Ewch i’r prif gynnwys

Canu Carolau Rhyngwladol a Derbyniad Gwin Cynnes

Dydd Mercher, 11 Rhagfyr 2019
Calendar 16:30-18:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Christmas Carol SIng-a-long

16:30 – 17:30: Cynhelir y Sesiwn Canu Carolau yn Neuadd Gyngerdd yr Ysgol Cerddoriaeth  Derbyniad gwin cynnes i ddilyn tan 18:30 yn yr Octagon (drws nesaf i’r Neuadd Gyngerdd)
Croeso i bawb

**Cofiwch ateb os gwelwch yn dda gan nodi a hoffech fynd i'r sesiwn canu carolau Nadolig yn unig, neu i'r sesiwn a'r derbyniad gwin cynnes.**

Oherwydd y galw, mae traddodiad sesiwn flynyddol Canu Carolau Nadolig Rhyngwladol yn parhau eleni. Mae'n ddathliad amlieithog o'r Nadolig yn Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg, Eidaleg, Portiwgaleg, Cymraeg, a Lladin (a rhagor, o bosibl).  Caiff y digwyddiad ei noddi gan yr Ysgol Ieithoedd Modern a'r Ysgol Cerddoriaeth.

Mae croeso i bawb ymuno, a dod â'u teuluoedd a'i ffrindiau hefyd. Mae croeso i sgiliau canu ond dydyn nhw ddim yn angenrheidiol o bell ffordd! Cyflwynir y caneuon a'r testunau gan gydweithwyr a myfyrwyr Erasmus, a bydd côr Dydd Mawrth Prifysgol Caerdydd yn rhoi hwb i'r canu.

Cynhelir y digwyddiad yn y Neuadd Gyngerdd yn yr Ysgol Cerddoriaeth a chaiff ei ddilyn gan dderbyniad yn yr Octagon (yng nghyntedd y Neuadd Gyngerdd) lle bydd gwin cynnes, diodydd di-alcohol a danteithion Nadoligaidd rhyngwladol ar gael.

Gweld Canu Carolau Rhyngwladol a Derbyniad Gwin Cynnes ar Google Maps
Concert Hall
Music Building
31 Heol Corbett
Cathays
Caerdydd
CF10 3EB

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Seasonal events