Ewch i'r prif gynnwys
Polisi

Cod Moeseg a Didueddrwydd Dyfodol Myfyrwyr

  • Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Dyfodol Myfyrwyr
  • Tel: +44 (0)29 2251 8888
  • Email: studentconnect@caerdydd.ac.uk

Dysgwch am sut rydym yn gweithio gyda chyflogwyr ac yn darparu gwasanaeth diduedd i sicrhau bod y grym yn nwylo ein myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am yrfaoedd.

Mae'r is-adran Bywyd Myfyrwyr yn rhan o Brifysgol Caerdydd, sy'n gweithredu ar wahân i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.  Mae'r tîm Dyfodol Myfyrwyr yn rhan bwysig o is-adran Bywyd Myfyrwyr, gan gefnogi myfyrwyr i wneud y gorau o'u profiad yn y brifysgol a chyflawni deilliannau llwyddiannus pan fyddan nhw wedi graddio.  Mae Dyfodol Myfyrwyr yn darparu gwasanaeth diduedd sy'n cefnogi ein myfyrwyr a'n graddedigion i gael rhyddid i wneud dewisiadau gwybodus am eu llwybrau gyrfa yn y dyfodol yn seiliedig ar egwyddorion, gwerthoedd a chredoau pob unigolyn.

Mae'r egwyddor o ddidueddrwydd wrth wraidd dyluniad a darpariaeth ein holl wasanaethau ac mae'n sicrhau bod y grym yn nwylo myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am yrfaoedd drwy allu manteisio ar:

- ystod amrywiol o gyflogwyr, cyn-fyfyrwyr a rhwydweithiau proffesiynol sy'n cynnig cyfleoedd sy'n cydymffurfio â deddfwriaeth cyflogaeth y DU (neu safonau sicrhau ansawdd gofynnol ar gyfer cyflogwyr y tu allan i'r DU);

- cymorth i ymchwilio i werthoedd, moeseg a diwylliant cyflogwyr;

- apwyntiadau hyfforddi gyrfa gyda Chynghorwyr Gyrfaoedd cymwys;

- rhaglen o weithgarwch cyflogwyr a menter sy'n anelu at ddatblygu ein graddedigion i feddu ar y sgiliau a'r priodoleddau i ddod yn ddinasyddion cymdeithasol, economaidd, byd-eang;

- amrywiaeth o gyfleoedd i rwydweithio gyda chyflogwyr a chynfyfyrwyr i ddysgu rhagor am sectorau cyflogaeth, sefydliadau penodol, eu gwerthoedd a'u rhaglenni recriwtio graddedigion

Er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni ystod lawn dyheadau myfyrwyr a graddedigion, mae ein hymgysylltiad yn cwmpasu rolau, sectorau a daearyddiaethau sydd ddim bob amser yn cyd-fynd â moeseg neu gredoau personol unigolion. Caiff ei gydnabod bod gan fyfyrwyr a staff yr hawl i anghytuno â moeseg neu arferion unrhyw sefydliad. A ninnau’n aelodau o Gymdeithas y Gwasanaethau Cynghori i Raddedigion (AGCAS), mae'n ofynnol i ni lynu wrth egwyddorion a safonau ymarfer proffesiynol craidd sydd wedi’u nodi yng Nghod Moeseg AGCAS , sy’n cynnwys didueddrwydd.  Serch hynny, ni fydd Dyfodol Myfyrwyr yn ymgysylltu â:

Mae Siarter Myfyrwyr y Brifysgol yn annog myfyrwyr i ymgysylltu â phryderon y byd go iawn yng Nghaerdydd, Cymru a’r tu hwnt.  Mae Dyfodol Myfyrwyr yn cydnabod bod gan bawb yr hawl i ryddid mynegiant a gallant ddewis mynegi eu anghytundeb, yn unol â Chod Ymarfer Prifysgol Caerdydd ar Ryddid Barn. Os yw myfyrwyr yn dewis arfer eu hawl i ryddid mynegiant, disgwylir i fyfyrwyr weithredu yn unol â safonau ymddygiad ac ymddygiad y Brifysgol a dylent fod yn gyfarwydd â'r weithdrefn Ymddygiad Myfyrwyr

Dolenni defnyddiol:

Rhyddid Barn - Gwybodaeth i'r cyhoedd - Prifysgol Caerdydd

Darllenwch Siarter y Myfyrwyr - Myfyrwyr newydd - Prifysgol Caerdydd

Ymddygiad Myfyrwyr – Mewnrwyd y myfyrwyr – Prifysgol Caerdydd

Cod Moeseg Aelodau AGCAS

Gyrfaoedd, Gweithwyr Proffesiynol a Didueddrwydd AU(agcas.org.uk)