ochr â chyflyrau ychwanegol. Wedi dweud hyn, ar hyn o bryd, nhw sydd leiaf tebygol o allu cael cymorth. Mae gan lawer o oedolion hŷn â phoen yn y cymalau sy’n byw mewn lleoliadau gofal fel cartrefi gofal wahanol raddau o nam gwybyddol, ac mae hyn yn aml yn cael ei ystyried yn rhwystr i hunanreoli heb gefnogaeth sylweddol gan ofalwyr (e.e. efallai na allant wneud gweithgaredd ymarfer corff yn annibynnol).

Nod prosiect SUSTAIN (sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd a Bridges Self-Management a’i ariannu gan Sefydliad Ymchwil y DU) yw datblygu ffordd newydd o gefnogi gofalwyr i gael y wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i gefnogi pobl sy’n byw gyda chyflyrau lluosog.

Byddwn yn datblygu adnoddau hyfforddiant sy'n ceisio cynyddu dealltwriaeth gofalwyr o fodel o gymorth hunanreoli personol sy'n dod yn 'ffordd o weithio'. Bydd gofalwyr yn datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau i'w grymuso i wneud newidiadau allweddol yn y ffordd y maent yn cefnogi unigolion i wneud penderfyniadau a bod yn rhan o'u gofal. Byddwn yn cyflawni hyn drwy gydweithio â gofalwyr a phobl â phoen yn y cymalau a chyflyrau ychwanegol, darparwyr gofal, staff sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ac elusennau i ddatblygu adnoddau hyfforddi.

Beth mae'r prosiect yn ei gynnwys?

Hoffem gyfweld staff gofal a gofalwyr anffurfiol am eu profiadau o ofalu am bobl hŷn â chyflyrau hirdymor lluosog i ddarganfod beth sydd bwysicaf, eu heriau a sut maent yn teimlo am eu rôl fel gofalwyr. Byddwn yn llunio ffilm fer o'r cyfweliadau hyn a fydd yn cael ei dangos i ofalwyr eraill a phobl sy'n gweithio yn y sector gofal. Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i'n helpu i gydweithio i gyd-gynllunio hyfforddiant a chymorth newydd y mae pobl eu heisiau a'u hangen.

Cyllid

Ariennir y prosiect hwn gan Wobr Catalydd Heneiddio’n Iach Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI).

Prif ymchwilydd

Thema’r ymchwil