Ewch i’r prif gynnwys

Athroniaeth Amgylchedd y Byd mewn Oes Newydd: Tu Hwnt i Gysyniad y Sgema Presennol

Dydd Iau, 23 Mai 2019
Calendar 14:00-15:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Earth

Nid yw athroniaeth amgylchedd y byd yn gyfuniad ar hap o’r tri chysyniad - y byd, yr amgylchedd ac athroniaeth. Ei arwyddocâd mwy sylfaenol yw dehongli athroniaeth amgylcheddol sy’n wynebu’r byd sy’n newid. Mae hefyd yn archwiliad athronyddol yn seiliedig ar amgylchedd y byd yn ei chyfanrwydd, a dealltwriaeth o athroniaeth y byd gyda’r amgylchedd fel ei ryngwyneb.

Os ydym yn deall bod y byd yn symud, rydym yn gweld cyfres o ddehongliadau o’r byd fel cyfuniad o liw, arogl, sŵn, teimlad a blas. Nid yw hyn o ran argraff yn unig, ond hefyd o ddehongli bodolaeth mater. Yr ardal sy’n dewis yr olygfa, yr olygfa sy’n dewis y sefyllfa, ac mae’r sefyllfa'n dewis yr argraff. Ond o'r safbwynt epistemolegol o athroniaeth, nid oes modd newid y byd. Mae gan athroniaeth ei chliwiau cynhenid, mae gan fodau dynol eu llwybrau, mae gan y byd ei ffiniau bodolaeth, ac mae’r amgylchedd ynddi'n go iawn. Mae galw am athroniaeth amgylcheddol effeithiol, felly, hefyd yn fodd o ddeall y byd yn well yn yr oes newydd.

Mae athroniaeth amgylcheddol, sy’n fath newydd o athroniaeth, yn bodoli trwy gyfrwng yr oleuedigaeth ysbrydol o sefyllfaoedd materol o fewn ffiniau’r berthynas rhwng dyn a natur, ac yn adlewyrchu'r syniad o fodolaeth gofod-amser cadarn dynol ryw yn wynebu natur. Os mai natur yw rhiant naturiol athroniaeth amgylcheddol, y byd yw’r cefndir gorau ar gyfer athroniaeth amgylcheddol. Gan ystyried y byd materol yn llen, ni ellir dweud mai malurion yn unig yw’r amgylchedd, ond dim ond darn ydyw.