Ewch i’r prif gynnwys

Gweminar Ein Gofod Ein Dyfodol

Dydd Llun, 5 Gorffennaf 2021
Calendar 09:30-11:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Interest is not enough Webinar 5 July 21 10:3 CEST

Nod Ein Gofod Ein Dyfodol yw ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i gymryd eu camau cyntaf tuag at yrfa yn sector y gofod. Bydd yn gwneud hyn drwy gynnig cyfleoedd i ddisgyblion ysgol ledled Ewrop ryngweithio â'r pwnc mewn ffordd ddiddorol a chynhwysol a chyfleu nad yw gyrfa yn y maes hwn yn amhosibl. Mae’r gofod i bawb! Drwy ddatblygu gweithgareddau, offer a dulliau addysgu, gellir helpu athrawon a'u myfyrwyr i gyrraedd y sêr gyda'i gilydd.

Yn rhan o'r prosiect Ein Gofod Ein Dyfodol, gwnaeth disgyblion ysgolion o bob rhan o Ewrop gymryd rhan mewn cyfres o arolygon.  Mae'r data o'r arolygon hyn wedi dangos, er bod gan ddisgyblion oedran ysgol ddiddordeb mawr mewn pynciau sy'n ymwneud â’r gofod, nid yw'r mwyafrif yn ystyried y gofod yn opsiwn gyrfa posibl, ac ni fyddent yn mynd ymlaen i astudio'r pwnc ymhellach. Pam nad yw diddordeb angerddol yn y gofod yn cyfateb i bobl yn cychwyn ar yrfa yn y maes? Ble rydym yn methu wrth drafod y gofod? Ymunwch â ni ar 5 Gorffennaf am 10:30 CEST ar gyfer Nid yw Diddordeb yn Ddigon.

Amcanion

Trafod y rhwystrau presennol a allai atal myfyrwyr rhag astudio Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) a pharhau i ddilyn gyrfa yn sector y gofod
Mynd i'r afael â sut mae pynciau STEM yn cael eu haddysgu mewn ysgolion a'r angen i gynnwys agweddau ar waith ac ymchwil sector y gofod mewn gwahanol bynciau yng nghwricwlwm yr ysgol
Tynnu sylw at yr angen i newid y naratif o ran y bobl sy'n gweithio yn sector y gofod a'r angen i hyrwyddo llwybrau gyrfa amgen sydd ar gael

Rhannwch y digwyddiad hwn