Ewch i’r prif gynnwys

Meddwl yn hirdymor: llifogydd, cenedlaethau’r dyfodol ac ansicrwydd

Dydd Mawrth, 9 Ebrill 2019
Calendar 18:30-19:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Water

Bydd darlithoedd nos Fawrth misol 2018-2019 Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd yn cael eu cynnal yn Narlithfa Wallace (0.13), Prif Adeilad, Prifysgol Caerdydd, Plas y Parc, CF10 3AT. Mae’r darlithoedd yn dechrau am 18.30. Nid oes angen cadw lle. Os oes angen i chi gael y sesiynau Holi ac Ateb yn Gymraeg, ebostiwch edwardsd2@caerdydd.ac.uk o leiaf bythefnos cyn y digwyddiad.

Mae’r pryderon presennol ynglŷn â’r effaith y gallai cynnydd yn y tymheredd ei chael ar lefelau’r môr wedi tynnu sylw at gydnabod newidiadau’r gorffennol, cydnabod y prosesau sydd ynghlwm, a goblygiadau newidiadau o’r fath; mae’r rhain i gyd wedi arwain at geisiadau i ragweld yr effeithiau yn y dyfodol. Bydd y gyfres o ddarlithoedd yn trafod rhai o’r materion hyn.

Yn ôl arbenigwyr newid hinsawdd, gallwn ddisgwyl digwyddiadau tywydd eithafol yn fwy aml, ac mae llifogydd yn un o’r effeithiau amlycaf rydym yn eu hwynebu. Bydd y sgwrs yn ymdrin â rhai o’r problemau a’r heriau ynghylch rheoli risg llifogydd yn wyneb newid hinsawdd, ac yn defnyddio safbwyntiau o Gymru, y DU a meysydd rhyngwladol.

Dr Jeremy Parr yw Pennaeth Rheoli Risg Llifogydd a Digwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru.  Mae Jeremy, sy’n byw yng Nghaerdydd, wedi gweithio yn y sector dŵr ac amgylchedd ers 30 mlynedd.

Gweld Meddwl yn hirdymor: llifogydd, cenedlaethau’r dyfodol ac ansicrwydd ar Google Maps
Wallace Lecture Theatre (0.13)
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

When Sea Levels Change