Ewch i’r prif gynnwys

Embodied Adaptation and Performed Translation

Dydd Mercher, 17 Mawrth 2021
Calendar 13:30-15:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Transnational Cultural & Visual Studies stock image

Gweminar gyda Dr Dr Katja Krebs (Prifysgol Bryste), a drefnir gan thema ymchwil Astudiaethau Traws-wladol, Diwylliannol a Gweledol yr Ysgol Ieithoedd Modern.

Crynodeb
Mae’r papur hwn yn canolbwyntio ar achosion o drefedigaethedd, ymgorffori addasiadau a pherfformio cyfieithiadau. Yn hytrach nag ystyried addasu fel digwyddiad testunol eithriadol, rwy’n dadlau bod angen deall addasu fel arfer sydd wedi’i ymgorffori; arfer sy’n cael ei ystyried fel y peth arferol i’w wneud, yn hytrach na’r eithriad, mewn cyd-destunau penodol fel y theatr a chelfyddydau perfformio eraill. Mae moderniaeth yn hwyluso dealltwriaeth o theatr nad yw’n seiliedig ar destunau o reidrwydd bellach. Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, ystyriodd theatrau gorllewinol wahanol syniadau o berfformio gan barhau i ddefnyddio addasu fel eu prif ddull ymgysylltu ar yr un pryd. Drwy ymchwilio i gyd-destunau a fframweithiau ynghylch perfformio ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, fel Neuadd Cerddoriaeth Prydain, mae’r papur hwn yn dadlau bod agor ein dealltwriaeth o addasu’n cyflwyno cipolwg ar ffyrdd o ymgorffori trafodaethau cydamserol penodol mewn arferion addasu. Ar yr un pryd, mae cyd-destun trefedigaethol moderniaeth yn hwyluso asesiadau o addasu fel gweithred ag islifau gwleidyddol, sy’n atgyfnerthu, yn ailsgriptio ac yn ailgerfio syniadau (problemus) y genedl wleidyddol o ddinasyddiaeth.

Bywgraffiad
Mae Katja Krebs yn Uwch-ddarlithydd mewn Theatr a Pherfformio ym Mhrifysgol Bryste ac yn bennaf, mae ei diddordebau ymchwil ym meysydd ynghylch astudiaethau trosi ac addasu ar gyfer perfformio, hanes theatr a hanesyddiaeth. Yn benodol, mae hi’n ymddiddori yn y berthynas rhwng arferion trosi a’r traddodiad dramatig, ac arferion, cynhyrchion a chysyniadau trosi ac addasu. Mae rhai o’i diddordebau ymchwil perthnasol yn cynnwys hanes theatr Ewropeaidd yn yr ugeinfed ganrif, sut cafodd arferion theatr eu cyfnewid ar draws Ewrop, ac ymchwilio i arferion trosi a pherfformio. Hi oedd un o gyd-sylfaenwyr y Journal of Adaptation in Film and Performance, ac mae hi wedi cyhoeddi’n helaeth ynghylch arferion addasu a throsi yng nghyd-destun theatr Ewropeaidd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Yn ddiweddaraf, mae hi wedi cyd-olygu Routledge Companion to Adaptation (2018).

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 3 Mawrth i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Rhannwch y digwyddiad hwn