Ewch i’r prif gynnwys

Hysbysebu ar gyfer Gweithdai Rhanbarthol ar Gydrannu Adnoddau

Dydd Mercher, 22 Medi 2021
Calendar 12:30-17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Cooperatising Resources in Arable and Horticulture events

Mae cynhyrchwyr garddwriaethol ac âr bach i ganolig yng Nghymru’n wynebu heriau wrth gael gafael mewn peiriannau addas a fforddiadwy a chyrchu seilwaith, yn arbennig ar gyfer prosesu. Mae Cynghrair Gweithwyr y Tir Cymru, y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy a Rhaglen Sofraniaeth Hadau’r DU ac Iwerddon yn trefnu cynulliadau rhanbarthol i helpu ffermwyr i gydweithio i fynd i’r afael â’r heriau hyn drwy gydweithredu.

Dilyniant yw’r cynulliadau rhanbarthol hyn i banel a thrafodaeth ar-lein, ‘Cydrannu Adnoddau mewn Ffermio Âr a Garddwriaeth yng Nghymru’, fel rhan o Ŵyl Lysiau Ffres! lle buon ni’n adnabod rhai o’r prif heriau sy’n wynebu pob sector a rhai atebion cydweithredol posibl.

Diben y digwyddiadau rhanbarthol hyn yw gwireddu’r atebion yma drwy gydweithredu’n lleol i edrych ar ba adnoddau sydd gynnon ni, lle maen nhw a beth sydd ei angen arnon ni. Wedyn, byddwn ni’n cymryd y camau cyntaf i greu cynllun gweithredu i sefydlu atebion cydweithredol, boed yn gwneud cais am gyllid, trefnu system ar gyfer rhannu peiriannau, neu ddechrau sefydlu canolfan brosesu.

N/A
Paviland Farm
Rhossili
Rhossili
SA3 1PE

Rhannwch y digwyddiad hwn