Ewch i’r prif gynnwys

TEDxPrifysgolCaerdydd

Dydd Mawrth, 3 Tachwedd 2020
Calendar 12:00-15:45

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

A grey cityscape skyline with elements of red representing creative industries.

O gymryd y cam creadigol cyntaf hwnnw i fideos ffug o’r enw ‘deepfakes’, bydd ein siaradwyr TEDxPrifysgolCaerdydd yn trafod creadigrwydd a’i lu o ffurfiau:

  • Astudiodd Alexia Barrett (BA 2020), newyddiaduraeth, cyfathrebu a gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae ar hyn o bryd yn aelod o fwrdd cynghori Caerdydd Creadigol. Mae ei bryd ar ddilyn gyrfa mewn ysgrifennu ar gyfer y sgrin, cyfarwyddo, a chyflwyno ac mae hi’n nesu at ei breuddwyd gam wrth gam. Bydd hi'n rhannu sut i gymryd y cam creadigol cyntaf hwnnw.
  • Mae'r Athro Damian Walford Davies yn Rhag Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol. Ei feysydd ymchwil ac ymarfer yw llenyddiaeth a gwleidyddiaeth y cyfnod Rhamantaidd; y theorïau a dulliau a ddefnyddir i ddeall y cyfnod; daearyddiaeth lenyddol; ysgrifennu cyfrwng Saesneg yng Nghymru; barddoniaeth yn yr ugeinfed ganrif; ac Ysgrifennu Creadigol. Yr Athro Walford Davies oedd Cadeirydd cyntaf Llenyddiaeth Cymru – un o saith cwmni celfyddydau cenedlaethol Cymru – rhwng 2012 a 2018. Mae'n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
  • Georgina Harvey, myfyriwr yn y drydedd flwyddyn yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg sy’n angerddol dros annog mwy o fenywod i astudio pynciau STEM. Bydd hi’n trafod fideos ffug, neu ‘deepfakes’, ac yn gofyn a ddylem ni eu hystyried fel rhywbeth doniol neu rywbeth mwy sinistr.
  • Bydd Joycelyn Longdon (BSc 2019), yn archwilio amrywiaeth yn y diwydiant creadigol a sut y gallwn ni i gyd gefnogi gweithwyr creadigol o liw. Hi yw sylfaenydd BLACKONBLACK a Climate in Colour. Mae hi’n astudio MRes + PhD mewn Ymchwil Hinsoddol, drwy gymhwyso AI at y Newid yn yr Hinsawdd.
  • Bydd Naikena Mutulili, myfyriwr israddedig yn Ysgol y Biowyddorau, yn archwilio ‘Meddyliau creadigrwydd’. Mae hi’n credu’n gryf mewn grym creadigrwydd i newid pethau er gwell yn y byd a bod pob person yn greadigol yn y bôn. Mae hi’n un o gyd-sylfaenwyr FreedomWithinKE, elusen sy’n cefnogi carcharorion benywaidd a’u plant sy’n byw mewn carchardai yn Kenya. Mae hi’n hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant fel aelod o Grŵp Llywio Cydraddoldeb Hiliol Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ac yn un o gyd-sylfaenwyrRace Link Collective, platfform cymdeithasol sydd â’r nod o rymuso llais myfyrwyr wrth drafod materion sy’n ymwneud ag amrywiaeth a chynhwysiant mewn addysg uwch.
  • Mae Yassmine Najime yn credu mewn creadigrwydd ym mhopeth y mae hi’n ei wneud, yn datrys y codau ac yn gyrru prosiectau yn eu blaenau. Yn ei chyflwyniad ‘From Law to (behind) the big screen: questioning creativity’, bydd hi’n rhannu ei thaith o astudio’r gyfraith i ddod yn bennaeth adran celfyddyd ddigidol.
  • Mae Matthew Roberts, yn fyfyriwr ôl-raddedig mewn Therapi Galwedigaethol yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd. Cafodd ei ddenu i weithio gyda phlant ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ar ôl cwblhau gradd mewn hanes. Bydd yn archwilio creadigrwydd ym maes gofal iechyd a’r heriau a’r cyfleoedd gydag arfer cyfoes.

Mae cost y tocyn yn rhodd talu-beth-y-gallwch a fydd yn mynd i gefnogi Theatr y Sherman, canolbwynt ar gyfer y celfyddydau creadigol yng Nghaerdydd. Roedd y Sherman - sy'n hoff le i lawer yng nghymuned Prifysgol Caerdydd - i fod i gynnal TEDxPrifysgolCaerdydd 2020. Fodd bynnag, oherwydd y pandemig, gorfodwyd y theatr i gau tan Wanwyn 2021. O ganlyniad, mae ei hincwm hanfodol wedi diflannu, a allai gael effaith ddinistriol ar ei allu i greu theatr eithriadol i gymunedau yng Nghaerdydd a thu hwnt.

Blwyddyn yma rydyn yn gweithio gyda Caerdydd Creadigol sydd yn cefnogi'r digwyddiad. Bydd Caerdydd Creadigol yn cynnal parti ar ôl y digwyddiad o 16:00 er mwyn parhau'r sgwrs.

Ymunwch â Caerdydd Creadigol ar ôl y cyflwyniad olaf, i gysylltu â'r siaradwyr a phawb oedd yn bresennol i drin a thrafod y cyflwyniadau rydych chi wedi'u clywed y diwrnod hwnnw. Rydym yn eich gwahodd i wneud cysylltiadau newydd, tanio syniadau newydd a pharhau â'r drafodaeth yn yr amgylchedd anffurfiol hwn.

Cofrestrwch ar gyfer CONNECT UP gyda Caerdydd Creadigol

Rydym am sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau TEDxPrifysgolCaerdydd. Rhowch wybod i ni sut y gallwn wneud y digwyddiad yn hygyrch i chi drwy ebostio tedxcardiffuni@caerdydd.ac.uk.

Digwyddiad nid-er-elw yw TED a'i nod yw rhannu syniadau. Gan amlaf, gwneir hyn ar ffurf trafodaethau byr a phwerus. Dechreuodd TED fel cynhadledd oedd yn dod â thechnoleg, adloniant a dylunio ynghyd. Erbyn hyn, mae'n trin a thrafod bron pob pwnc o dan haul - gan gynnwys gwyddoniaeth, busnes a materion byd-eang — mewn dros 100 o ieithoedd. Trefnir digwyddiadau megis TEDx Prifysgol Caerdydd yn annibynnol i helpu i ledaenu syniadau ar draws y byd.

Rhannwch y digwyddiad hwn