Ewch i’r prif gynnwys

Ailystyried polisïau datblygu ar sail lleoedd yn y DU

Dydd Mawrth, 16 Gorffennaf 2019
Calendar 09:00-16:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Ddydd Mawrth, 16 Gorffennaf, bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnal cynhadledd undydd o’r enw ‘Ailystyried polisïau datblygu ar sail lleoedd yn y DU’. Bydd yn mynd i’r afael â materion llywodraethu ac ariannu yng Nghronfa Rhannu Ffyniant y DU sy’n cael ei hystyried fel y gronfa fydd yn disodli Cronfeydd Strwythurol yr UE. Yr Athro Kevin Morgan sy’n trefnu’r gynhadledd hon, a chaiff ei chynnal rhwng 9am a 4pm yn Adeilad Morgannwg ym Mharc Cathays.

Gallwn gadarnhau y bydd y siaradwyr yn y gynhadledd yn cynnwys:

  • Kellie Beirne - Prif Weithredwr, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
  • Rebecca Evans, AC, Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
  • Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Michael Heseltine CH – Aelod o Dŷ’r Arglwyddi
  • Yr Athro Jo Hunt, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd
  • Yr Athro John Tomaney - Athro Cynllunio Trefol a Rhanbarthol, Coleg Prifysgol Llundain

Mae lleoedd yn brin felly cofrestrwch i wneud yn siŵr eich bod yn gallu mynd i’r digwyddiad hynod amserol hwn.

09:30 - 09:50 Te/Coffi a Chofrestru

09:50 - 10:00 Yr Athro Kevin Morgan - Croeso a chyflwyniad i’r diwrnod

10:00 - 10:30 Y Gwir Anrhydeddus Rebecca Evans AC - Safbwynt Llywodraeth Cymru (20 munud) (Sesiwn holi ac ateb - 10 munud)

10:30 – 11.00 Dr Ed Poole - Datganoli, Brexit a'r Gronfa Rhannu Ffyniant (20 munud)

Sesiwn holi ac ateb gyda’r gynulleidfa (10 munud)

11.00 – 11:20 EGWYL I RWYDWEITHIO

11:20 – 12:00 Kellie Beirne - Safbwynt Dinas-Ranbarth (30 munud)

Sesiwn holi ac ateb gyda’r gynulleidfa (10 munud)

12:00 – 12:45 Yr Arglwydd Michael Heseltine - Trafod ei adroddiad newydd (30 munud)

Sesiwn holi ac ateb gyda’r gynulleidfa (15 munud)

12:45 – 13:45 CINIO

13:45 – 14:30 Yr Athro Jo Hunt - Fframweithiau Cyffredin a Chysylltiadau Rhynglywodraethol yn y DU (30 munud)

Sesiwn holi ac ateb gyda’r gynulleidfa (15 munud)

14:30 – 15:00 EGWYL I RWYDWEITHIO

15:00 – 15:45 Yr Athro John Tomaney (Coleg Prifysgol Llundain) - Her Rhannu Ffyniant yn y DU (30 munud)

Sesiwn holi ac ateb gyda’r gynulleidfa (15 munud)

15:45 – 16:00 Yr Athro Kevin Morgan - Diolchiadau a diwedd y gynhadledd

Gweld Ailystyried polisïau datblygu ar sail lleoedd yn y DU ar Google Maps
Ystafell Bwyllgor
Glamorgan Building
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA

Rhannwch y digwyddiad hwn