Ewch i’r prif gynnwys

Cyfres Darlithoedd Materion Byd-eang Y Siacedi Melyn (Gilet jaunes) a Democratiaeth Ffrainc

Dydd Iau, 24 October 2019
Calendar 17:30-19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Mae Sgwrs y Byd yn gyfres newydd o ddarlithoedd am bynciau cyfoes diddorol mewn amryw wledydd ledled y byd gan Arbenigwyr o Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd. Mae'r gyfres wedi'i hanelu at fyfyrwyr UG a Safon Uwch yn bennaf, er mwyn ennyn eu diddordeb a chynnig dealltwriaeth well o ddatblygiadau gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol ledled y byd. Bydd y darlithoedd yn para tua 45 munud, ac yna sesiwn holi ac ateb am 30 munud.

Yn y ddarlith hon, bydd Dr Nick Parsons yn ymchwilio i fudiad y Siacedi Melyn (Gilets jaunes) a phrosesau democrataidd Ffrainc.

Crynodeb

Dechreuodd mudiad y Siacedi Melyn (Gilet jaunes) ym mis Tachwedd 2018 ac ers hynny, mae arddangosiadau wedi'u cynnal yn wythnosol er budd cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb economaidd ar draws Ffrainc. Tra bod llawer o adroddiadau ar y mudiad wedi canolbwyntio ar ofynion economaidd y protestwyr, ac ymateb yr Arlywydd Macron iddynt, mae edrych ymhellach i symudiad y Gilet jaunes yn dangos ei fod yn rhan o dueddiad mwy hir dymor sy'n adlewyrchu anfodlonrwydd gyda'r prosesau democratig o fewn Ffrainc. O ganlyniad, mae'n fygythiad i ddemocratiaeth gynrychioladol; ac mae’r gwersi cysylltiedig ddim wedi'u cyfyngu i Ffrainc - dylai gwledydd eraill sy'n wynebu problemau cyfreithlondeb o'r fath eu hystyried.

Bywgraffiad

Cwblhaodd Nick Parsons ei PhD yn Ysgol Economeg Llundain, yn cymharu cysylltiadau diwydiannol Ffrainc a Phrydain. Ar ôl addysgu mewn nifer o brifysgolion yn Ffrainc a Phrydain, ymunodd ag Adran Ffrangeg Prifysgol Caerdydd ym 1991. Mae e bellach yn Ddarllenydd mewn Ffrangeg ac yn addysgu cyrsiau ar gyfieithu, gwleidyddiaeth Ffrainc a mudiad llafur Ffrainc. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth, perthnasau diwydiannol a pholisïau cymdeithasol Ffrainc ac Ewrop. Mae wedi cyhoeddi llawer o benodau mewn llyfrau ac erthyglau mewn cyfnodolion sy'n canolbwyntio ar y materion hyn, ac ef yw awdur y llyfr French Industrial Relations in the New World Economy, ymysg teitlau eraill.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Iau 10 Hydref i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru

Archebwch docynnau yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/world-talk-lecture-series-the-gilets-jaunes-and-french-democracy-tickets-74267493071 

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

2.18
Cardiff University's School of Modern Languages
66a Park Place
Cardiff
CF10 3AS

Rhannwch y digwyddiad hwn