Ewch i’r prif gynnwys

Gwaith ansicr, Bywyd ansicr: Diweithdra a gwaith yng nghyd-destun neoryddfrydiaeth

Calendar Dydd Mercher 8 Medi 2021, 09:00-Dydd Gwener 10 Medi 2021, 17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Cardiff University School of Social Sciences

Crynodeb o'r gweithdy

A hithau wedi gweld 40 mlynedd o bolisïau neoryddfrydol sydd wedi ysgogi mwy o ddiweithdra/tangyflogaeth nag erioed o’r blaen, mae gwaith anffurfiol ac ansicr bellach yn llywio datblygiad economaidd a lles cymdeithasol ym Mrasil. Mae angen offer cyfranogol addas i gefnogi cynnydd ar Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig i ddeall datblygiadau economaidd arloesol mewn gwaith, yn yr amgylchedd a/neu mewn profiadau bob dydd o ansicrwydd. Roedd hyn yn wir cyn y pandemig, sydd wedi atgyfnerthu’r angen i ni ddeall y gwaith cymdeithasol ac economaidd o lywio ansicrwydd.

Bydd dau grŵp o 13 o ymchwilwyr yr un o’r DU a São Paul, Brasil sydd ar ddechrau eu gyrfa, yn gweithio ar bynciau ansicrwydd, gwaith, Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, neoryddfrydiaeth a goddrychedd ac yn ceisio datblygu dulliau cyfranogol o wneud ymchwil yn y meysydd hyn sy’n gysyniadol ac yn fethodolegol yn dod ynghyd ar gyfer y gweithdy Researcher Links hwn.

Yn y gweithdy hwn a fydd yn para tri hanner diwrnod, byddwn yn mynd i'r afael â'r angen i arloesi ymchwil i waith ansicr a diweithdra/tangyflogaeth ym Mrasil ac yn datblygu dulliau o weithio mewn partneriaeth sy’n berthnasol i bolisi ac yn seiliedig ar leoedd. Byddwn yn ceisio gwella ffurfiau newydd ar gynnwys dinasyddion a rhanddeiliaid, yn ogystal â nodi ymatebion arloesol gan gymunedau lleol. O ystyried ein cyd-destun presennol, bydd sylw’n cael ei roi i gynaliadwyedd grwpiau dinasyddion a grwpiau lleol drwy ddefnyddio gwersi a ddysgwyd o bandemig COVID-19.

I wneud cais, ewch ati i lenwi’r ffurflen gais amgaeedig a'i hanfon at macbride-stewarts@caerdydd.ac.uk a mpriolicordeiro@usp.br erbyn dydd Llun, 16 Awst 2021.

I wneud cais cwblhewch y ffurflen ar-lein yma cyn Dydd Llun 6 Medi 2021.

Rhannwch y digwyddiad hwn