Ewch i’r prif gynnwys

Cornel Tsieineaidd: Bwyd Tsieineaidd

Dydd Mercher, 28 October 2020
Calendar 18:30-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

A table full of Chinese delicacies

Mae bwyd a diwylliant yn gysylltiedig iawn. Caiff bwydydd traddodiadol eu pasio i lawr o un genhedlaeth i'r nesaf, a thros amser, mae bwyd cenedl yn dod yn ffordd o fynegi hunaniaeth ddiwylliannol.

Mae hyn yn wir am Tsieina ac i lawer o bobl Tsieineaidd, eu bwyd yw un o’r agweddau pwysicaf ar eu hunaniaeth genedlaethol: mae'n rhan fawr o draddodiadau Yin-Yang a'r Pum Elfen, Conffiwsiaeth, Meddygaeth Traddodiadol Tsieineaidd, a chyflawniadau diwylliannol ac artistig.

Yn y ddarlith hon byddwn yn eich cyflwyno i sut mae bwyd Tsieineaidd yn wahanol ledled daearyddiaeth helaeth y wlad, a sut mae hyn yn adlewyrchu tirweddau, ffordd o fyw a diwylliannau rhanbarthol. Byddwn hefyd yn cyflwyno'r cysylltiad rhwng bwyd Tsieineaidd ac athroniaeth traddodiadol, ac ystyr symbolaidd amser bwyta yn Tsieina.

Yn olaf, i'r rheiny sydd am ddysgu mewn ffordd fwy ymarferol, byddwn yn rhoi ychydig o syniadau i chi ar sut i archebu bwyd mewn bwyty!

Cynhelir y digwyddiad hwn ar-lein ar Zoom. Cofrestrwch ar Eventbrite, a byddwn yn ebostio manylion i chi am sut i ymuno y diwrnod cynt.

Rhannwch y digwyddiad hwn