Ewch i’r prif gynnwys

Sut mae cyfieithiadau’n cael eu derbyn mewn gwirionedd?

Dydd Iau, 19 Tachwedd 2020
Calendar 13:30-15:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Professor Anthony Pym

Darlith gyhoeddus ar-lein gydag Anthony Pym, yr Athro Astudiaethau Rhyngddiwylliannol a Chyfieithu o fri yn Mhrifysgol Rovira i Virgili yn Tarragona, Sbaen; Athro Astudiaethau Cyfieithu ym Mhrifysgol Melbourne, Awstralia; ac Athro Anarferol ym Mhrifysgol Stellenbosch, De Affrica. Trefnir y digwyddiad hwn gan thema ymchwil Astudiaethau Traws-wladol, Diwylliannol a Gweledol yr Ysgol Ieithoedd Modern.

Crynodeb
Mae ymchwil empirig ar y ffyrdd y mae darllenwyr yn prosesu cyfieithiadau’n siomedig yn aml. Er gwaethaf llawer o drafodaethau chwyrn ym maes astudiaethau cyfieithu, gall gwahanol strategaethau cyfieithu gael effaith wan ar y broses ddarllen a sgoriau dealltwriaeth mewn gwirionedd. O safbwynt cyfathrebu newid ymddygiad, fodd bynnag, mae tystiolaeth o bwyntiau troi sylweddol yn y broses dderbyn, lle mae ymddiriedaeth y darllenydd naill ai’n cael ei hennill neu’i cholli. Felly, mae ymddiriedaeth yn dod yn ffactor allweddol ar gyfer trafodaeth drosiannol gydweithredol. Bydd y ddarlith hon yn cyflwyno canfyddiadau sawl astudiaeth derbyn empirig a gynhaliwyd dros y pum mlynedd diwethaf mewn meysydd o drafodaeth ynghylch materion tramor i dderbyn isdeitlau cyfieithu peirianyddol crai.

Bywgraffiad
Mae Anthony Pym yn Athro Astudiaethau Rhyngddiwylliannol a Chyfieithu o fri yn Mhrifysgol Rovira i Virgili yn Tarragona, Sbaen; Athro Astudiaethau Cyfieithu ym Mhrifysgol Melbourne, Awstralia; ac Athro Anarferol ym Mhrifysgol Stellenbosch, De Affrica. Fe oedd Llywydd Cymdeithas Ewrop ar gyfer Astudiaethau Cyfieithu o 2010 tan 2016.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Llun 9 Tachwedd i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Cofnodi Digwyddiad
Sylwch y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio.

Rhannwch y digwyddiad hwn