Ewch i’r prif gynnwys

Y Gymraeg a’r Pandemig: Ail-lunio’r Dyfodol? Prifysgol Caerdydd mewn trafodaeth â… Mabli Jones, Savanna Jones a'r Athro Laura McAllister

Dydd Mawrth, 16 Mawrth 2021
Calendar 12:30-13:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

ICW Cymraeg

Mae Mabli Jones, Savanna Jones a'r Athro Laura McAllister CBE (PhD 1995, Hon 2013) yn ymuno â Dr Siwan Rosser a Dr Huw Williams o Brifysgol Caerdydd ddydd Mawrth 16 Mawrth am 12.30 yn yr hyn sy'n argoeli i fod yn drafodaeth graff am y Gymraeg yng nghyd-destun y pandemig.

Mae Laura yn Athro mewn Polisi Cyhoeddus a Llywodraethu Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd.

Mabli yw Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith ac mae wedi bod yn ymgyrchu dros y mudiad ers blynyddoedd lawer.

Mae Savanna yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr y Mudiad Meithrin, ac yn gweithio ym maes amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant mewn addysg uwch.

Yn ystod y gweminar hwn bydd y siaradwyr yn trafod dyfodol y Gymraeg, gan ganolbwyntio'n benodol ar addysg, yr argyfwng tai, hawliau o ran y Gymraeg, a'r cyd-destun gwleidyddol ehangach.

Prifysgol Caerdydd mewn trafodaeth â...  
Dyma'r trydydd digwyddiad yn ein cyfres digwyddiadau cyhoeddus ar-lein, Prifysgol Caerdydd mewn trafodaeth â... fydd yn dod â meddylwyr blaenllaw ynghyd gyda’n harbenigwyr rhagorol yma ym Mhrifysgol Caerdydd i drafod ac amlygu’r materion pwysig y mae ein planed a’i phobl yn eu hwynebu.

Trefn y Digwyddiad
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel gweminar Zoom a byddwn yn recordio'r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn Gymraeg, gyda chyfieithu ar y pryd i'r Saesneg ar gael.

Cofrestru 
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Hysbysiad Diogelu Data 
Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer cyfres darlithoedd cyhoeddus Prifysgol Caerdydd mewn Trafodaeth, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data.

Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Drwy gyflwyno eich manylion, rydych yn caniatáu i Brifysgol Caerdydd brosesu eich data personol er mwyn anfon gwybodaeth atoch am gyfres darlithoedd cyhoeddus Prifysgol Caerdydd mewn Trafodaeth.

Gallwch dynnu’r cydsyniad hwn yn ôl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â CU-Events@caerdydd.ac.uk.

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Cardiff University in conversation with