Ewch i’r prif gynnwys

Cynnyrch Graddio

Diweddarwyd: 10/04/2024 13:02

Gall ein cyflenwyr dewisol helpu chi i greu atgofion fydd yn para oes.

Cynnyrch Caru Caerdydd

Mae siop ar-lein Caru Caerdydd yr Undeb Myfyrwyr yn gwerthu cynnyrch anhygoel wedi’i frandio, er mwyn i ti gael cofio dy amser yng Nghaerdydd. O dedis i roddion amrywiol a dillad ‘dosbarth’. Neu dere i siop Caru Caerdydd ar lawr gwaelod Undeb y Myfyrwyr.

Hwdi Graddio – dosbarth ’24 (yn dod yn fuan)

Mae Undeb y Myfyrwyr yn lansio dyluniad hwdi Graddio newydd sbon ar gyfer dosbarth ‘24, sy’n cynnwys logo brodwaith ac opsiwn i bersonoli gyda dy enw a/neu ddosbarth.

Archeba dy hwdi bersonol ymlaen llaw o 26 Ebrill – 7 Mehefin 2024 a gei di bersonoli am ddim. Paid colli allan!

Mwy o wybodaeth am yr hyn y mae Undeb y Myfyrwyr yn ei gynnig yn ystod wythnos y Graddio.

Katherine Jones

Mae Katherine Jones yn artist ac yn Bensaer sy'n gweithio yn ne Cymru. Astudiodd Katherine yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd rhwng 2008 a 2015, cafodd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf ar lefel BSc yn 2011, Meistr mewn Pensaernïaeth yn 2013 a chafodd ei Diploma Proffesiynol yn 2015.

Llawer o luniau a phrintiau o Dde Cymru i ddewis o’u plith.