Ewch i’r prif gynnwys

Rôl ac Effeithiolrwydd Cyfathrebu Amlieithog (iechyd) yng nghyfnod COVID-19: Myfyrdodau o’r DU a Qatar

Dydd Iau, 14 Ionawr 2021
Calendar 16:00-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Transnational Cultural & Visual Studies stock image

Gweminar sy'n cynnwys dwy sgwrs gan Dr Khaled Al-Shehari (Prifysgol Qatar) a Dr Khetam Al Sharou (Coleg Imperial Llundain), sy'n cael ei chynnal gan thema ymchwil Astudiaethau Diwylliannol a Gweledol Traws-wladol o dan y thema ymchwil Argyfwng a Diwylliant ar draws yr Ysgol. Bydd y digwyddiad yn cael gymedroli gan Dr Dia Borresly (Prifysgol Qatar).

Sgwrs 1: Darparu gwybodaeth am COVID-19 i’r rhai nad ydynt yn siarad Arabeg yn Qatar: Polisïau ac arferion
Athro Cynorthwyol Khaled Al-Shehari

Crynodeb
Gall beryglu bywydau os nad yw neges ataliol am COVID-19 yn cyrraedd alltudion gan nad ydynt yn siarad iaith swyddogol y wlad letyol. Nod y sgwrs gyfredol yw archwilio polisïau a fabwysiadwyd gan lywodraeth Qatar ar gyfathrebu gwybodaeth hanfodol i breswylwyr nad ydynt yn siarad Arabeg, iaith swyddogol Qatar, yn ystod argyfyngau yn gyffredinol ac yn ystod pandemig COVID-19 yn benodol. Bydd y sgwrs yn tynnu sylw at bolisïau Qatar mewn perthynas â defnyddio Arabeg fel iaith swyddogol ynghyd â’i hymdrechion tuag at gyfathrebu amlieithog mewn deddfau, rheoliadau a pholisïau cyhoeddedig. Yn ogystal, nod yr astudiaeth yw ymchwilio sut y defnyddiodd awdurdodau yn Qatar gyfryngau cymdeithasol i ledaenu gwybodaeth hanfodol am COVID-19 i breswylwyr nad ydynt yn siarad Arabeg. Mae dadansoddiad ansoddol a meintiol yn cael ei gymhwyso i gasgliad o negeseuon ar y cyfyngau cymdeithasol sy'n ymwneud â COVID-19 a gyhoeddwyd ar gyfryngau cymdeithasol (Twitter, Instagram, Facebook) chwe chorff swyddogol yn Qatar: Y Weinyddiaeth Iechyd y Cyhoedd, y Weinyddiaeth Mewnol, y Weinyddiaeth Addysg, Swyddfa Cyfathrebu'r Llywodraeth, a Chorfforaeth Cyfryngau Qatar. Caiff negeseuon cyfryngau cymdeithasol eu dosbarthu yn ôl y gwahanol ieithoedd maen nhw'n eu ddefnyddio i fynegi eu cynnwys. Dadansoddir ffigurau sy'n ymwneud â rhannu, hoffi, ail-drydar, ateb a phostio sylwadau i asesu cyrhaeddiad yr wybodaeth gyhoeddedig. Mae canfyddiadau’r sgwrs yn tynnu sylw at effaith defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gyfleu gwybodaeth sy’n gysylltiedig ag argyfwng; mae'n awgrymu atebion posibl a all wella'r allgymorth i bobl sy'n agored i niwed gan nad ydynt yn gallu siarad iaith swyddogol gwlad.  

Bywgraffiad
Mae Khaled Al-Shehari yn Athro Cynorthwyol mewn Astudiaethau Cyfieithu ym Mhrifysgol Qatar. Mae ganddo MSc (1998) a PhD (2001) mewn Astudiaethau Cyfieithu o Brifysgol Manceinion yn y Deyrnas Unedig. Ar hyn o bryd mae’n ymchwilio i ddulliau arloesol ar gyfer addysgu cyfieithu. Mae ei brosiectau ymchwil cyfredol hefyd yn cynnwys gwaith ym meysydd iaith a chyfathrebu mewn lleoliadau argyfwng. Mae hefyd yn gyd-awdur The Arabic-English Translator as Photographer gan Routledge. Mae wedi cyhoeddi erthyglau yn The Interpreter a Translator Trainer a chasgliadau wedi’u golygu.


Sgwrs 2: Cyfathrebiadau Iechyd wedi'u teilwra yng Nghyfnod Argyfwng COVID-19: Dull y Deyrnas Unedig rhwng Syniad a Realiti
Dr Khetam Al Sharou

Crynodeb
Gyda chlefydau trosglwyddadwy fel COVID-19 yn dod i’r amlwg, mae sicrhau cyfathrebu effeithiol ac effeithlon yn dod yn fwy hanfodol, yn arbennig gyda diffyg triniaeth effeithiol a lledaeniad cyflym y feirws. Mae'r sefyllfa anrhagweladwy hon yn gofyn am greu a lledaenu neges gywir ac amserol a all helpu i atal a rheoli trosglwyddiad y feirws trwy godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a newid ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd. Fodd bynnag, gallai methiant o ran cyfathrebu arwain at ledaeniad ehangach o'r feirws a chyfradd marwolaeth uwch. Roedd hyn yn amlwg ar ddechrau'r pandemig presennol, yn enwedig mewn gwlad fel y DU, lle mae cymunedau amlieithog ac amlddiwylliannol yn cydfodoli. Felly, er mwyn i negeseuon iechyd fod yn effeithiol, mae angen eu teilwra i weddu i anghenion y cymunedau hyn. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod cyfradd heintiau ymhlith cymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y DU yn uwch na'r rhai ymhlith cymunedau Gwyn Prydeinig. Mae’r ffigurau sy’n ymwneud â chanlyniadau iechyd hyd yn oed yn waeth. Bydd y sgwrs hon yn canolbwyntio ar ddull y DU o gynnal ymyriadau iechyd sy'n targedu cymunedau lleiafrifol, a bydd yn mynd i'r afael â materion cyrhaeddiad, effeithiolrwydd a phriodoldeb wrth asesu deunyddiau ymgyrchu COVID-19 wedi'u teilwra. Bydd hefyd yn rhoi mewnwelediadau i sut y gellir gwella dull o'r fath er mwyn sicrhau bod negeseuon yn cael eu teilwra a’u cyfathrebu’n effeithiol a’u bod yn cyrraedd ac yn cael effaith ar y gynulleidfa darged.

Bywgraffiad
Mae Dr Khetam Al Sharou yn ymchwilydd yn Adran Gyfrifiadura, Coleg Imperial, Llundain. Mae ganddi PhD mewn Astudiaethau Cyfieithu (Coleg Prifysgol Llundain) ac MSc mewn Cyfieithu ac Offer Cyfieithu a Gynorthwyir gan Gyfrifiadur (Prifysgol Heriot-Watt). Yn y gorffennol mae wedi dal swyddi ymchwil ac addysgu mewn amryw sefydliadau yn y DU (UCL, LSE, Surrey) a Syria (Prifysgol Damascus, Uwch Sefydliad Cyfieithu a Dehongli). Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys rhyngweithio rhwng pobl a pheiriannau a'u cymwysiadau ehangach, didacteg mewn addysg uwch a hyfforddiant gofal iechyd rhyngddiwylliannol. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn dod o hyd i atebion arloesol i alluogi cyfathrebu amlieithog mewn amryw o leoliadau critigol a gwella profiadau defnyddwyr. Ar hyn o bryd mae hi’n cymryd rhan mewn nifer o brosiectau ymchwil traws-ddisgyblaethol sy'n canolbwyntio ar integreiddiad ieithyddol a chyfathrebu oedolion sy'n ffoaduriaid a meddygon sy'n ffoaduriaid yn Ewrop a'r DU, yn ogystal ag ar wasanaethau cyfieithu mewn senarios meddygol ac argyfyngau.

Bywgraffiad y Cymedrolwr
Mae Dia Borresly yn Athro Cynorthwyol mewn Astudiaethau Cyfieithu ym Mhrifysgol Qatar. Mae ganddi MA (2011) a PhD (2017) mewn Astudiaethau Cyfieithu o Brifysgol Caerdydd. Mae ganddi ddiddordeb mewn hyfforddi cyfieithwyr, a chyfieithwyr naturiol. Mae ei hymchwil gyfredol yn archwilio gwaith cyfieithwyr sy’n hyfforddi a chyfieithwyr proffesiynol wrth gyfieithu eitemau diwylliannol penodol mewn gweithiau llenyddol. Mae hi hefyd yn gweithio ar greu geiriadur o ddiarhebion Kuwaiti a'u cyfieithu i'r Sbaeneg. Roedd hi’n gyd-awdur ar “Towards a sociolinguistic theorization of solidarity: A case study on Twitter communication in Qatar during the blockade”, ac fe gyhoeddodd “Influence of Translator Training on the Perceptions of Translation as well as on the Role of the Translator: A Comparative Study”.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Iau 7 Ionawr i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Cofnodi Digwyddiad
Sylwch y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio.

Rhannwch y digwyddiad hwn