Ewch i’r prif gynnwys

Cymru a Brexit: Tair Blynedd yn Ddiweddarach

Dydd Mawrth, 25 Mehefin 2019
Calendar 10:00-12:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Tair blynedd ers y refferendwm, bydd ymchwilwyr o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn ymchwilio i’r newyddion diweddaraf o ran Brexit, a’u dadansoddi. Yn dilyn cyfres gythryblus o etholiadau, yma ac yng ngweddill Ewrop, byddwn yn edrych ar y rhagolygon nawr ac yn y dyfodol ar gyfer trafodaethau UE-DU, y sefyllfa wleidyddol bresennol, a’r ymchwil ddiweddaraf i broses ymadael â’r UE. Y digwyddiad hwn, wedi’i gadeirio gan Rhea Stevens (Sefydliad Materion Cymreig), yw’r diweddaraf yn ein cyfres poblogaidd o ddiweddariadau bob chwe mis gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru. Bydd cyflwyniadau gan yr Athro Roger Awan-Scully, yr Athro Jo Hunt, Dr Rachel Minto a’r Athro Dan Wincott. Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys sesiwn Holi ac Ateb, a chinio/lluniaeth rhad ac am ddim. Mae croeso cynnes i bawb i'r digwyddiad hwn sy’n rhad ac am ddim.
Adeilad y Pierhead
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Rhannwch y digwyddiad hwn