Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd Ysgol Fusnes – Rheolaeth adnoddau dynol (RAD) yn y sector cyhoeddus: A yw’n gweithio? gyda'r Athro Alex Bryson

Dydd Iau, 6 Mai 2021
Calendar 14:00-16:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Professional person

Rheolaeth adnoddau dynol(RAD) yn y sector cyhoeddus: A yw’n gweithio?

Mae llenyddiaeth sylweddol yn nodi y gall cwmnïau sector preifat a’u gweithwyr elwa ar amrywiol arferion AD ac RAD Dwys. Mae pryderon ynghylch cynhyrchiant yn y sector cyhoeddus wedi arwain at fentrau’r llywodraeth i hyrwyddo’r arferion hyn yn y sector cyhoeddus. Gan dynnu ar bapurau diweddar ac ymchwil gyfredol, bydd Alex yn dangos y gall rhai o’r arferion hyn fod yn fuddiol i gyflogwyr sector cyhoeddus, tra nad yw rhai eraill. Mewn cyferbyniad, nid yw’r arferion hyn yn tueddu i fod yn gysylltiedig â chanlyniadau positif i weithwyr y sector cyhoeddus. Bydd Alex hefyd yn ystyried goblygiadau’r canfyddiadau hyn i bolisi cyhoeddus.

Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Hwb PrOPEL – menter newydd o bwys a ddyluniwyd i gefnogi gwelliannau mewn cynhyrchiant trwy well ymarfer yn y gweithle ac ymgysylltu â gweithwyr. Mae'r seminar hon yn rhan o gyfres Ymchwil Ryngwladol PrOPEL sy'n arddangos yr ymchwil ddiweddaraf ar rôl gweithleoedd wrth ysgogi ymgysylltiad a chynhyrchedd mewn byd ôl-COVID-19.

Mae Alex Bryson yn Athro Gwyddor Gymdeithasol Feintiol yn Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol UCL. Mae hefyd yn Gymrawd Ymchwil yn y Sefydliad Economeg Llafur a’r sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, lle bu gynt yn Bennaeth y Grŵp Cyflogaeth. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar economeg llafur, cysylltiadau cyflogaeth a gwerthuso rhaglenni.

Os hoffech chi ymuno â'n Cymuned Addysg Weithredol a derbyn gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, Sesiynau dros Frecwast, gwybodaeth am gyrsiau, a'n cylchlythyrau misol, dilynwch y ddolen yma (rydyn ni'n hoffi dilyn y rheolau GDPR).

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education