Ewch i’r prif gynnwys

Cloddio drwy destun o dan yr wyneb: Ydy cyfrifiaduron yn gallu deall iaith ddynol?

Dydd Mercher, 2 Mai 2018
Calendar 18:00-19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Scrabble tiles

Mae Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd yn eich gwahodd i’r digwyddiad nesaf yn ein Cyfres gyntaf o Ddarlithoedd Coleg.

Yr Athro Irena Spasić o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg fydd yn cyflwyno’r ddarlith.

** Cynhelir y ddarlith rhwng 6 a 7 o’r gloch, ond ymunwch â ni am luniaeth o 5 o’r gloch ymlaen ym Mhrif Siambr y Cyngor (Prif Adeilad) a hefyd ar ôl y ddarlith.

Beth mae'n ei gymryd i ddeall iaith ddynol? Mae bodau dynol yn defnyddio dau fath o wybodaeth i wneud synnwyr o eiriau ysgrifenedig: gwybodaeth am yr iaith a gwybodaeth am y byd. Mae’r ffordd yr ydym yn caffael gwybodaeth o’r fath yn destun gwrthdaro rhwng rhesymoliaeth ac empiriaeth. Mae rhesymolwyr, gan gynnwys Noam Chomsky, yn credu mai cynnyrch nodweddion cynhenid y meddwl dynol yw gwybodaeth, tra bod empirwyr yn dadlau bod gwybodaeth yn deillio o brofiad yn unig. Ble mae hynny'n gadael cyfrifiaduron? A fyddant fyth yn gallu deall ein hiaith mewn gwirionedd? Byddwn yn edrych ar y gwahanol ffyrdd y mae rhaglenni cyfrifiadurol yn prosesu geiriau ysgrifenedig ac yn edrych arnynt o'r naill safbwynt. Byddwn yn dechrau o'r gwaelod drwy esbonio’r côd deuaidd y mae cyfrifiaduron yn ei ddefnyddio i gynrychioli data (gan gynnwys testun) a gweithio ein ffordd i fyny hyd at y datblygiadau diweddaraf mewn technoleg iaith, gan gynnwys dysgu dwfn.

Derbyniodd Irena Spasić radd PhD mewn cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Salford, DU yn 2004. Ar ôl gweithio ym Mhrifysgolion Belgrade, Salford a Manceinion, ymunodd ag Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd yn 2010, a daeth yn athro llawn yn 2016. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys chwilio am destun, cynrychioli gwybodaeth, dysgu peirianyddol a rheoli gwybodaeth drwy gyfrwng rhaglenni mewn gofal iechyd, gwyddorau bywyd a gwyddorau cymdeithasol. Mae’n arwain thema chwilio am destun a data ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae’n un o gyd-sylfaenwyr Rhwydwaith Ymchwil Dadansoddeg Testunau Gofal Iechyd (HealTex)..

Gweld Cloddio drwy destun o dan yr wyneb: Ydy cyfrifiaduron yn gallu deall iaith ddynol? ar Google Maps
Darlithfa Fawr Cemeg
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn