#TeamCardiff sesiwn holi ac ateb: Charlotte Arter, y fenyw gyflymaf yn y byd i redeg parkrun
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad cyntaf yn ein cyfres o weminarau am 13:00 ddydd Mercher 1 Gorffennaf 2020 i glywed gan Charlotte Arter, y Gymraes gyflymaf i redeg hanner marathon, athletwr rhyngwladol dros Brydain Fawr a deiliad record byd benywaidd parkrun. Bydd hi'n rhannu sut mae ei hyfforddiant wedi newid yn y cyfnod clo, awgrymiadau defnyddiol ar gyfer rhedeg hanner marathon ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am redeg.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar y platfform fideo Zoom. Mae cofrestru'n hanfodol er mwyn i ni allu anfon dolen i chi at y gweminar. Cewch gyfle yma i ofyn unrhyw gwestiynau ymlaen llaw.