Cofrestru a chadw eich tocynnau
Diweddarwyd: 17/04/2025 15:09
Gwybodaeth am sut i gofrestru ar gyfer y Seremoni Raddio a chadw tocynnau.
Bydd gwahoddiadau graddio yn cael eu hanfon drwy e-bost ym mis Ebrill, pan fydd modd trefnu’r tocynnau. Cewch drefnu eich archeb tan ddydd Mawrth 24 Mehefin 2025 am 23:59 GMT.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y seremoni raddio, mae’n rhaid ichi gwblhau eich cwrs yn llwyddiannus a thalu’r holl ffioedd a dyledion sy’n weddill i’r Brifysgol cyn dyddiad eich seremoni.
Rhowch wybod inni a fyddwch chi’n dod i’r Seremoni
Mae’n rhaid ichi gadarnhau a fyddwch chi’n dod neu beidio, gan roi gwybod am eich gofynion a gofyn am unrhyw addasiadau rhesymol er mwyn inni allu cynllunio’n briodol.
Rydych chi’n cofrestru eich presenoldeb gan ddefnyddio SIMS Online. Ceir manylion am sut i wneud hyn yn e-bost eich gwahoddiad.
Byddwch chi’n cael e-bost sy’n cadarnhau eich bwriad i ddod i’r Seremoni pan fyddwch chi wedi cwblhau’r broses gofrestru.
Cadw eich tocynnau
Mae angen tocyn ar raddedigion a gwesteion i fynd i seremoni raddio Ysgol yn Arena Utilita a'i derbyniad yng Ngerddi Graddio, Campws Parc Cathays. Mae'r un tocyn yn cael ei ddefnyddio i fynd i mewn i'r ddau ddigwyddiad.
Marston Events yw ein partner tocynnau. Bydd gofyn ichi ddefnyddio eich rhif adnabod myfyriwr i ddefnyddio'r system docynnau lle cewch drefnu:
- eich tocyn
- dau docyn i westeion yn rhad ac am ddim
- tri thocyn ychwanegol i westeion am £30 yr un.
Mae’n rhaid i blant dros 2 oed gael tocynnau ar gyfer seremonïau a derbyniadau ysgol, a gwaherddir anifeiliaid anwes.
Tocynnau digidol
Caiff graddedigion eu tocynnau digidol drwy e-bost ym mis Gorffennaf. Os nad ydych chi wedi cael eich tocynnau 5 diwrnod gwaith cyn y seremoni, neu os oes problemau o ran dod o hyd iddyn nhw, cysylltwch â Marston Events. Rydyn ni’n argymell lawrlwytho’r tocynnau ymlaen llaw er mwyn osgoi problemau ar y diwrnod o ran Wi-Fi.
Mae’r holl seddi’n cael eu rhannu ymlaen llaw, a bydd y manylion ar y tocynnau digidol. Oherwydd nifer yr ymwelwyr yn y Seremoni Raddio, ni ellir newid y seddi ac ni ddylid rhannu tocynnau.
Dylai pob deiliad tocyn gadw at y mesurau diogelwch llym sydd ar waith ym mhob un o leoliadau’r Seremonïau Graddio.
Wrth gyrraedd Utilita Arena, sylwer y bydd bagiau yn destun chwiliad. Ni chaniateir cadeiriau gwthio yn yr arena, ond mae parc bygis ar gael. Rhagor o wybodaeth am Arena Utilita.
Darllediadau byw
I unrhyw un sy'n methu â dod i’r seremonïau graddio, byddan nhw’n cael eu darlledu'n fyw ar-lein ac yn Undeb y Myfyrwyr.
Yr wythnos cyn graddio, bydd ein hamserlen seremoni yn rhoi dolenni YouTube a Weibo ar gyfer y darllediadau byw.
Telerau ac amodau
Mae'n rhaid i chi sicrhau eich bod yn gymwys i raddio cyn archebu eich tocynnau.
Darllenwch ein telerau ac amodau i gael arweiniad ar beth i'w wneud os nad ydych yn gallu mynychu, gofyn am ad-daliad neu wneud cwyn.
Bydd ffotograffiaeth a ffilmio yn digwydd trwy gydol pob digwyddiad Graddio. Pan fyddwch chi'n mynd i mewn i'n lleoliadau Graddio, cynhelir gwiriadau a chwiliadau diogelwch.
Cysylltu â ni
Cysylltwch â Marston Events os oes gennych chi gwestiynau am drefnu tocynnau.
Cysylltwch os oes gennych chi gwestiynau am gofrestru ar gyfer y Seremoni Raddio neu eich gwahoddiad.