Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Cofnodion y Cyngor 24 Tachwedd 2022

Cofnodion Cyfarfod Cyngor Prifysgol Caerdydd a gynhaliwyd ddydd Iau 24 Tachwedd 2022 am 13:00 drwy Zoom.

Yn bresennol:  Patrick Younge (Cadeirydd), Is-ganghellor, Angie Flores Acuna, yr Athro Rudolf Allemann [eitemau 2073-2089], Paul Baston, Gina Dunn, Judith Fabian, Michael Hampson, Christopher Jones, Jan Juillerat, Jeremy Lewis, Joanna Newman [o eitem 2079 ymlaen], David Selway, John Shakeshaft, Pretty Sagoo, yr Athro Damian Walford Davies, Jennifer Wood, Agnes Xavier-Phillips.

Mynychwyr:  Katy Dale, Ruth Davies [Cofnodydd], Millicent Ele, Rashi Jain, Susan Midha [eitem 2093], Claire Morgan, Claire Sanders, Darren Xiberras a’r Athro  Roger Whitaker.

2073 Croeso

2073.1 Croesawyd pawb i’r cyfarfod, yn enwedig David Selway a Jennifer Wood (aelodau lleyg newydd); Jeremy Lewis (aelod staff newydd) a Millicent Ele (Prentis Lywodraethwr newydd) a oedd yn mynychu eu cyfarfod cyntaf;

2073.2  ymddiheurodd y Cadeirydd fod newidiadau mewn amgylchiadau personol, ynghyd â tharfu oherwydd gweithredu diwydiannol, wedi arwain at gynnal y cyfarfod ar-lein yn hytrach na wyneb yn wyneb fel y cynlluniwyd yn wreiddiol.

2074 Ymddiheuriadau am absenoldeb

2074.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan yr Athro Rachel Ashworth, yr Athro Marc Buehner, yr Athro Fonesig Janet Finch a Suzanne Rankin, a chadarnhawyd bod gan y cyfarfod gworwm.

2075 Datgan buddiant

Nodwyd y datganiadau canlynol:

2075.1 Datganodd Angie Flores Acuna fuddiant yn eitem 13 [Cofnod 2085 isod] ar y sail ei bod wedi graddio’n ddiweddar o’r Ysgol Beirianneg.

2076 Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cyflwynwyd ac ystyriwyd papur 21/962C 'Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol 7 Gorffennaf 2022'. Siaradodd y Cadeirydd am yr eitem hon.

Penderfynwyd

2076.1 cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2022.

2077 Materion yn codi o’r cofnodion

Cyflwynwyd ac ystyriwyd papur 22/235R, 'Materion yn Codi'. Siaradodd y Cadeirydd am yr eitem hon.

Nodwyd

2077.1 bod yr holl gamau gweithredu naill ai ar y gweill, wedi'u cwblhau, neu wedi'u cynnwys ar yr agenda.

2077.2 bod dadansoddiad meincnodi KPMG (Cofnod 2054.7) wedi bod yn werthfawr iawn ac y byddai'n ddefnyddiol ei ychwanegu at gyflwyniadau DPA yn y dyfodol;

20.77.3 cais i ddarparu copi i aelodau’r Cyngor o ddadansoddiad manwl Tribal o'r farchnad y cyfeirir ato yn y papur Gwerth am Arian maes o law.

2078 Eitemau gan y Cadeirydd

Cyflwynwyd papur 22/231C, 'Camau Gweithredu’r Cadeirydd ers y cyfarfod diwethaf'.

Nodwyd

2078.1 bod y papur yn cyflwyno crynodeb o'r camau a gymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor ers cyfarfod y Cyngor ym mis Gorffennaf 2022;

Ymestyn cyfnod swydd y Dirprwy Is-ganghellor

2078.2 bod y Cadeirydd hefyd wedi cymryd camau i gymeradwyo estyniad a gynigiwyd gan yr Is-Ganghellor i gyfnod swydd yr Athro Rudolf Allemann fel Dirprwy Is-Ganghellor Rhyngwladol a Recriwtio Myfyrwyr a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg; roedd yr estyniad i rôl y Dirprwy Is-ganghellor am chwe mis o 2 Ebrill 2023, er mwyn sicrhau parhad yn ystod y cyfnod hollbwysig o drosglwyddo i Is-ganghellor newydd;

Cyd-bwyllgor y Cyngor a'r Senedd

2078.3  rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad llafar ar weithgareddau Cyd-bwyllgor y Senedd a'r Cyngor; roedd y Pwyllgor wedi cyfarfod unwaith, ac roedd rhestr hir wedi'i llunio gyda chronfa o ymgeiswyr cryf ar lefelau uwch gartref a thramor; byddai cyfarfod llunio rhestr fer yn cael ei gynnal ym mis Rhagfyr, gyda chyfweliadau ym mis Ionawr 2023; roedd y llyfryn ymgeiswyr gyda brand newydd y Brifysgol wedi'i ddosbarthu i aelodau'r Cyngor er gwybodaeth;

Adolygu Ordinhad 7

2078.4  bod y Senedd wedi argymell yn ei chyfarfod ar 15 Mehefin 2022 bod y Cyngor yn adolygu Ordinhad 7 i gynnwys y posibilrwydd o gynnwys myfyrwyr o fewn aelodaeth y Cyngor o'r Cyd-bwyllgor cyn recriwtio Is-ganghellor yn y dyfodol, ac nad oedd angen cyflawni hyn ar frys;

Gwobrau Dathlu Rhagoriaeth

2078.5 bod y Cadeirydd, ynghyd â dau aelod lleyg arall, wedi mynychu Gwobrau Dathlu Rhagoriaeth y Brifysgol a bod yr amrywiaeth o weithgareddau yr oedd staff yn ymwneud â nhw ar draws y Brifysgol wedi creu argraff arnynt; roedd y Cadeirydd o’r farn ei fod yn ddigwyddiad calonogol a gobeithiai y gellid gwahodd mwy o aelodau'r Cyngor i fod yn bresennol y tro nesaf;

Tîm Pêl-droed Dynion Cymru – Cwpan y Byd

2078.6 bod y Cadeirydd yn dymuno cydnabod cefnogaeth i dîm pêl-droed dynion Cymru yn nhwrnamaint Cwpan y Byd 2022 yn Qatar.

Penderfynwyd

2078.7 cofnodi cefnogaeth y Cyngor i dîm pêl-droed dynion Cymru yn nhwrnamaint Cwpan y Byd 2022 yn Qatar.

2079 Adroddiad Yr Is-ganghellor i'r Cyngor

Cyflwynwyd ac ystyriwyd papur 22/253C, 'Adroddiad yr Is-ganghellor i'r Cyngor'. Siaradodd yr Is-ganghellor am yr eitem hon.

Ymunodd Joanna Newman â'r cyfarfod yn ystod yr eitem hon;

Nodwyd

Gweithredu diwydiannol

2079.1 bod gweithredu diwydiannol wedi'i gynllunio ar gyfer 24, 25 a 30 Tachwedd 2022 a bod UCEA, yn eithriadol, yn cynnig cychwyn trafodaethau ar gyflogau ar gyfer y flwyddyn nesaf ynghynt yng ngoleuni hyn; bod y Brifysgol yn ceisio datrysiad cynnar ond ei bod wedi'i rhwymo gan y sefyllfa gydfargeinio genedlaethol a bod hyn hefyd yn pennu'r cyflymder; a bod ymgynghoriad ar y gweill ynghylch a oedd mwy o gapasiti i ddod i gytundebau lleol heb fynd yn groes i gydfargeinio;

Llai o Fyfyrwyr na’r Disgwyl wedi’u Recriwtio

2079.2  [Hepgorwyd]

2079.3  [Hepgorwyd]

2079.4  [Hepgorwyd]

2079.5  [Hepgorwyd]

Gweithgarwch Ymchwil

2079.6 er nad oedd incwm ymchwil yn ddangosydd ariannol yn bennaf, ei fod yn ddangosydd blaenllaw, yn yr ystyr fod gweithgarwch ymchwil yn dilyn patrwm cylchol; bod dyfarniadau a gwariant ymchwil yn llawer uwch nag yn y tair blynedd flaenorol; a bod y rhagolwg yn seiliedig ar y rhagolwg arfaethedig yn gadarnhaol;

Tai Myfyrwyr

2079.7 pryder gan Undeb y Myfyrwyr ei bod yn ymwybodol o nifer o fyfyrwyr a oedd yn ei chael yn anodd dod o hyd i lety yng Nghaerdydd, er nad oedd y Brifysgol wedi rhagori ar ei thargedau recriwtio; bod y Brifysgol yn cydweithio â Chyngor Caerdydd ar dai, a bod ganddi gytundeb gyda darparwr preifat, a bod y Brifysgol wedi bodloni ei chytundeb llety gwarantedig i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf; bod newidiadau i'r rheoliadau ynghylch Tai Amlfeddiannaeth (HMOs) wedi dechrau arwain at ostyngiad yn y cyflenwad yn y sector rhentu preifat; bod y Brifysgol wrthi’n edrych ar sut i fodloni'r galw yn y dyfodol gyda phartïon eraill; y byddai’r Dirprwy Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr yn rhannu gwybodaeth bellach yn ymwneud â chysylltu â Llywodraeth Cymru a CCAUC ar y mater hwn gyda Llywydd Undeb y Myfyrwyr;

Achosion Buddsoddi yn y Dyfodol

2079.8 [Hepgorwyd]

2079.9 [Hepgorwyd]

2079.10 bod y rhestr yn adlewyrchu'r anghenion a fynegwyd i Fwrdd Gweithredol y Brifysgol (UEB) er mwyn darparu rhagolwg strategol; bod angen rhai o'r achosion am resymau cydymffurfio a’u bod wedi'u diffinio'n dda, a bod eraill ar gam datblygu cynharach; bod ffocws y papur ar gadarnhau'r meini prawf yr oedd y Bwrdd Gweithredol yn bwriadu eu defnyddio i asesu achosion busnes wrth symud ymlaen; bod cydnabyddiaeth y byddai'n amhriodol gwneud penderfyniadau buddsoddi sylweddol cyn penodi'r Is-ganghellor newydd, oni bai bod angen dybryd.

2080 Cofrestr Risgiau

Cyflwynwyd ac ystyriwyd papur 22/237C, ‘Cofrestr Risgiau’. Siaradodd yr Is-ganghellor am yr eitem hon.

Nodwyd

Risgiau Newydd, Risgiau sy'n Dod i'r Amlwg a Risgiau sy’n Datblygu

2080.1 bod y bygythiad uniongyrchol o ran effaith yr argyfwng ynni a'r tebygolrwydd o doriadau pŵer wedi'i leihau ar gyfer y gaeaf hwn, ond bod cynlluniau wrth gefn yn cael eu gwneud serch hynny i sicrhau cyflenwad pŵer ar gyfer meysydd hollbwysig â blaenoriaeth; bod y Brifysgol wedi ymddiogelu ei chostau cyfleustodau tan fis Ebrill 2023 fel y byddai unrhyw effaith eleni yn gyfyngedig, ond roedd disgwyl cynnydd yn 2023-24;

2080.2 bod y Brifysgol wedi cymryd camau i liniaru'r argyfwng costau byw, gan gynnwys taliad ychwanegol i staff a chydweithio'n agos ag Undeb y Myfyrwyr;

2080.3 y rhoddwyd sylw i risgiau gweithredu diwydiannol yn nhrafodaethau Adroddiad yr Is-ganghellor [Cofnod 2079.1 uchod].

Risgiau allweddol

2080.4  bod yr Is-ganghellor o'r farn fod y risg seiberddiogelwch yn cael ei liniaru'n effeithiol ar hyn o bryd;

2080.5  y rhoddwyd sylw i effaith colli incwm ffioedd dysgu fel risg o ran cynaliadwyedd ariannol yn ystod y trafodaethau ar Adroddiad yr Is-ganghellor [Cofnod 2079.1 uchod];

2080.6  efallai na fyddai effaith methu â chyflawni Sero Net o fewn yr amserlen darged mor fawr â’r hyn a awgrymwyd, gan mai effaith ar enw da y byddai i raddau helaeth, ond y gallai Cyngor Dinas Caerdydd fod yn ddibynnol ar y Brifysgol yn cyrraedd y targed hwnnw er mwyn cyrraedd ei darged Sero Net ei hun; bod y cyfeiriad at waith a oedd yn cael ei wneud yng ngwanwyn 22 ar dudalen 59 y Llyfr Cyfarfod wedi dyddio a bod ymgynghorwyr ar hyn o bryd yn gweithio ar gynigion ‘graddfa fuddsoddi’ manwl i’w cyflwyno i Lywodraeth Cymru, yn seiliedig ar egwyddorion a luniwyd yn y gwanwyn;

2080.7 y dylai lliniaru risg atgyweirio a chynnal a chadw Ystadau gynnwys ystyriaeth ddigonol o seilwaith (“gwifrau a phibellau”); bod y Brifysgol yn hyn o beth wedi comisiynu prosiect mawr adnewyddu rhwydwaith TG a oedd wedi'i gyflwyno'n raddol dros y tair i bedair blynedd ddiwethaf; bod materion gydag agweddau eraill ar fonitro a gwerthuso yn hysbys ac yn cael eu monitro drwy'r Grŵp Portffolio Ystadau a Seilwaith a gadeirir gan y Dirprwy Is-ganghellor; bod y Prif Swyddog Gwybodaeth a'r Cyfarwyddwr TG hefyd yn rhan o’r grŵp a bod y grŵp hwnnw’n cymryd golwg gyfannol ar unrhyw brosiectau arfaethedig.

Penderfynwyd

2080.8 cymeradwyo'r Gofrestr Risgiau.

2081 Adroddiad Diweddaru DPA

Cyflwynwyd ac ystyriwyd papurau 21/190C, 'Papur DPA 2021-22' a 22/207C 'Adroddiad DPA 2022-23'. Siaradodd yr Is-ganghellor am yr eitem hon.

Nodwyd

2081.1 bod Bwrdd Gweithredol y Brifysgol wedi cytuno ym mis Gorffennaf 2022 i ailddechrau rhoi adroddiadau lefel uchel ar DPA a bod addasiadau wedi’u gwneud i’r DPA a osodir i adlewyrchu’r cyd-destun cyfredol (e.e. sefyllfa REF heb ei chynnwys ar gyfer eleni) ond eu bod fel arall yn seiliedig ar y rhai yn Y Ffordd Ymlaen 2018-23; nad oedd yr adroddiad yn cynnwys llawer o ddangosyddion arweiniol ond eu bod yn fwy ar y lefel o dan hyn; a bod yr adroddiad yn cael ei gynhyrchu ar gyfer cynulleidfa fewnol i gyfleu cyfeiriad, er bod rhai DPAau ar gael i'r cyhoedd;

2081.2  bod aelodau'r Cyngor yn gweld y DPAau yn werthfawr ac y byddai pwysoliad cymharol o gymorth hefyd; bod hyn wedi'i awgrymu wrth sgorio'r risgiau cysylltiedig yn y gofrestr risgiau a bod adroddiad yr Is-ganghellor i'r Cyngor yn nodi'r meysydd pwysicaf;

2081.3 nad oedd unrhyw DPA ar effeithiolrwydd gwariant ystadau; bod materion ystadau i’w gweld yn y strategaethau ategol yn hytrach nag yn y DPAau lefel uchaf yr adroddir arnynt i'r Cyngor; y byddai adroddiad ystadau blynyddol i'r Cyngor ac y byddai ei natur yn cymryd i ystyriaeth bwysigrwydd lle fel galluogwr ar gyfer cyflwyno gweithgareddau craidd y Brifysgol;

2081.4 o ran pwysigrwydd safleoedd, bod safleoedd QS wedi'u seilio'n drwm ar enw da, gan gynnwys nifer y cyfeiriadau - sy’n anodd iawn dylanwadu arno; bod meysydd pwnc yn symud allan o'r 100 uchaf yn cael effaith negyddol, a bod myfyrwyr rhyngwladol yn cael eu dylanwadu'n bennaf gan y Times, y Sunday Times a'r Good University Guide;

2081.5 y farn, er bod safleoedd yn bwysig, bod pwyslais masnachol iddynt, ac y dylai ffocws y Brifysgol fod ar ei safle unigryw fel prifysgol Grŵp Russell yng Nghymru a’r cynnydd cadarn yr oedd y Brifysgol wedi’i wneud mewn meysydd eraill megis REF, a’r angen i gynnig profiad da i fyfyrwyr fel bod hynny’n cael ei adlewyrchu yn yr ACM, ac ati;

2081.6 bod y cyfeiriad yn y DPA arloesi at 10 partneriaeth strategol yn golygu 10 dros y cyfnod adrodd, a bod y Brifysgol ar y trywydd iawn i gyflawni hyn, er gwaethaf effaith COVID.

2082 Cynlluniau Pensiwn y Brifysgol

Cyflwynwyd ac ystyriwyd papur 22/189C, 'Diweddariad ar Gynlluniau Pensiwn y Brifysgol'. Siaradodd y Prif Swyddog Ariannol am yr eitem hon.

Nodwyd

2082.1  [Hepgorwyd]

2082.2  [Hepgorwyd]

2082.3  [Hepgorwyd]

2082.4  bod rhai newidiadau i gynllun y GIG a oedd yn fân o ran eu heffaith ar y Brifysgol.

2083 Adroddiad Cyllid

Cyflwynwyd ac ystyriwyd papurau 22/195C, 'Adroddiad Ariannol' a 22/196C, 'Adroddiad Rhagolwg Cyllid Ch1'. Siaradodd y Prif Swyddog Ariannol am yr eitem hon.

Nodwyd

2083.1 bod yr Adroddiad Cyllid yn crynhoi canlyniadau ariannol y Brifysgol ym mis Medi 2022; a bod rhagolwg Chwarter 1 yn cyflwyno rhagolwg alldro  blwyddyn lawn wedi'i ddiweddaru;

2083.2 bod yr amrywiant ffafriol [ffigwr wedi’i hepgor] i'r gyllideb ym mis Medi 2022 o ganlyniad i gostau cyflog is. Fodd bynnag, bu rhai colledion buddsoddi yn ystod y cyfnod sy'n adlewyrchu'r amgylchedd macro-economaidd allanol;

2083.3  [Hepgorwyd]

2083.4  ar ôl cynnwys y Cynllun Buddsoddi Tymor Byr (STIP) a cholledion buddsoddi cyfredol y flwyddyn hyd yma, roedd hyn yn rhoi diffyg o [ffigwr wedi’i hepgor] cyn unrhyw symudiad pensiynau (y disgwylid iddynt fod yn gadarnhaol y flwyddyn ariannol hon); a bod y papurau'n cynnwys esboniadau manwl pellach o'r symudiad yn y sefyllfa gyllidebu;

2083.5  [Hepgorwyd]

2083.6  bod cyfle posibl am grantiau heb eu cynllunio gan CCAUC; [hepgorwyd yn rhannol]

2083.7  [Hepgorwyd]

2083.8 bod y Prif Swyddog Ariannol wedi bwrw ymlaen â gwaith ar fodel ariannol newydd ac y byddai'n ei gyflwyno i’r Cyngor maes o law.

2084 Diweddariad ar y Strategaeth Ystadau

Cafwyd diweddariad llafar gan y Dirprwy Is-ganghellor.

Nodwyd

2084.1  bod y Brifysgol yn dod i ddiwedd catalog mawr o brosiectau adeiladu newydd, seilwaith digidol a chyfalaf; bod y Cynllun Buddsoddi Tymor Byr yn cael ei reoli gan y Grŵp Portffolio Ystadau a Seilwaith, gan gymryd ymagwedd gyfannol at fuddsoddi'n strategol yn yr ystad a rhoi’r gorau i fuddsoddi ynddi, yn unol â'r uwchgynllun cyffredinol; ac y byddai'r strategaeth ystadau ar ei newydd wedd yn sicrhau'r defnydd gorau o le, cynnydd tuag at Sero Net, ac yn  alluogwr allweddol ar gyfer busnes craidd;

2084.2  y byddai'r strategaeth ar ei newydd wedd yn cael ei chyflwyno i gyfarfod y Cyngor ym mis Chwefror 2023 ac y byddai'n cael ei chyflwyno gyda'r strategaethau chwaraeon a llety;

2084.3 bod polisi mannau newydd ar waith, gyda grŵp rheoli mannau yn goruchwylio hyn; bod ystyriaeth o ofynion yn ymwneud â mannau bellach yn cael sylw yn y Broses Gynllunio Integredig;

2084.4  bod adeiladau gwael yn effeithio ar brofiad staff a myfyrwyr, a bod y Cyngor yn awyddus i weld drafft cyntaf y strategaeth ar ei newydd wedd yn y cylch nesaf.

2085 Dyfodol Gwell drwy Beirianneg - strategaeth newydd ar gyfer Peirianneg yng Nghaerdydd

Cyflwynwyd ac ystyriwyd papur 22/192C 'Dyfodol Gwell drwy Beirianneg – Strategaeth Newydd ar gyfer Peirianneg yng Nghaerdydd'. Siaradodd y Dirprwy Is-ganghellor Gweithgarwch Rhyngwladol a Recriwtio Myfyrwyr a’r Coleg  Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg am yr eitem hon.

Nodwyd

2085.1  bod achos busnes ar gyfer yr Ysgol Beirianneg (ENGIN) wedi bod yn cael ei ddatblygu ers peth amser a'i nod oedd sicrhau bod ENGIN yn arwain y sector; bod y cynnig yn cefnogi’r gwaith o weithredu agweddau allweddol ar strategaeth ENGIN a bod angen ychydig dros £5M o gyllid cyfalaf ar ei chyfer dros gyfnod ad-dalu byr a reolir yn dynn;

2085.2  bod gwreiddiau'r cynnig yn Trawsnewid Caerdydd a’i fod yn ymateb i gyfarwyddyd Grŵp y Strategaeth Recriwtio a Derbyn, sef cydnabod bod gan ENGIN botensial sylweddol i gynyddu derbyniadau;

2085.3  bod yr Ysgol yn cynnig ystod eang o gyrsiau Peirianneg, a oedd yn aml yn ormod i fyfyrwyr; roedd y strategaeth yn cynnig blwyddyn gyntaf fwy cydlynol i fyfyrwyr, yn darparu sylfaen dda ar gyfer pob disgyblaeth beirianneg ac yn sicrhau bod myfyrwyr ar yr un lefel; y gobaith oedd y byddai hyn yn gwella cyfraddau cadw, yn lleihau cyfraddau gadael ac yn  lleihau anghysondeb o ran lefelau cyflawni; byddai hyn yn gofyn am fuddsoddiad mewn mannau addysgu i sicrhau eu bod yn addas i'r diben;

2085.4  y byddai'r cynnig yn galluogi gwelliant i'r amgylchedd fel ei fod yn addas i fyfyrwyr, i gefnogi'r newidiadau arfaethedig i ddarpariaeth academaidd; a bod yr achos busnes yn dangos bod y buddsoddiad yn talu amdano'i hun drwy incwm ffioedd ac y dylai hefyd alluogi cynnydd sylweddol mewn incwm ymchwil;

2085.5  nad oedd datganiadau yn ymwneud â'r sefyllfa bresennol yn yr achos busnes ar dudalen 153 o'r Llyfr Cyfarfod o reidrwydd yn gwrth-ddweud ei gilydd gan fod bwlch ar hyn o bryd rhwng yr hyn a oedd yn cael ei gyflawni o ran niferoedd myfyrwyr ac incwm ymchwil yn erbyn potensial yr Ysgol yn y meysydd hyn; er enghraifft, nid oedd yr Ysgol yn cyflawni sgôr ACM mor uchel ag y gallai, ac roedd perfformiad anghyson ar draws disgyblaethau yn yr Ysgol;

2085.6  bod y newid i ddull dysgu seiliedig ar broblemau o'r dulliau traddodiadol o addysgu yn newid sylweddol, a bod angen lle ychwanegol a chymorth ychwanegol sylweddol er mwyn i staff a myfyrwyr addasu i hyn; bod yr Ysgol yn cydnabod y pwyntiau hyn;

2085.7  bod gan y Brifysgol brofiad blaenorol o newid tebyg o’r adeg y cyflwynodd y cwricwlwm C21 yn yr Ysgol Feddygaeth, a bod ganddi arbenigwyr mewn dysgu seiliedig ar broblemau a allai gynnig cyngor; y byddai'r Dirprwy Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr yn gweithio gyda Deon Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg yn ENGIN i ystyried sut i oruchwylio'r camau gweithredu i fynd i'r afael â'r pryderon hyn;

2085.8  bod y recriwtio yn yr achos busnes wedi'i anelu at staff llwybr Addysgu ac Ysgolheictod i adlewyrchu'r galw am fwy o addysgu, yn enwedig ar gyfer myfyrwyr blwyddyn gyntaf y byddai COVID hefyd wedi effeithio ar eu profiad addysgol blaenorol; a bod yr Ysgol yn hyderus y gallai lenwi'r swyddi hyn;

2085.9  bod Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau wedi adrodd bod y Pwyllgor yn cefnogi'r cynnig yn gryf;

2085.10  y gallai sefydlu mwy o lwybrau amgen i ENGIN hefyd ehangu cyfranogiad o lwybrau llai traddodiadol (a bod modelau’n bodoli mewn mannau eraill, megis consortiwm Coleg y Brenin, Llundain a Cambridge Foundation School);

2085.11 y gallai fformat newydd y cynlluniau eu gwneud yn fwy deniadol i ddarpar gyflogwyr proffesiynol lleol a allai wedyn gyfrannu'n weithredol, er enghraifft drwy gynnig lleoliadau profiad gwaith a/neu gyfleoedd am weithdai, ac y dylid mynd ar drywydd hyn;

2085.12  y byddai'r cynnig yn darparu màs critigol i helpu i wella perfformiad o ran ymchwil, gyda'r Ysgol ar hyn o bryd yn yr ail chwartel yng Ngrŵp Russell ar gyfer incwm ymchwil.

Penderfynwyd

2085.13 cymeradwyo £5.429m o gyllid cyfalaf ar gyfer gwaith adnewyddu ac offer yn Adeiladau'r Frenhines, yn amodol ar ystyried yn briodol a gweithredu'r pryderon a godwyd yng Nghofnod 2085.6 uchod ynghylch staff, profiad myfyrwyr a'r cymorth sydd ei angen.

2086 Profiad Myfyrwyr

Cyflwynwyd ac ystyriwyd papurau 22/238 'Adroddiad Llywydd Undeb y Myfyrwyr' a 22/243, 'Diweddariad ar Berfformiad y Brifysgol ac Ymateb i'r ACM'. Siaradodd Llywydd Undeb y Myfyrwyr a'r Dirprwy Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr am yr eitem hon.

Nodwyd

2086.1 y bu'r ganran uchaf erioed i bleidleisio yn etholiadau'r hydref Undeb y Myfyrwyr (UM), a oedd yn cynnwys ethol Is-lywydd Addysg newydd ynghyd â llenwi nifer o swyddi eraill; bod digwyddiadau'r glasfyfyrwyr a digwyddiadau Mis Hanes Pobl Ddu wedi bod yn llwyddiannus iawn;

2086.2 bod yr adroddiad hefyd yn cynnwys cyfeiriad at waith UM ar yr argyfwng costau byw, gweithredu diwydiannol UCU, ac ymgyrch o'r enw 'cops oddi ar y campws’ yn cynnig na ddylid cael dim ymgysylltu â'r Heddlu yn UM ac yn gwahodd y Brifysgol i fabwysiadu sefyllfa debyg ar y campws; byddai’r rhain i gyd yn cael sylw yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol UM a gynhelid cyn hir;

2086.3  bod UM wedi ymgymryd â llawer o weithgareddau i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, gan gynnwys cinio â chymhorthdal, a bod banc bwyd wedi'i drefnu ar gampws y Mynydd Bychan a champws Cathays a oedd yn hynod o brysur;

2086.4  nad oedd gan UM dystiolaeth glir o gynnydd mewn problemau iechyd meddwl myfyrwyr eleni, ond bod tystiolaeth anecdotaidd o oedi cyn cael mynediad at wasanaethau Meddygon Teulu a Bywyd Myfyrwyr;

2086.5  bod y Brifysgol wedi gweithio gydag UM i ddarparu pecyn llawn o gymorth i fyfyrwyr o ran yr argyfwng costau byw, gan gynnwys dileu dirwyon llyfrgell, codiad mewn ariantal Ymchwil Ôl-raddedig a chodiad sylweddol yn y gronfa galedi. Roedd hyn yn un o’r ymrwymiadau ariannol mwyaf yn y Grŵp Russell o ran cynorthwyo myfyrwyr n ystod yr argyfwng costau byw; y byddai’n ddefnyddiol petai UM yn hyrwyddo'r gronfa galedi ymhellach, gan nad oedd gor-ddefnydd ohoni; y gellid gwneud mwy o waith o ran mesurau costau byw;

2086.6  bod y Brifysgol yn adolygu ac yn gwella'r cymorth a ddarperir i diwtoriaid personol o ran hyfforddiant ar iechyd meddwl; bod grŵp iechyd meddwl myfyrwyr newydd wedi’i sefydlu, wedi'i gadeirio gan y Dirprwy Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, a oedd yn sicrhau bod y Brifysgol gam o flaen y galw am gymorth ym maes iechyd meddwl myfyrwyr yn hytrach na’i bod yn ymateb iddo;

Diweddariad ar Berfformiad y Brifysgol ac Ymateb i'r ACM

2086.7  bod y papur yn rhoi trosolwg o ganlyniadau'r ACM, ymateb y Brifysgol i'r canlyniadau a gwybodaeth am y gwelliant a gyflawnwyd o dan y portffolio; bod gwelliannau wedi bod yn yr holl themâu a boddhad cyffredinol yn yr ACM, a gwelliannau o gymharu â pherfformiad Grŵp Russell, sydd yn eu tro wedi arwain at well safle mewn tablau a DPA yn y maes hwn;

2086.8  er gwaethaf hyn, bod y Brifysgol yn dal i berfformio ar gyfartaledd yn is na'r hyn y dylai fod yng Nghymru, yn y DU ac yng Ngrŵp Russell; bod problemau'n parhau gydag elfennau o'r ACM sydd islaw'r meincnod, llinyn hir o bynciau a oedd bellach yn destun mwy o fonitro rheoleiddiol, a'r 3ydd a'r 4ydd chwartel ar gyfer asesu ac adborth, a llais y myfyrwyr;

2086.10  bod yr ymatebion i'r canlyniadau hyn yn cynnwys gweithredu ar ganfyddiadau'r archwiliad yn y maes hwn, monitro'r modd y mae'r Grŵp Goruchwylio Perfformiad Addysg yn rhoi cynlluniau gweithredu pwnc ar waith, a threialu data yn ystod y flwyddyn i ddarparu systemau rhybuddio cynnar; bod y Brifysgol yn defnyddio dull monitro seiliedig ar risg ac yn darparu cymorth ychwanegol lle bo angen; bod profiad myfyrwyr a chefnogaeth Gwasanaethau Proffesiynol hefyd yn cael eu trafod yn y Broses Gynllunio Integredig a oedd yn llwyfan newydd ar gyfer trafodaethau mewn cyd-destun ehangach na chanlyniadau'r ACM yn unig;

2086.11 bod nifer o newidiadau wedi'u gwneud i'r ACM yn dilyn ymgynghoriad a gynhaliwyd gan y Swyddfa Fyfyrwyr, gan arwain at gwestiynau'n cael eu fframio'n wahanol a'u mesur yn wahanol, ac y byddai'r newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno ym mis Ionawr 2023; bod y Brifysgol yn ceisio profi ymatebion i'r cwestiynau newydd yn fewnol; bod tablau cynghrair yn debygol o gael eu hailosod a safleoedd yn debygol o gael eu newid o ganlyniad i'r holl newidiadau hyn, ac y byddai'n ddefnyddiol cael syniad ymlaen llaw sut y byddai hyn yn effeithio ar safle'r Brifysgol;

2086.12  bod y Brifysgol yn cael lefel ymgysylltiad da yn yr ysgolion a oedd yn cael eu monitro'n helaeth gan CCAUC, a bod defnyddio'r Broses Gynllunio Integredig a chynnig cymorth ar gyfer newid wedi cynorthwyo'r sgyrsiau hyn â Cholegau; mai'r Brifysgol oedd yn gyfrifol am gyflwyno cynllun gweithredu pwnc ac y byddai data yn ystod y flwyddyn yn cael ei ddefnyddio i wirio a yw’r gwaith ar y trywydd iawn;

2086.13  bod y Cyngor wedi llongyfarch y Dirprwy Is-ganghellor a'r tîm ar system gadarn o atebolrwydd a oedd yn darparu lefelau uchel a digyffelyb o sicrwydd yn y maes hwn.

2087 Safbwynt y Myfyrwyr - Ymateb y Brifysgol

Cyflwynwyd ac ystyriwyd papur 22/242, 'Ymateb i Safbwyntiau Myfyrwyr’. Siaradodd y Dirprwy Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr am yr eitem hon.

Nodwyd

2087.1 mai ymateb oedd hwn i'r papur Safbwynt Myfyrwyr a gyflwynwyd i’r Cyngor ym mis Gorffennaf 2022; bod gweithrediaeth bresennol UM wedi blaenoriaethu'r meysydd canlynol: dysgu cyfunol a recordio darlithoedd, Cyswllt Myfyrwyr, Mannau Astudio a meddyliau ar Weithredu Diwydiannol; bod camau gweithredu sy'n ymateb i bob un o'r meysydd hyn bellach wedi'u hymgorffori yn y strwythurau presennol; y byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Senedd ar 30 Tachwedd 2022;

2087.2 bod yr UM wedi gofyn am 'symud oddi wrth brosiectau partneriaeth' ac mai pwrpas hynny oedd ymgorffori camau gweithredu yn y strwythurau presennol i roi hirhoedledd i'r mentrau, ond byddai'r rhain yn dal i gael eu datblygu fel partneriaeth rhwng y Brifysgol a'r UM.

2088 Adroddiad Ansawdd Tair Blynedd drafft gan CCAUC

Cyflwynwyd ac ystyriwyd papur 21/919R, 'Adroddiad Ymweliad Tair Blynedd CCAUC'. Siaradodd y Dirprwy Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr am yr eitem hon.

Nodwyd

2088.1 bod y papur yn cyflwyno adroddiad ar ymweliad tair blynedd CCAUC â'r Brifysgol a gynhaliwyd gan swyddogion CCAUC ym mis Mai 2022 yn unol â gofynion Fframwaith Sicrhau Ansawdd Cymru;

2088.2 bod adroddiad yr ymweliad tair blynedd yn cadarnhau bod prosesau a mecanweithiau addas ar waith er mwyn rhoi sicrwydd i CCAUC ar faterion yn ymwneud ag ansawdd a phrofiad myfyrwyr; bod yr adroddiad yn amlygu meysydd i'w hystyried ymhellach gan y Cyngor a byddai'r Brifysgol yn bwrw ymlaen â'r rhain yn ystod 2022/23 drwy'r strwythurau llywodraethu addysg; y byddai ymweliad anffurfiol gan CCAUC ym mis Ionawr lle byddai'r Dirprwy Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr yn amlinellu camau gweithredu'r Brifysgol hyd yma.

2089 Ymgysylltu ag Aelodau'r Cyngor ar ddatblygu polisi

Cyflwynwyd ac ystyriwyd papur 22/71R, 'Cynnwys Aelodau'r Cyngor yng nghamau ffurfiannol polisi, prosiectau a strategaeth'. Siaradodd Ysgrifennydd y Brifysgol am yr eitem hon.

Nodwyd

2089.1  bod y papur yn cyflwyno canfyddiadau ac argymhelliad Grŵp Gorchwyl a Gorffen yr Adolygiad Llywodraethu a sefydlwyd i ystyried argymhelliad 17 o Adolygiad Effeithiolrwydd Llywodraethu 2021, sef bod y Cyngor yn defnyddio dull cyfundrefnol o gynnwys ei aelodau yng nghamau ffurfiannol polisi, prosiectau a strategaeth ;

2089.2  mai’r argymhelliad, a ystyriwyd gan y Pwyllgor Llywodraethu, oedd y dylid mabwysiadu set o ddeg egwyddor i feithrin diwylliant o ymgysylltu â’r Cyngor yn gynnar yn y broses ac y dylid cyfyngu cwmpas hyn i fentrau strategol mawr neu ddatblygu strategaeth;

2089.3  y byddai modd defnyddio matrics sgiliau aelodau'r Cyngor i baru arbenigedd â mentrau, ac mai Ysgrifennydd y Brifysgol fyddai'r cyswllt rhwng aelodau a'r rhai sy'n ceisio ymgysylltiad, er mwyn cynghori ar gapasiti a mecanweithiau addas ar gyfer ymgysylltu.

Penderfynwyd

2089.4  cymeradwyo argymhelliad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen a’r Pwyllgor Llywodraethu y dylid mabwysiadu’r set o egwyddorion a nodir yn y papur er mwyn meithrin diwylliant o ymgysylltu â’r Cyngor yn gynnar;

2089.5 y bydd Ysgrifennydd y Brifysgol yn sicrhau bod yr egwyddorion yn cael eu cyfleu drwy'r Fframwaith Rheoli Prosiectau a llwybrau priodol eraill.

Gadawodd yr Athro Rudolf Allemann y cyfarfod yn dilyn yr eitem hon.

2090 Llythyr Cynrychiolaeth

[Daeth y Cadeirydd ag eitem 19 ymlaen, gan newid rhywfaint ar yr agenda]

Cyflwynwyd ac ystyriwyd papur 22/254C, 'Llythyr Cynrychiolaeth'. Siaradodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg am yr eitem hon.

Nodwyd

2090.1 [Hepgorwyd]

2090.2  bod CCAUC wedi cael gwybod am y sefyllfa ac nad oedd hynny’n anarferol pan fyddai archwilwyr newydd yn cynnal eu harchwiliad cyntaf; nad oedd y PSA yn disgwyl i unrhyw newidiadau sylweddol godi o'r gwiriadau terfynol a oedd heb eu cwblhau.

Penderfynwyd

2090.3  cymeradwyo cynnwys y Llythyr Cynrychiolaeth.

2091 Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol

[Daeth y Cadeirydd ag eitem 20 ymlaen, gan newid rhywfaint ar yr agenda]

Cyflwynwyd ac ystyriwyd papur 22/199CR, 'Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol 31 Gorffennaf 2022' ynghyd â phapur 22/269C a rannwyd drwy e-bost, yn manylu ar y gwahaniaethau rhwng fersiwn 6 (yn y llyfr cyfarfod) a fersiwn 7 (fersiwn derfynol i'w llofnodi). Siaradodd y Prif Swyddog Ariannol am yr eitem hon.

Nodwyd

2091.1  y pwyntiau a godwyd yn 2090.1 uchod ynghylch yr oedi cyn cwblhau'r archwiliad allanol ond nad oedd disgwyl unrhyw newidiadau sylweddol i'r Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol ar ôl cwblhau’r adolygiad; bod y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau wedi craffu ar y dyfarniadau a'r elfennau cynaliadwyedd a chanfod eu bod yn drylwyr a diwyd iawn.

Penderfynwyd

2091.2   cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol a’r Datganiadau Ariannol ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Gorffennaf 2022, gyda’r amod na fyddai newidiadau sylweddol ar ôl cwblhau’r archwiliad diwedd blwyddyn;

2091.3  pe bai angen mân newidiadau, bod gan y Cadeirydd yr awdurdod i gymryd camau Cadeirydd i gymeradwyo diwygiadau i’r Adroddiad Blynyddol a’r Datganiadau Ariannol ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Gorffennaf 2022 ar ran y Cyngor, ar ôl ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg;

2091.4  pe bai’r newidiadau’n sylweddol, y byddai’r Cyngor yn cael ei alw’n ôl i ailystyried yr Adroddiad Blynyddol a’r Datganiadau Ariannol am y flwyddyn yn diweddu 31 Gorffennaf 2022.

2092  Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Risg

Cyflwynwyd ac ystyriwyd papur 22/224CR, 'Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Risg'. Siaradodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg am yr eitem hon.

Nodwyd

2092.1  bod y papur yn cyflwyno adroddiad blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Risg i'r Cyngor a'r Is-ganghellor fel y swyddog atebol ar gyfer y Brifysgol yn unol â gofynion Cod Rheolaeth Ariannol CCAUC;

2092.2  bod y Pwyllgor Archwilio a Risg wedi cadarnhau bod prosesau’n ddigonol ac yn effeithiol o ran rheoli risg, rheolaeth a llywodraethiant, yr economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd (gwerth am arian) a sicrwydd ansawdd data;

2092.3  nad oedd adroddiadau 'dim sicrwydd' eleni a bod llai o ganfyddiadau o sylweddoldeb uchel, a oedd yn drywydd calonogol; bod yr adolygiad allanol o'r Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn gadarnhaol;

2092.4 y byddai penodi Swyddog Cydymffurfiaeth Ariannol newydd yn cynorthwyo gyda chydymffurfiaeth reoleiddiol a bod rheoli risg wedi parhau i esblygu dros y flwyddyn, ond roedd swydd yr Uwch Gynghorydd Risg bellach yn wag; bod angen cryfhau'r tîm Cyllid gan fod nifer o faterion rheolaeth yn y maes hwn a bod y rhai arwyddocaol wedi'u trafod yn fanwl yn y Pwyllgor Archwilio a Risg;

2092.5 bod angen rhoi gwybod i'r Cyngor am unrhyw gyfyngiad atebolrwydd y bydd Archwilwyr Mewnol Allanol yn gofyn amdano, a bod TIAA, sy’n cynnal archwiliadau TG, wedi gofyn am atebolrwydd o £5m  - y cytunwyd arno;

2092.6  bod y Cyngor wedi diolch i'r Pwyllgor Archwilio a Risg am y gwaith yr oedd wedi'i wneud drwy gydol y flwyddyn.

2093 Adroddiad gan y Pwyllgor Dileu Swyddi i'r Cyngor

Derbyniwyd ac ystyriwyd papur 22/232C, 'Adroddiad y Pwyllgor Dileu Swyddi i'r Cyngor'. Ymunodd y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol â'r cyfarfod i siarad am yr eitem hon.

Nodwyd

2093.1  [Hepgorwyd]

Penderfynwyd

2093.2  [Hepgorwyd]

Gadawodd y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol y cyfarfod ar ddiwedd yr eitem hon.

2094 Monitro Cynllun Ffioedd a Mynediad (FAP) 21-22

Cyflwynwyd ac ystyriwyd papur 22/222C 'Monitro Cynllun Ffioedd a Mynediad (FAP) 21-22'.  Atebodd y Dirprwy Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr gwestiynau ar y papur hwn.

Nodwyd

2094.1  bod nifer y myfyrwyr ar ehangu cyfranogiad wedi gostwng er gwaethaf gwaith yn y maes hwn; bod yna weithgareddau wyneb yn wyneb na ellid eu cynnal oherwydd COVID; bod COVID hefyd wedi effeithio ar y farchnad ran amser; bod angen sicrhau bod y Cynllun Ffioedd a Mynediad yn gyson â’r strategaeth Ehangu Cyfranogiad;

2094.2  nad oedd unrhyw dargedau gan CCAUC, felly dim ond dangosol oedd y meincnodi a ddarparwyd yn yr adroddiad, a'r farn y byddai mwy o feincnodi yn y dyfodol yn ddefnyddiol a bod hyn ar y gweill;

2094.3  gyda'r newid o CCAUC i CTER, roedd yn bosib y byddai newid o ran gofynion monitro ffioedd a mynediad a bod strwythurau mewnol y Brifysgol mewn sefyllfa dda i addasu; fodd bynnag, nid oedd goblygiadau ehangach y newid rheoleiddiwr wedi'u mynegi'n llawn eto a gallent fod yn arwyddocaol i'r Brifysgol.

2095 Unrhyw fater arall

Nid oedd materion eraill.

2096 Eitemau a gafwyd i’w cymeradwyo

Penderfynwyd

2096.1 cymeradwyo'r papurau canlynol:

  • 22/87 Cyfansoddiad ac Aelodaeth y Pwyllgor Archwilio a Risg
  • 22/57 Cyfansoddiad y Pwyllgor Llywodraethu
  • 22/185 Cyfansoddiad ac Aelodaeth y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau
  • 22/109 Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Cymrodoriaethau a Graddau Er Anrhydedd
  • 22/193 y Cynllun Dirprwyo (Cyfran 2)
  • 22/206 Adolygiad o'r Berthynas Ddwysiambraidd rhwng y Cyngor a'r Senedd:
  • 22/247 Newidiadau i Ordinhadau
  • 22/72 Disgrifiad o Rôl Is-gadeirydd y Cyngor
  • 22/96C Adroddiad Gwerth am Arian
  • 22/94C Adroddiad Blynyddol Rheoli Risg
  • 22/95HC  Adroddiad Blynyddol - Twyll, Llwgrwobrwyo a Chydymffurfiaeth Ariannol Arall
  • 22/209HC Barn Flynyddol yr Archwilwyr Mewnol

2097 Eitemau a gafwyd er gwybodaeth

Nodwyd y papurau canlynol:

  • 22/256C Adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg
  • 22/244C Adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau
  • 22/241 Adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu
  • 22/229 Cyfansoddiad y Pwyllgor Tâl
  • 22/230 Cyfansoddiad y Pwyllgor Dyrchafiadau Academaidd
  • 22/233 Selio Trafodion
  • 22/236C Meincnodi Datganiadau Ariannol Addysg Uwch (2020-21)
  • 22/191C Diweddariadau ar Gynlluniau Buddsoddi – Cynllun Buddsoddi Cyfalaf 2018-23 a Chynllun Buddsoddi Tymor Byr 2021-23
  • 22/155 Datganiad Blynyddol ar Uniondeb Ymchwil 2021-22
  • 22/255 Siarter a Chytundeb Perthynas Undeb y Myfyrwyr
  • 22/234 Cynllun Gweithredol Bwrdd Gweithredol y Brifysgol 2022-23
  • 22/228C Ymweliad Adolygu Sicrwydd Sefydliadol CCAUC 2021 – Adroddiad Terfynol
  • 22/267HC Diweddariad ar Ddigwyddiadau Mawr a Difrifol

Tabl rheoli'r ddogfen

Teitl y ddogfen:Cofnodion y Cyngor 24 Tachwedd 2022
Dyddiad dod i rym:21 Mehefin 2023