Ewch i’r prif gynnwys

Cyfres Darlith Sgwrs y Byd: Sefydliad Imperialaeth Japan ac Ymddiorseddiad yr Ymerawdwr Akihito

Dydd Mercher, 10 Ebrill 2019
Calendar 17:00-21:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Japanese newspapers

Mae Sgwrs y Byd yn gyfres newydd o ddarlithoedd am bynciau cyfoes diddorol mewn amryw wledydd ledled y byd gan Arbenigwyr o Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd. Mae'r gyfres wedi'i hanelu at fyfyrwyr UG a Safon Uwch yn bennaf, er mwyn ennyn eu diddordeb a chynnig dealltwriaeth well o ddatblygiadau gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol ledled y byd.

Bydd y darlithoedd yn para tua 45 munud, ac yna sesiwn holi ac ateb am 30 munud.

Darlith gan Dr Ruselle Meade am sefydliad imperialaidd Japan ac ymddiorseddiad yr Ymerawdwr Akihito.

Crynodeb
Ar 30 Ebrill 2019, bydd yr Ymerawdwr Akihito yn ymddiorseddu, a bydd ei fab, y Tywysog Coronog Naruhito, yn ei olynu ar 1 Mai. Dyma'r tro cyntaf yn hanes modern Japan y bydd ymerawdwr sy'n teyrnasu yn ymddiorseddu. Er mai'r gred gyffredin yw mai teulu imperialaidd Japan yw'r frenhinlin fwyaf hirhoedlog yn y byd, gyda dros 2,650 o flynyddoedd o hanes, mae llawer o'i draddodiadau yn gynnyrch y 150 mlynedd diwethaf. Yn wir, mae'r argyfwng cyfansoddiadol a daniwyd pan ddywedodd yr Ymerawdwr Akihito ei fod eisiau ymddiorseddu yn ganlyniad Cyfansoddiad Meiji 1890. Bydd y sgwrs hon yn esbonio sut tyfodd teulu imperialaidd Japan – teulu meudwyaidd nad oedd yn hysbys i'r rhan fwyaf o bobl Japan tan 150 mlynedd yn unig yn ôl – i fod yn un o symbolau pennaf y wlad, ac yn sefydliad roedd llawer o bobl Japan yn fodlon marw drosto yn ei rhyfeloedd modern amrywiol. Bydd hefyd yn bwrw golwg yn ôl ar deyrnasiad Akihito, gan archwilio'r newidiadau yn Japan dros y 30 mlynedd diwethaf.

Bywgraffiad
Mae Ruselle Meade yn ddarlithydd astudiaethau Japaneaidd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn y berthynas rhwng gwyddoniaeth a hunaniaeth genedlaethol yn Japan ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae ei herthygl ddiweddaraf, sy'n cael ei hadolygu ar hyn o bryd, yn edrych ar sut y cafodd deiliadaeth imperialaidd ei meithrin ymysg pobl ifanc yn ystod cyfnod Meiji Japan (1868-1912) drwy ddarnau ysgrifenedig ar wyddoniaeth.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 27 Mawrth i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Gweld Cyfres Darlith Sgwrs y Byd: Sefydliad Imperialaeth Japan ac Ymddiorseddiad yr Ymerawdwr Akihito ar Google Maps
2.18 in the School of Modern Languages
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS

Rhannwch y digwyddiad hwn