Chwyldro Tawel? Cynhelir digwyddiad undydd ‘rhywioldeb amgen yn Ewrop a'r rhanbarth ôl-Sofietaidd’
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Gwybodaeth am y digwyddiad
O ganlyniad i’r rhethreg gynyddol o ‘werthoedd traddodiadol’ mewn rhannau o Orllewin a Dwyrain Ewrop a'r hen Undeb Sofietaidd, mae'r digwyddiad undydd hwn yn galw am archwiliad o'r hyn y mae'r tro ceidwadol hwn a'r cynnydd mewn cyfundrefnau gwleidyddol rhyddfrydol yn ei olygu i leisiau rhywioldebau* amgen ac ymylol a'u cynrychiolaethau yn yr hen floc Dwyreiniol a thu hwnt.
Mae'r symposiwm yn gofyn sut y gallai dadansoddiadau o waddolion hanesyddol, tueddiadau diwylliannol a lleoliad daearyddol ein helpu i ddeall ac ail-gysyniadu rhywioldeb amgen yn y rhanbarth ôl-Sofietaidd ac Ewrop ar hyn o bryd. Hynny yw, sut mae’r dull o godio nodweddion queer yn ymateb i dirweddau cymdeithasol-wleidyddol, diwylliannol a chyfreithiol sy'n newid. Nod y digwyddiad yw dwyn ynghyd gwahanol elfennau ymchwil rhyngddisgyblaethol ar rywioldeb a chyfrannu at ddeialog rhwng cymunedau sydd wedi datblygu o'u cwmpas ar draws y rhanbarth ôl-Sofietaidd ac Ewrop.
I weld amlinelliad o’r rhaglen, ewch i https://www.quiet-revolution.org/programme. Ebostiwch quietrevolution18@gmail.com i gael rhagor o wybodaeth
Two Central Square
Caerdydd
CF10 1FS