Ewch i’r prif gynnwys

Delweddau Ymchwil 2021

Calendar Dydd Llun 6 Rhagfyr 2021, 09:00-Dydd Gwener 10 Rhagfyr 2021, 15:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Ardal Varosha yng Nghyprus

Mae'r Academi Ddoethurol yn estyn gwahoddiad ichi ymuno â dathliad Delweddau Ymchwil eleni. Mae'r gystadleuaeth yn herio ymchwilwyr ôl-raddedig i gyfleu eu hymchwil drwy gyfrwng un ddelwedd yn unig ac mewn llai na 150 o eiriau. Mae’r gystadleuaeth yn dangos yr ystod aruthrol o dalent a syniadau ledled Prifysgol Caerdydd.

Fel y llynedd, bydd Delweddau Ymchwil eleni yn digwydd ar-lein ar ffurf arddangosfa wythnos o hyd ar Twitter. Gallwch chi weld ac ymateb i'r delweddau ar Twitter a dilyn y sgyrsiau gyda'r hashnod #ImagesofResearch.


Gallwch chi hefyd bleidleisio ar gyfer Gwobr Dewis y Bobl, y mae mynd mawr arni, drwy albwm Facebook fydd yn agored ichi bleidleisio erbyn diwedd yr wythnos.

Rhannwch y digwyddiad hwn