Ewch i’r prif gynnwys

Llid ac Iselder: Gormod o beth da?

Dydd Iau, 21 Tachwedd 2019
Calendar 16:30-18:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Inflammation and Depression: Too much of a good thing?

Mae pawb yn gwybod bod ein hymddygiad yn newid ar ôl i ni ddal haint. Rydym ni wedi blino neu mewn hwyliau isel, mae ein meddyliau a’n gweithredoedd yn arafu ac rydym ni’n cael trafferth canolbwyntio a dod o hyd i’r cymhelliant i orffen tasgau.

Ar ôl eu diystyru yn y gorffennol fel ymatebion amhenodol, mae hi’n gliriach erbyn hyn bod yr ‘ymddygiadau salwch’ hyn yn ymatebion bwriadol i haint, wedi’u cydlynu’n ofalus er mwyn cynorthwyo’r system imiwnedd i gael gwared â’r organeb sy’n heintio yn gyflym.

Serch hynny, pan fydd y llid yn ddifrifol neu’n parhau am gyfnod hir, mae actifadu ‘cylchedau salwch’ yr ymennydd yn gallu arwain at oblygiadau mwy difrifol gan gynnwys datblygu iselder clinigol a blinder cronig o bosib.

Yn y cyflwyniad hwn, bydd yr Athro Harrison yn trafod sut mae’r system imiwnedd yn gweithredu ar yr ymennydd i newid ein hymddygiad yn gyflym, sut y gallai hyn arwain at ddatblygu iselder, ac yn amlygu datblygiad ‘imiwnotherapïau’ newydd sydd wedi’u cynllunio er mwyn gwyrdroi’r prosesau hyn.

Gweld Llid ac Iselder: Gormod o beth da? ar Google Maps
Hadyn Ellis Lecture Theatre
Hadyn Ellis Building
Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ

Rhannwch y digwyddiad hwn