Ewch i’r prif gynnwys

Y degawd nesaf: Ailgychwyn dyfodol y ddynoliaeth - Prifysgol Caerdydd mewn trafodaeth â... Jonathon Porritt CBE (Hon 2004)

Dydd Mercher, 19 Mai 2021
Calendar 12:30-13:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Jonathan Porritt

Mae Jonathon Porritt CBE yn ymuno â Dr Stuart Capstick, Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Newid Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol (Canolfan CAST) ddydd Mercher 19 Mai am 12.30, ar gyfer trafodaeth fywiog ynghylch sut y gallwn sicrhau dyfodol carbon isel cadarnhaol trwy roi pobl wrth galon gweithredu dros yr hinsawdd.    

Mae Jonathon, sy'n Gyd-sylfaenydd Fforwm ar gyfer y Dyfodol, yn awdur, darlledwr, a sylwebydd ar ddatblygu cynaliadwy. Dyfarnwyd CBE iddo yn 2000 am wasanaethau i amddiffyn yr amgylchedd ac mae'n Gymrawd Anrhydeddus i Brifysgol Caerdydd (2004).   

Yn ystod y gweminar hwn, bydd Jonathon yn rhoi ei farn ar y camau gweithredu ar yr hinsawdd sydd angen eu rhoi ar waith dros y degawd nesaf, a bydd yn trafod gyda Stuart sut y gall cymdeithas sifil fod yn rhan o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd i ail-lunio ein dyfodol. Bydd hefyd yn ateb cwestiynau gan y gynulleidfa. 

Prifysgol Caerdydd mewn trafodaeth â... 

Hwn yw’r pedwerydd mewn cyfres newydd o ddigwyddiadau cyhoeddus ar-lein, Prifysgol Caerdydd mewn trafodaeth â..., fydd yn dod â meddylwyr blaenllaw ynghyd gyda’n harbenigwyr rhagorol yma ym Mhrifysgol Caerdydd i drafod ac amlygu’r materion pwysig y mae ein planed a’i phobl yn eu hwynebu. 

Trefn y Digwyddiad    

Bydd  y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel gweminar Zoom a byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.  

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg drwy ddefnyddio’r blwch cwestiynau ar Zoom yn ystod y sesiwn holi ac ateb.  

Cofrestru  

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.  

Hysbysiad Diogelu Data  

Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer cyfres darlithoedd cyhoeddus Prifysgol Caerdydd mewn Trafodaeth, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data.  

Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.   

Drwy gyflwyno eich manylion, rydych yn caniatáu i Brifysgol Caerdydd brosesu eich data personol er mwyn anfon gwybodaeth atoch am gyfres darlithoedd cyhoeddus Prifysgol Caerdydd mewn Trafodaeth.   

Gallwch dynnu’r cydsyniad hwn yn ôl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â CU-Events@caerdydd.ac.uk .  

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Cardiff University in conversation with