Ewch i’r prif gynnwys

Bywyd yn y Rhewgell

Dydd Mercher, 20 Chwefror 2019
Calendar 18:00-19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Great God! This is an awful place’ oedd disgrifiad cofiadwy Capten Scott o’r Antarctig. Ond, er gwaethaf y tymereddau isel, y gwyntoedd cryfion a’r ffaith bod cyn lleied o ddŵr ar gael ar ffurf hylif, mae Antarctica yn gartref i gymunedau microbaidd sy’n ffynnu. Yn y sgwrs hon, byddaf yn archwilio beth sy’n debyg rhwng addasiadau microbaidd a’r strategaethau a ddefnyddir gan fodau dynol i oroesi mewn hinsoddau oer. Mae gwahanol dactegau yn galluogi microbau i fanteisio ar wahanol fylchau ecolegol, lle maent yn chwarae rôl hanfodol mewn cylchoedd biogeocemegol. Mae deall prosesu biolegol a biogeocemegol yn yr hinsoddau oeraf yn hanfodol, yn arbennig nawr bod y systemau hynod arbenigol hyn yn newid yn gyflym iawn. Mi fyddai’n dangos sut yr ydym ni’n monitro ecosystemau microbaidd pegynol, a sut y gall gweithgarwch biolegol yn rhannau oeraf y byd ddylanwadu ar bob un ohonom ni.

Ymunwch â ni am luniaeth o 5pm ymlaen yn Oriel VJ (Prif Adeilad) a hefyd ar ôl y ddarlith.

Gweld Bywyd yn y Rhewgell ar Google Maps
Wallace Lecture Theatre
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn