Ewch i’r prif gynnwys

Nick Braithwaite (Y Brifysgol Agored)

Dydd Mercher, 15 Rhagfyr 2021
Calendar 16:00-17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Nick Braithwaite (Open University)

Ar ôl cael profiad o ddysgu o bell (o fewn model y Brifysgol Agored o ddysgu agored â chymorth) rydym wedi bod yn ystyried pa mor ymarferol fyddai cynnal arbrofion o bell ers sawl blwyddyn. Mae gennym ddiddordeb yn eu heffeithiolrwydd o ran bodloni nodau QAA a gofynion achredu sy'n ymwneud â sgiliau ymarferol mewn gwaith dosbarth arbrofol a phrosiectau.

Mae gennym ddiddordeb felly yn eu heffeithiolrwydd ar gyfer dysgu annibynnol. Rydym wedi cael ein hysbrydoli'n arbennig gan enghreifftiau diweddar o arbrofi o bell y tu allan i AU ar ffurf gwaith maes ar dirluniau Mars a phrofion llif unffordd DIY. Dros y deng mlynedd diwethaf, rydym wedi cael profiad ymarferol o ddefnyddio arbrofion o bell yn y cwricwlwm, ar raddfa. Rydym wedi cydnabod pa mor bwysig yw telathrebu a gwasanaethau rhyngrwyd a'r cyfle cyfyngedig ar gyfer gweithgareddau dylunio ac adeiladu. Y nod yw rhoi mynediad i fyfyrwyr at ddata go iawn drwy ryngwynebau dilys. Mae ein Labordai OpenSTEM bellach yn galluogi myfyrwyr i gynllunio a chynnal arbrofion gyda data unigol. Byddant yn casglu’r data eu hunain neu mewn grwpiau. Mae maint y garfan yn amrywio o ddegau i gannoedd. Mae'r offer sydd ei angen yn amrywio o delesgopau mewn arsyllfeydd proffesiynol i declynnau dadansoddol mewn labordai ymchwil. Mae'r senarios yn cynnwys seryddiaeth parth amser, archwilio arwyneb planedau ar y cyd, dynameg electron perthnaseddol, titradu sylfaen asid a sbectrosgopeg FTIR. Mae yna fanteision addysgegol i baratoi adnoddau dysgu cyffredinol yn enwedig ar gyfer dysgu ar-lein yn hytrach nag ôl-osod 'cysylltedd ar-lein' i adnoddau confensiynol. Ond, mae’n rhaid talu am y manteision hyn. Yn yr un modd, rydym wedi dysgu bod manteision i ddylunio arbrofion o bell o'r newydd yn hytrach nag ailadrodd yr un rhai mewn labordy traddodiadol. Mae’r buddsoddiad wedi talu ffordd, ac mae hynny yn bennaf oherwydd ein bod wedi parhau i ddefnyddio ein labordai addysgu drwy gydol pandemig CV-19. Rydym yn awyddus i gydweithio ag eraill i ddatblygu a defnyddio labordai addysgu sy'n hygyrch o bell, i wella profiad cymdeithasol ac addysgol myfyrwyr drwy ymgorffori offer ar gyfer gwaith tîm a chynnig cymorth wrth law.

Rhannwch y digwyddiad hwn