Ewch i’r prif gynnwys

Japan Heddiw 2019: Fumio Obata ac Yuya Sato

Dydd Iau, 21 Chwefror 2019
Calendar 18:30-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Dau awdur o Japan yw Fumio Obata ac Yuya Sato sy’n ceisio adfywio straeon Japaneeg drwy eu gwaith ffuglennol. Mae nofel graffig Fumio Obata, Just So Happens, yn stori am alltudiaeth a pherthyn. Mae Yumiko, sy’n byw yn Llundain, yn dychwelyd adref ar gyfer angladd ei thad, lle dilynir traddodiadau Japaneeg yn ofalus. Mae nofel Yuya Sato, Dendera, yn edrych ar chwedl Japaneeg ubasute – yr arfer o adael perthnasau oedrannus i farw mewn llefydd anial – lle mae’r arwres, Kayu Sato, yn deffro mewn cymuned iwtopaidd sydd o dan fygythiad. Bydd yr awduron yn siarad am y berthynas rhwng testun a delwedd, gan sôn am eu dylanwadau o ddiwylliant poblogaidd Japaneeg, a bydd croeso i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau.

Bydd Simon Prentis yn gadeirydd a bydd Kozue Etsuzen yn dehongli.

Cofrestru: Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ond mae angen cadw lle trwy dudalen Eventbrite.

Rhan o Japan Heddiw 2019. Rhaglen Diwylliant Gyfoes mewn partneriaeth â Sefydliad Japan a Phrifysgol Sheffield.

Wedi’i noddi gan Sefydliad Sasakawa Prydain Fawr, Cymdeithas Japan a’r Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol.

Rhan o Dymor Diwylliant Japan-DU 2019-20

Yr Hen Lyfrgell (The Old Library)
Working Street
The Hayes
Cardiff
Cardiff
CF10 1BH

Rhannwch y digwyddiad hwn