Ewch i’r prif gynnwys

“I’r feistres… Dim ond llafur ydyn ni”: Straeon am Waith Domestig yn America Ladin

Dydd Mercher, 23 October 2019
Calendar 16:30-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Crynodeb

Bydd y cyflwyniad yn edrych ar dystiolaeth lenyddol a (gyd-)ysgrifennwyd gan weithwyr domestig, a gafodd eu cyhoeddi ar draws America Ladin yn ystod y 1980au a’r 1990au. Mae’n canolbwyntio’n bennaf ar ddau ddarn o dystiolaeth sy’n cyflwyno’u hunain, mewn gwahanol ffyrdd, fel ymdrechion cwbl gyfunol: Só a gente que vive é que sabe/Only Those Who Live it Can Understand (1982) gan Lenira Carvalho a Se necesita muchacha/Maid Wanted (1983) gan Ana Gutiérrez. Mae’r testunau hyn yn egluro i ba raddau yr oedd cyhoeddi’r straeon am waith domestig drwy’r rhanbarth yn gysylltiedig ag ymddangosiad yr undebau gweithwyr domestig cyntaf ar y pryd. Mae ffocws y straeon ar driniaeth annynol y gweithwyr gan eu cyflogwyr yn taflu goleuni ar yr ymgais i ddiraddio’r gweithwyr hyn i ddim byd ond cyrff i gael eu cam-drin – neu i fywyd noeth (bare life) (Agamben 1998) – yn hytrach na chydnabod eu statws fel dinasyddion. Ymysg ffactorau eraill, mae hyn wedi caniatáu’r camwahaniaethu hanesyddol a chyfreithiol y mae gweithwyr domestig wedi’u hwynebu o’i gymharu â mathau eraill o weithwyr. Serch hynny, roedd bodolaeth y testunau hyn yn y maes llenyddol cyhoeddus yn rhan o ymgais y gweithwyr hyn i alw am hawliau cyfartal mewn proffesiwn sydd heb fawr o reoliadau o ganlyniad i’w gyfyngiad i leoedd domestig. Daw’r cyflwyniad i ben drwy ddangos sut y gellir defnyddio stori Carvalho, a’r hyn a gasglwyd gan Gutiérrez, i greu fframwaith er mwyn dadansoddi’r heriau unigryw mae gweithwyr domestig yn eu hwynebu. Bydd hefyd yn myfyrio ar bwysigrwydd y straeon hyn ar gyfer y trafferthion parhaus sy’n cwmpasu cynrychiolaeth gyhoeddus a chreadigol y gweithwyr hyn.

Bywgraffiad

Mae Rachel Randall yn Ddarlithydd Cyfryngau a Chyfathrebu Digidol Sbaenaidd ym Mhrifysgol Bryste. Mae ei phrosiect ymchwil cyfredol, sydd wedi’i ariannu gan Gymrodoriaeth ar Ddechrau Gyrfa Leverhulme (2016-2019), yn edrych ar sut y portreadir gweithwyr domestig cyflogedig mewn cynyrchiadau ôl-unbeniaethol Lladin-Americanaidd, gan gynnwys mewn llenyddiaeth, ffilmiau, rhaglenni dogfen a diwylliant digidol. Mae ei diddordebau ehangach yn cwmpasu astudiaethau diwylliannol a hanes diwylliannol Lladin Americanaidd. Hi yw awdur Children on the Threshold in Contemporary Latin American Cinema (Lexington, 2017) a chyd-olygydd New Visions of Adolescence in Contemporary Latin American Cinema (Palgrave Macmillan, 2018).

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 9 Hydref i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru

Archebwch docynnau yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/testimonies-of-domestic-work-in-latin-america-tickets-74101123455
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

2.18
Cardiff University's School of Modern Languages
66a Park Place
Cardiff
CF10 3AS

Rhannwch y digwyddiad hwn