Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Busnes Caerdydd - Addsyg Weithredol - I ba raddau y gall gwmnïau o Gymru ennill mantais o Superfast?

Dydd Mawrth, 24 Medi 2019
Calendar 08:00-09:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Breakfast Briefing Audience

Bydd Sesiwn dros Frecwast cynta’r Hydref yn archwilio “I ba raddau y gall gwmnïau o Gymru ennill mantais o Superfast?” Bydd y Sesiwn yn cael ei gynnal yn Yr Ystafell Addysg Weithredol, ar Ddydd Mawrth, Medi’r 24ain.

Yn ystod y sgwrs, bydd yr Athro Max Munday, o Brifysgol Caerdydd, yn cael cwmni Giles Phelps, Prif Weithredwr Spectrum Internet, a David Elsmere o Cyflymi Cymru i Fusnesau, i archwilio tri mater allweddol.  Yn gyntaf, byddant yn adolygu tystiolaeth o ddefnydd digidol gan fusnesau bach a chanolig yng Nghymru, ac yn asesu’r buddion cynhyrchiant i’r defnyddwyr hyn. Yn ail, byddant yn edrych ar yr heriau sy’n wynebu Cymru mewn perthynas â’r cyflwyniad digidol, ac yn drydydd, sut y gall busnesau bach a chanolig elwa o gyngor a chefnogaeth y Llywodraeth, er mwyn manteisio ar yr isadeiledd digidol newydd.

Bydd y drafodaeth yn cynnwys dadansoddiad o ganlyniadau diweddar Arolwg Aeddfedrwydd Digidol Ysgol Busnes Caerdydd, ac yn archwilio’r goblygiadau i fusnesau bach a chanolig nad sydd yn ymgysylltu â’r cyfleoedd sy’n cael eu creu gan dechnoleg ddigidol.

Mae’n bleser gennym eich gwahodd i’n Sesiwn dros Frecwast nesaf yn Yr Ysgol Busnes, Canolfan Addysgu Is-raddedigion, Colum Drive, Caerdydd CF10 3EU.

Gweld Ysgol Busnes Caerdydd - Addsyg Weithredol - I ba raddau y gall gwmnïau o Gymru ennill mantais o Superfast? ar Google Maps
Ystafell Addysg Weithredol, 3ydd Llawr
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education