Ewch i’r prif gynnwys

O ddatganiadau i gymryd camau: gweithio mewn partneriaeth ar yr argyfwng yn yr hinsawdd

Dydd Mercher, 24 Tachwedd 2021
Calendar 09:30-10:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Mae'r drafodaeth ar-lein hon yn dwyn ynghyd banelwyr o Brifysgol Caerdydd, Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru i ystyried y cynnydd y mae pob un wedi ei wneud ers eu datganiadau ar yr argyfwng yn yr hinsawdd ddiwedd 2019.

Ymhlith y cwestiynau sy'n cael eu hystyried y mae

  • A yw'r cynnydd wedi bod yn ddigonol?
  • Sut mae’r heriau a’r cyfleoedd yn sgîl COVID-19 wedi dylanwadu ar y cynnydd?
  • Sut mae sicrhau newid sylweddol er mwyn cymryd camau go iawn o ran yr hinsawdd yma yng Nghymru?
  • Sut y dylai sefydliadau mawr gydweithio'n fwy?
  • Pa ymchwil sydd ei angen i arwain a llywio'r ymdrechion hyn?  

Yn ogystal â chlywed gan leisiau blaenllaw sy'n cynrychioli tri rhanddeiliad allweddol, bydd y sesiwn hefyd yn annog cynulleidfa ar-lein i roi ei barn gan herio’r cynnydd yn adeiladol hyd yma. Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o Wythnos Hinsawdd Cymru 2021. 

Cadeirydd: Yr Athro Lorraine Whitmarsh, Cyfarwyddwr - Canolfan Newid Hinsawdd a Thrawsnewid Cymdeithasol (CAST), Prifysgol Caerfaddon
Siaradwyr: 
Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, Llywodraeth Cymru 
Y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd 
Yr Athro Mike Bruford, Deon Cynaliadwyedd Amgylcheddol, Prifysgol Caerdydd


Gallwch chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad a’i wylio ar blatfform COP Cymru 21 

Rhannwch y digwyddiad hwn