Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Busnes Caerdydd - Seswn Hysbysu dros Frecwast gyda Dr Hossein Jahanshaloo

Dydd Mawrth, 26 Ionawr 2021
Calendar 08:30-09:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Audience

Bitcoin Dan y Chwyddwydr

Sesiwn dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd, Ionawr 26 2021

Mae Dyfeisio Bitcoin yn 2009 yn cael ei ystyried yn un o’r datblygiadau ariannol mwyaf dylanwadol yn hanes diweddar. Yn hytrach na systemau ariannol traddodiadol, mae Bitcoin yn gweithio heb unrhyw awdurdod canolog, gan gynnig math o dryloywder, a lefel newydd o argaeledd, nad oedd wedi bodoli o’r blaen.

Fodd bynnag, mae data rhwydwaith cyfoethog Bitcoin yn cael ei danddefnyddio’n sylweddol ym meysydd ymchwil, masnachu, rheoleiddio, gwrth-wyngalchu arian, ac atal gweithgareddau terfysgol. Mae hyn yn bennaf oherwydd nad yw data Bitcoin yn hygyrch iawn y tu hwnt i’r rhai sydd yn gallu ei fwyngloddio. Mae’r gallu, felly, i’w wneud yn haws ei ddeall, ac mewn fformat y gellir ei ddefnyddio a’i drefnu, yn un ddymunol iawn.

Yn y sesiwn hon, bydd Dr Jahanshahloo yn trafod Bitcoin, paham y daeth i fodoli, a sut mae’n gweithio. Yna, bydd yn cyflwyno CUBiD (Cardiff University Bitcoin Database) – yr unig gronfa ddata strwythuredig sy’n caniatáu i bawb elwa o ddata Bitcoin heb fod angen sgiliau TG arbennig. I gloi, bydd yn cyflwyno rhai o gymwysiadau CUBiD ym meysydd gwrth-wyngalchu arian, atal gweithgareddau terfysgol, osgoi treth, masnachu, rheoleiddio a goruchwylio ariannol, ymchwil ac addysgu, gan helpu i sefydliadau werthfawrogi sut y gall CUBiD fod o ddefnydd iddynt.

Os hoffech chi ymuno â'n Cymuned Addysg Weithredol a derbyn gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, Sesiynau dros Frecwast, gwybodaeth am gyrsiau, a'n cylchlythyrau misol, dilynwch y ddolen yma (rydyn ni'n hoffi dilyn y rheolau GDPR).

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education