Ewch i'r prif gynnwys
Polisi

Polisi Iaith Gymraeg mewn perthynas â darparu gwasanaethau i fyfyrwyr a'r cyhoedd i fyfyrwyr a'r cyhoedd

1. Datganiad Polisi

1.1. Mae'r Brifysgol yn croesawu'r ymrwymiadau a nodir yn Safonau'r Gymraeg a gyflwynwyd gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ym mis Medi 2017, a bydd yn parhau i fynd ati i hyrwyddo'r Gymraeg ymysg ei staff a'i myfyrwyr. Yn rhan o'i chyfraniad at ddiwylliant, cymdeithas ac economi Cymru, mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

1.2. Mae Rheoliadau'r Gymraeg (Rhif 6) 2017 wedi'u cynllunio i gefnogi'r egwyddor na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. Mae'r polisi hwn yn amlinellu cyfrifoldebau'r Brifysgol o ran ei darpariaeth Gymraeg yn unol â gofynion Safonau'r Gymraeg.

1.3. Mae rhannau o’r polisi hwn yn berthnasol ar draws holl adrannau'r Brifysgol. Cyfrifoldeb pob aelod o staff sy'n ymwneud â chyflwyno gwasanaethau yw cadw at y canllawiau a nodir yn y ddogfen hon.

2. Amcanion y Polisi

2.1. Mae'r polisi hwn yn cynghori ar sut y defnyddir y Gymraeg wrth i'r Brifysgol gyflwyno gwasanaethau.

2.2. Mae'r polisi yn cynnig arweiniad ynghylch y gwasanaethau y mae'n rhaid eu darparu yn Gymraeg ac yn Saesneg, a'n hymrwymiad i wneud yn siŵr na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.

3. Gohebiaeth, cyhoeddiadau a hysbysebu

3.1. Pan fydd unrhyw fyfyriwr, darpar fyfyriwr neu aelod o'r cyhoedd yn ysgrifennu at y Brifysgol yn
Gymraeg drwy unrhyw gyfrwng (ebost, neges destun, gohebiaeth ysgrifenedig, ac ati) rhaid ateb yn Gymraeg oni bai bod y sawl sy'n anfon yr ohebiaeth wedi nodi nad angen ateb yn Gymraeg, neu os nad oes angen ateb o gwbl.

3.2. At ddibenion anfon gohebiaeth sy’n mynd yn allanol a/neu gynhyrchu cyhoeddiadau a deunyddiau hysbysebu[1], bydd pob paragraff o 3.3 ac wedi hynny yn Adran 3 yn berthnasol os caiff y deunydd ei gynhyrchu ar ran corff y Brifysgol[2] ac mae wedi'i anelu at unrhyw fyfyriwr neu aelod o’r cyhoedd sy’n byw yng Nghymru pan mae diben neu gynnwys y cyhoeddiad o dan sylw yn ymwneud ag o leiaf un o’r canlynol:

  • derbyn a dethol myfyrwyr;
  • gwybodaeth a roddir i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr am gorff y Brifysgol;
  • lles myfyrwyr;
  • cwynion;
  • gweithdrefnau disgyblu mewn perthynas â myfyriwr;
  • gwasanaethau gyrfaoedd;;
  • mewnrwyd y myfyrwyr, safleoedd dysgu rhithwir a safleoedd porth dysgu;
  • seremonïau graddio a gwobrwyo;
  • asesiadau neu arholiadau myfyriwr;
  • dyfarnu grantiau a rhoi cymorth ariannol;
  • darlithoedd cyhoeddus;
  • cyfleoedd dysgu;
  • dyrannu tiwtoriaid personol;
  • llety myfyrwyr, llyfrgelloedd a chanolfannau celfyddydau
  • galwadau i linell gymorth, canolfan alwadau neu brif rifau ffôn a systemau ffôn awtomatig;
  • arwyddion ar adeiladau’r Brifysgol.

3.3. Os bydd dewis iaith myfyriwr neu ddarpar fyfyriwr yn hysbys ac mae’r ohebiaeth wedi’i phersonoli ac yn unigryw i’r unigolyn o dan sylw, dim ond yn y dewis iaith y gellir anfon gohebiaeth/cyhoeddiadau ac nid oes angen ei hanfon yn ddwyieithog.

3.4. Pan mae corff y Brifysgol yn anfon yr un ohebiaeth neu gyhoeddusrwydd a deunydd(iau) hysbysebu at nifer o bobl, rhaid anfon fersiwn Gymraeg o'r ohebiaeth neu’r deunydd(iau) ar yr un pryd ag unrhyw fersiwn Saesneg; oni bai bod y deunydd at sylw myfyrwyr UE neu ryngwladol yn unig.

3.5. At ddibenion anfon cyfathrebiadau yn allanol, bydd y Brifysgol yn rhoi polisi ar waith o osod y cynnwys yn ei iaith wreiddiol cyn unrhyw ddeunydd wedi'i gyfieithu.

3.6. Ym mhob gohebiaeth a gyhoeddir gan y Brifysgol ac ym mhob cyhoeddiad a hysbysiad, rhaid cynnwys ymwadiad sy’n datgan bod y Brifysgol yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac y bydd yn ymateb i ohebiaeth Gymraeg o fewn yr un amserlen ar gyfer ymateb yn Saesneg.

3.7. Os cynhyrchir fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân o ddeunydd cyhoeddusrwydd a hysbysebu, rhaid i’r fersiwn Saesneg ddatgan bod fersiwn Gymraeg ar gael.

3.8. Nid oes rhaid i’r Brifysgol gyfieithu unrhyw destun a gynhyrchwyd gan rywun arall i’r Gymraeg. Fodd bynnag, gofyn i’r cyrff allanol hyn ddarparu fersiynau dwyieithog neu Gymraeg/Saesneg ar wahân lle bynnag y bo modd fyddai’r arfer gorau oherwydd efallai bod nifer o sefydliadau allanol o’r fath yn gorfod bodloni eu gofynion eu hunain yng nghyd-destun Safonau’r Gymraeg o ran cyhoeddiadau a deunydd hysbysebu.

3.9. Bydd holl staff y Brifysgol yn creu llofnodion ebost dwyieithog ac ymatebion dwyieithog awtomatig i ohebiaeth drwy ebost.

3.10. Wrth hysbysebu rhifau ffôn, llinellau cymorth neu wasanaethau canolfannau galwadau, rhaid peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg o ran golwg (maint, ffont, lliw, gosodiad), maint a ffurf y
deunydd, safle neu amlygrwydd y deunydd mewn unrhyw le cyhoeddus, neu pryd a sut caiff deunydd ei gyhoeddi, ei ddarparu neu ei arddangos: rhaid datgan (yn Gymraeg) eich bod yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

4. Arwyddion a hysbysiadau

4.1. Pan mae arwyddion a hysbysiadau presennol yn cael eu hadnewyddu, bydd arwyddion neu hysbysiadau dwyieithog yn cael eu rhoi yn eu lle sy’n cyfleu’r un wybodaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg, a chaiff y Gymraeg ei gosod fel ei bod yn debygol o gael ei darllen yn gyntaf.

4.2. Rhaid i arwyddion a hysbysiadau dros dro sy’n cael eu codi o 1 Ebrill 2018 arddangos y testun Cymraeg mewn modd sy’n golygu y caiff ei ddarllen cyn unrhyw destun Saesneg yn ôl pob tebyg, ni waeth pryd y cynhyrchwyd yr arwydd neu’r hysbysiad.

4.3. Rhaid i'r testun Cymraeg a Saesneg fod yn gyfartal o ran ffont, maint, pwyslais a fformat.

4.4. Rhaid i'r Gymraeg ar bob arwydd a hysbysiad fod yn gywir o ran ystyr a mynegiant.

4.5. Rhaid i dderbynfeydd sydd â staff sy'n gallu cynnig gwasanaeth Cymraeg arddangos naill ai arwydd/hysbysiad dwyieithog sy'n datgan bod croeso i ymwelwyr ddefnyddio'r Gymraeg yn y dderbynfa.

5. Cynnwys ar-lein

5.1. Bydd pob tudalen bresennol a newydd ar wefan allanol y Brifysgol ar gael ac yn gweithio'n iawn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

5.1.1. Gwefan allanol: At ddibenion y polisi hwn, dylai'r 'Wefan Allanol' gael ei diffinio fel tudalennau HTML a ffeiliau cysylltiedig i'w lawrlwytho (e.e. delweddau, ffeiliau PDF) sy'n cael eu creu ar gyfer cynulleidfa gyhoeddus a heb unrhyw gyfyngiad o ran mynediad.  Mae'r diffiniad hwn yn eithrio "cynnwys a gynhyrchir gan y defnyddiwr".

5.2. Bydd pob tudalen bresennol a newydd ar Fewnrwyd Myfyrwyr y Brifysgol, safleoedd dysgu rhithwir a phyrth dysgu ar gael ac yn gweithio'n iawn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

5.2.1 Mewnrwyd y Myfyrwyr: At ddibenion y polisi hwn, dylai 'Mewnrwyd y Myfyrwyr' gael ei diffinio fel tudalennau HTML a ffeiliau cysylltiedig i'w lawrlwytho (e.e. delweddau, ffeiliau PDF) nad ydynt ar gael yn gyhoeddus ond sydd wedi'u cyhoeddi gan y Brifysgol ar gyfer ein holl fyfyrwyr. Mae'r diffiniad hwn yn eithrio "cynnwys a gynhyrchir gan y defnyddiwr". Os nad ydych yn siŵr sut i gategoreiddio gwasanaeth, cysylltwch â Thîm Saernïaeth TG (itarchitecture@caerdydd.ac.uk)

5.2.2 'Safleoedd Dysgu Rhithwir a Phyrth Dysgu'; At ddibenion y polisi hwn, dylai 'Safleoedd Dysgu Rhithwir a Phyrth Dysgu' gael eu diffinio fel gwasanaethau y ceir mynediad atynt drwy borwr gwe ac sy'n ceisio hwyluso dysgu i fyfyrwyr a'r cyhoedd.  Os nad ydych yn siŵr sut i gategoreiddio gwasanaeth, cysylltwch â Thîm Saernïaeth TG (it-architecture@caerdydd.ac.uk)

5.3 Bydd pob tudalen bresennol a newydd ar Fewnrwyd Staff y Brifysgol sy'n agored i'r holl staff yn cael eu cyhoeddi ac ar gael yn llawn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

5.3.1 Mewnrwyd y Staff: At ddibenion y polisi hwn, dylai 'Mewnrwyd y Staff' gael ei diffinio fel tudalennau HTML a ffeiliau i'w lawrlwytho cysylltiedig (e.e. delweddau, ffeiliau PDF) nad ydynt yn hygyrch i'r cyhoedd ond wedi'u cyhoeddi gan y Brifysgol ar gyfer ein holl weithwyr a lle nad yw mynediad wedi'i gyfyngu. Mae'r diffiniad hwn yn eithrio "cynnwys a gynhyrchir gan y defnyddiwr".

5.4 Dim ond ar gyfer cynnwys a rhyngwynebau a grëwyd gan Brifysgol Caerdydd y mae Adran 5 yn berthnasol, ac nid ydynt yn berthnasol ar gyfer y canlynol:

  • Unrhyw destun sydd heb ei gynhyrchu gan y Brifysgol
  • Dogfennau sydd ar gael drwy ddolen ar wefan[3]
  • Negeseuon a roddir ar unrhyw un o'r uchod sydd i'w gweld gan is-set o'r gynulleidfa yn unig
  • Deunydd hysbysebu ar wefan sydd heb ei chreu gan Brifysgol Caerdydd
  • Clipiau fideo a sain ar wefan
  • Cynnwys sydd heb ei gyhoeddi gan y Brifysgol ar dudalen ryngweithiol a gyhoeddir ar ein gwefan (e.e. sylwadau neu fforwm drafod, cynnwys a gynhyrchwyd gan ddefnyddwyr)
  • Cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Unrhyw gynnwys sydd ar gael mewn iaith heblaw Saesneg yn unig

*Sylwer NA chaiff blogiau a gynhyrchir gan y Brifysgol ac sydd ar gael ar gyfer yr holl staff / y cyhoedd, eu hystyried yn gynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, a rhaid iddynt fod ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Nid yw cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr e.e. sylwadau, yn berthnasol i'r Safonau.

5.5. Os oes cynnwys sydd wedi'i eithrio rhag y Safonau eisoes yn cael ei gyfieithu’n rheolaidd, disgwylir iddo barhau i gael ei gyfieithu. E.e. Gellir darparu fideos cyfrwng Cymraeg a Saesneg o hyd.

5.6. Ar unrhyw dudalen Saesneg sydd â thudalen Gymraeg gyfatebol, rhaid datgan bod fersiwn Gymraeg ar gael a darparu dolen ar ei chyfer.

5.7. Rhaid i'r rhyngwyneb a'r dewislenni ar dudalennau gwefannau allanol perthnasol, tudalennau ar fewnrwyd y myfyrwyr a thudalennau ar fewnrwyd y staff fod ar gael yn Gymraeg (os oes rhyngwyneb Cymraeg ar gael).

5.8. Rhaid i'r holl dudalennau Cymraeg a Saesneg ar y we fod yn gyfartal o ran dyluniad, ansawdd a chywirdeb, ac yn cael eu diweddaru ar yr un pryd.

5.9. Ni fydd gwybodaeth ar-lein sy'n ymwneud yn benodol â myfyrwyr rhyngwladol ar gael yn Gymraeg.

6. Rhaglenni meddalwedd ac ar y we

6.1. At ddibenion y polisi hwn, dyma ddiffiniadau o'r gwasanaethau perthnasol. Os nad ydych yn siŵr sut i gategoreiddio gwasanaeth, cysylltwch â Thîm Saernïaeth TG (it-architecture@caerdydd.ac.uk):

6.1.1. Meddalwedd: meddalwedd bwrdd gwaith sydd wedi'i gosod ar gyfrifiadur, yn ogystal â rhaglenni menter sy’n gwneud mwy na dangos cynnwys sydd wedi'i greu gan unigolyn arall yn unig.

6.1.2. Rhaglen ar y we: math o feddalwedd y mae defnyddwyr yn rhyngweithio â nhw drwy borwr.

6.1.3. Ap: apiau a gyhoeddir i’w defnyddio ar ffonau symudol a/neu ddyfeisiau llechen drwy ‘Siopau Apiau’ fel Apple App Store neu Google Play.

6.1.4. Nid yw’r adran hon o’r polisi yn berthnasol i wefannau, gan gynnwys mewnrwyd y myfyrwyr, safleoedd dysgu rhithwir a phyrth dysgu; cyfeiriwch at adran 5.

6.2. Mae Adran 6 y polisi yn berthnasol os yw'r gweithgaredd a gynhaliwyd neu'r gwasanaeth a ddarparwyd drwy'r ap, y feddalwedd neu'r rhaglen ar y we:

a. yn cael ei gyflwyno i bobl sy'n byw yng Nghymru ac

b. yn ymwneud ag o leiaf un o'r canlynol:

  • derbyn a dethol myfyrwyr;
  • gwybodaeth a grëwyd gan y Brifysgol ar gyfer myfyrwyr a darpar fyfyrwyr, ac eithrio deunydd cyrsiau;
  • lles myfyrwyr;
  • cwynion gan fyfyrwyr neu'r cyhoedd;
  • gweithdrefnau disgyblu mewn perthynas â myfyriwr;
  • gwasanaeth gyrfaoedd;
  • seremonïau graddio a gwobrwyo;
  • asesiadau neu arholiadau myfyriwr;
  • dyfarnu grantiau a rhoi cymorth ariannol;
  • darlithoedd cyhoeddus
  • cyfleoedd dysgu; wedi'u diffinio fel unrhyw seminar, hyfforddiant, gweithdy, sesiwn flasu, neu ddarpariaeth debyg sy'n cael eu darparu er mwyn addysgu neu wella sgiliau'r cyhoedd; ond nid yw'n cynnwys - cyrsiau (gan gynnwys cyrsiau ar-lein) neu ddeunyddiau cwrs, neu unrhyw seminar, hyfforddiant, gweithdy, sesiwn flasu neu ddarpariaeth debyg a ddarperir yn rhan o gwrs; neu seminarau neu gyflwyniadau sy'n ymwneud â pherfformiad neu gynhyrchiad
  • dyrannu tiwtoriaid personol
  • llety myfyrwyr, llyfrgelloedd a chanolfannau celfyddydaugwasanaethau ar gyfer myfyrwyr neu'r cyhoedd sy'n eu galluogi i ffonio'r llinellau canlynol: Prif switsfwrdd; Desg Gwasanaethau TG; Derbyn Myfyrwyr; Recriwtio Israddedigion/Ôl-raddedigion; Swyddfa'r Wasg; Llinell Gymorth Clirio; Gwasanaethau Myfyrwyr; Llinell gymorth Ystadau
  • arwyddion ar adeiladau'r sefydliad

6.3. Bydd 'apiau' a ddiffinnir fel rhaglenni a gyhoeddir i’w defnyddio ar ffonau symudol a/neu ddyfeisiau llechen drwy ‘Siopau Apiau’ fel Apple App Store neu Google Play, yn gweithio'n iawn yn Gymraeg.

6.4. Bydd rhaglenni meddalwedd/gwe:

a. yn cynnig rhyngwyneb Cymraeg os oes un yn bodoli; neu, os nad oes rhyngwyneb Cymraeg ar hyn o bryd, bydd y Brifysgol yn ystyried opsiynau gyda'r cyflenwr ac yn asesu'r costau o greu un a chynnal y gwasanaeth drwy gydol oes y cynnyrch;

b. yn gallu cyflwyno unrhyw gynnwys a gynhyrchir gan y Brifysgol (heblaw am gynnwys clipiau sain a fideo) ac yn anfon unrhyw ohebiaeth a gynhyrchwyd gan y Brifysgol, yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan beidio â thrin y fersiynau Cymraeg yn llai ffafriol.

6.5. Nid oes rhaid i argaeledd rhyngwyneb meddalwedd Cymraeg fod y ffactor tyngedfennol wrth ddewis meddalwedd. Yn hytrach, dylai hyn gael ei ystyried ochr yn ochr â gofynion busnes eraill.

6.6. Nid oes angen i feddalwedd/rhaglenni'r we nad ydynt wedi'u rhestru yn 6.2 allu cynnig unrhyw opsiynau Cymraeg (oni bai eu bod yn darparu gwasanaethau i staff – gweler Polisi Iaith Gymraeg ar gyfer Safonau Gweithredu/Staff i gael manylion o'r hyn sy'n ofynnol gan wasanaethau sy'n wynebu staff). Bydd unrhyw gamau i ddatblygu rhyngwyneb Cymraeg ar gyfer rhaglenni nad ydynt wedi'u rhestru, yn cael llai o flaenoriaeth fel arfer na'r feddalwedd neu'r rhaglenni sydd wedi'u rhestru.

7. Gwasanaethau ffôn

7.1. Mae'r adran hon o'r polisi yn rhoi canllawiau ar y gofynion Cymraeg o ran:

  • Derbyn galwadau ffôn
  • Negeseuon llais
  • Systemau awtomataidd

7.2. At ddibenion y polisi hwn, mae 'galwadau ffôn' yn cyfeirio at alwadau allanol i'r Brifysgol, nid galwadau mewnol rhwng aelodau staff oni bai bod yr alwad honno yn trosglwyddo galwad allanol i adran arall.

7.3. At ddibenion y polisi hwn, mae 'galwadau ffôn' yn golygu unrhyw alwad i rif ffôn yn y Brifysgol pan mae pwrpas neu gynnwys yr alwad o dan sylw yn ymwneud ag unrhyw un neu ragor o'r canlynol:

  • derbyn a dethol myfyrwyr;
  • gwybodaeth a roddir i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr am gorff y Brifysgol;
  • lles myfyrwyr;
  • cwynion;
  • gweithdrefnau disgyblu mewn perthynas â myfyriwr;
  • gwasanaethau gyrfaoedd;
  • mewnrwyd y myfyrwyr, safleoedd dysgu rhithwir a safleoedd porth dysgu;
  • seremonïau graddio a gwobrwyo;
  • asesiadau neu arholiadau myfyriwr;
  • dyfarnu grantiau a rhoi cymorth ariannol;
  • darlithoedd cyhoeddus;
  • cyfleoedd dysgu;
  • dyrannu tiwtoriaid personol;
  • llety myfyrwyr, llyfrgelloedd a chanolfannau celfyddydau;
  • galwadau i linell gymorth, canolfan alwadau neu brif rifau ffôn a systemau ffôn awtomatig;
  • arwyddion ar adeiladau’r Brifysgol.

7.4. Rhaid i staff sy'n gyfrifol am gyfarch galwyr allanol ar unrhyw brif rif (neu rifau) ffôn, rhifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, gyfarch yr unigolyn yn Gymraeg (a Saesneg) ac ateb yr alwad yn Gymraeg yn ôl y gofyn nes y byddwch yn un o'r ddwy sefyllfa ganlynol:

(a) mae angen trosglwyddo'r alwad i aelod o staff nad yw'n siarad Cymraeg sy'n gallu cynnig gwasanaeth ar bwnc penodol; ac

(b) nid oes aelod staff sy'n siarad Cymraeg ar gael i gynnig gwasanaeth ar y pwnc penodol hwnnw.

7.5. Os ydych yn cynnig gwasanaeth Cymraeg ar eich prif rif(au) ffôn, ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, rhaid i'r rhif ffôn ar gyfer y gwasanaeth Cymraeg fod yr un fath a'r un ar gyfer y gwasanaeth Saesneg cyfatebol.

7.6. Rhaid i neges lais ddwyieithog fod ar gael ar unrhyw brif rif(au) ffôn nifer, rifau llinell gymorth neu rifau canolfannau galw.

7.7. Os oes gennych ddangosyddion perfformiad ar gyfer ateb galwadau ffôn, rhaid i chi wneud yn siŵr nad yw'r dangosyddion perfformiad hyn yn trin galwadau ffôn a wneir yn Gymraeg yn llai ffafriol na galwadau a wneir yn Saesneg.

7.8. Os nad oes gwasanaeth Cymraeg ar gael ar eich prif rif(au) ffôn, neu ar unrhyw rifau llinellau cymorth neu rifau canolfannau galwadau, rhaid i chi hysbysu'r sawl sy'n ffonio yn Gymraeg (ar ffurf neges awtomataidd neu mewn ffordd arall), pryd y bydd gwasanaeth Cymraeg ar gael.

7.9. Rhaid i unrhyw systemau ffôn awtomatig sydd ar waith ddarparu gwasanaeth awtomataidd cyflawn yn Gymraeg (a Saesneg).

7.10. Pan mae unrhyw aelod o staff yn mynd ati ar ran 'corff y Brifysgol' i ffonio rhywun allanol sy'n byw yng Nghymru, rhaid gofyn iddo/iddi a hoffent drafod y mater o dan sylw yn Gymraeg; rhaid cofnodi'r dewis hwn, a rhaid i alwadau yn y dyfodol sy'n ymwneud â'r mater gael eu cynnal yn Gymraeg.

8. Gwasanaethau derbynfa

8.1. Bydd gwasanaeth derbynfa dwyieithog ar gael yn y lleoliadau canlynol o 1 Hydref 2018 ymlaen

  • Prif Adeilad
  • Tŷ McKenzie
  • Adeilad Morgannwg
  • Canolfan Bywyd y Myfyrwyr
  • Derbynfa’r Gwasanaethau TG, 40-41 Plas y Parc

8.2. Os byddwch yn trefnu ymweliad neu apwyntiad gydag unigolyn ymlaen llaw, lle bydd yn dod i'ch derbyniad, a bod yr ymweliad yn ymwneud ag unrhywun neu'n fwy o'r materion canlynol:

  • derbyn a dethol myfyrwyr;
  • gwybodaeth a roddir i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr am gorff y Brifysgol;
  • lles myfyrwyr; iv. cwynion;
  • gweithdrefnau disgyblu mewn perthynas â myfyriwr;
  • gwasanaethau gyrfaoedd;
  • mewnrwyd y myfyrwyr, safleoedd dysgu rhithwir a safleoedd porth dysgu;
  • seremonïau graddio a gwobrwyo;
  • asesiadau neu arholiadau myfyriwr;
  • dyfarnu grantiau a rhoi cymorth ariannol;
  • darlithoedd cyhoeddus;
  • cyfleoedd dysgu;
  • dyrannu tiwtoriaid personol;
  • llety myfyrwyr, llyfrgelloedd a chanolfannau celfyddydau;
  • galwadau i linell gymorth, canolfan alwadau neu brif rifau ffôn a systemau ffôn awtomatig;
  • arwyddion ar adeiladau’r Brifysgol.

mae'n rhaid i chi ofyn iddynt a ydynt eisiau cael gwasanaeth derbynfa Cymraeg, a darparu hynny pe gwneir cais amdano.

8.3. Mae'n rhaid dangos arwydd (Cymraeg) mewn lleoliadau derbynfa dwyieithog sy'n datgan bod croeso i bobl ddefnyddio'r Gymraeg wrth y dderbynfa.

8.4. Dylai aelodau o staff sy'n siarad Cymraeg wisgo bathodyn sy'n cyfleu eu bod yn gallu cynnig gwasanaeth Cymraeg.

9. Cyfarfodydd

9.1. Pan fod aelod o staff yn trefnu unrhywgyfarfod ar ran y Brifysgol gydag unrhyw fyfyriwr/fyfyrwyr ney berson/pobl sy'n allanol i'r Brifysgol, lle mae diben neu gynnwys y cyfarfod hwnnw'n ymwneud ag unrhyw un neu'n fwy o'r materion isod:

  • derbyn a dethol myfyrwyr;
  • gwybodaeth a roddir i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr am gorff y Brifysgol;
  • gwasanaethau gyrfaoedd;
  • asesiadau neu arholiadau myfyriwr;
  • dyfarnu grantiau a rhoi cymorth ariannol;
  • cyfleoedd dysgu;
  • dyrannu tiwtoriaid personol;

mae'n angenrheidiol gofyn i'r person/bobl a wahoddwyd a ydynt am ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod. Os nad yw'n bosibl cynnal y cyfarfod yn Gymraeg, caiff gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ei gynnig ar gyfer cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg i alluogi'r rheini yn y cyfarfod gyfrannu'n Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

9.2. Pan fod aelod o staff yn trefnu unrhyw gyfarfod ar ran y Brifysgol gydag unrhyw fyfyriwr/fyfyrwyr neu berson/bobl sy'n allanol i'r Brifysgol, lle mae diben neu gynnwys y cyfarfod hwnnw'n ymwneud ag unrhyw un neu'n fwy o'r materion isod:

  • cwyn ynghylch neu gan fyfyriwr neu aelod o'r cyhoedd
  • gweithdrefnau disgyblu mewn perthynas â myfyriwr
  • darparu cefnogaeth i fyfyrwyr ar ffurf cwnsela neu gefnogaeth mewn perthynas â materion iechyd meddwl

mae'n angenrheidiol gofyn i'r person/bobl a wahoddwyd a ydynt am ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod. Os nad yw'n bosibl cynnal y cyfarfod yn Gymraeg, caiff gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ei gynnig ar gyfer cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg yn ogystal ag o'r Saesneg i'r Gymraeg.

10. Tiwtoriaid personol

10.1. Gofynnir i'r holl fyfyrwyr ar dechrau eu hastudiaethau a ydynt yn dymuno cael Tiwtor Personol sy’n siarad Cymraeg. Os nad oes unrhyw aelod o staff addysgu'r Ysgol yn medru'r Gymraeg, dylid gofyn i aelod priodol o staff o Ysgol arall fod yn diwtor i'r myfyriwr; gellir dyrannu tiwtor academaidd yn yr Ysgol nad yw'n medru'r Gymraeg yn ogystal â Thiwtor Academaidd.

11. Asesiadau ac arholiadau

11.1. Bydd gan Gofrestrfa'r Brifysgol broses ar waith i wneud yn siŵr bod pob[4] myfyriwr yn cael gwybod am eu hawl i gwblhau asesiadau ysgrifenedig (gan gynnwys traethodau ymchwil a thraethodau hir) yn Gymraeg.

11.2. Os bydd myfyriwr yn dymuno sefyll asesiad ysgrifenedig yn Gymraeg, bydd y Brifysgol yn ceisio gwneud yn siŵr bod yr holl waith cwrs, papurau arholiad a sgriptiau'n cael eu marcio yn Gymraeg. Os nad yw hyn yn bosibl, bydd y Brifysgol yn ceisio gwneud yn siŵr bod papurau arholiad a sgriptiau'n cael eu cyfieithu i'r Saesneg gan gyfieithydd cymwysedig sy'n gallu ymdrin â'r maes astudiaeth perthnasol yn hyderus.

11.3. Dylai Tiwtoriaid Personol drafod gyda'u myfyrwyr a ydynt am gyflwyno eu haseiniadau/gwaith yn Gymraeg. Os ydynt yn dymuno gwneud hynny ac nid ydynt yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, bydd angen i’r Ysgol gael gwybod o leiaf 6 wythnos cyn dyddiad cyflwyno’r gwaith (ysgrifenedig neu lafar).

11.4. Ni fydd penderfynu cwblhau unrhyw asesiad drwy gyfrwng y Gymraeg yn effeithio ar ganlyniad yr asesiad na'r amser a gymerir i ddyfarnu gradd mewn unrhyw ffordd.

12.5. Gall cyflwyniadau i ystyried achosion o amgylchiadau esgusodol gael eu cwblhau yn Gymraeg neu yn Saesneg

12.6. Nid yw'r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer arholiadau ac asesiadau ysgrifenedig ar gyrsiau neu fodiwlau lle asesir hyfedredd mewn iaith heblaw'r Gymraeg.

12. Darlithoedd cyhoeddus, digwyddiadau a chyfleoedd dysgu

12.1. Wrth drefnu unrhyw ddigwyddiad cyhoeddus (gan gynnwys digwyddiad lle mae'r Brifysgol yn ariannu o leiaf 50% o ddigwyddiad cyhoeddus a gynhelir gan sefydliad arall), pan mae'r digwyddiad yn ymwneud ag unrhyw un y materion isod:

  • derbyn a dethol myfyrwyr;
  • gwybodaeth a roddir i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr am gorff y Brifysgol;
  • lles myfyrwyr;
  • cwynion;
  • gweithdrefnau disgyblu mewn perthynas â myfyriwr;
  • gwasanaethau gyrfaoedd;
  • mewnrwyd y myfyrwyr, safleoedd dysgu rhithwir a safleoedd porth dysgu;
  • seremonïau graddio a gwobrwyo;
  • asesiadau neu arholiadau myfyriwr;
  • dyfarnu grantiau a rhoi cymorth ariannol;
  • darlithoedd cyhoeddus;
  • cyfleoedd dysgu;
  • dyrannu tiwtoriaid personol;
  • llety myfyrwyr, llyfrgelloedd a chanolfannau celfyddydau;
  • galwadau i linell gymorth, canolfan alwadau neu brif rifau ffôn a systemau ffôn awtomatig;
  • arwyddion ar adeiladau’r Brifysgol;

rhaid i chi wneud yn siŵr bod:

  • Y gwasanaethau a gynigir cyn, ac yn ystod, y digwyddiad i'r rhai sy'n mynd iddo ar gael yn Gymraeg (a Saesneg) o ran y broses gofrestru, derbynfa, cyhoeddiadau sain, arwyddion.
  • Y deunyddiau sy'n hyrwyddo'r digwyddiad ar gael yn ddwyieithog (neu mewn fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân)

12.2. Nid yw'r rhan hon o'r polisi yn berthnasol ar gyfer y gweithgareddau canlynol:

  • perfformiadau cerddorol
  • cynyrchiadau dramatig neu artistig
  • seminarau neu gyflwyniadau llafar sy'n ymwneud â'r perfformiad neu’r cynhyrchiad
  • unrhyw recordiad o'r perfformiad, cynhyrchiad, seminar neu gyflwyniad
  • cyhoeddiadau yn ystod argyfwng neu ymarferion argyfwng

12.4. Rhaid i unrhyw gyfle dysgu a gynigir gan y Brifysgol sy'n agored i'r cyhoedd gael ei ddarparu yn Gymraeg

12.4.1. Diffinnir cyfle dysgu fel unrhyw seminar, hyfforddiant, gweithdy, sesiwn ragflas, neu ddarpariaeth debyg sy'n cael ei darparu er mwyn addysgu neu wella sgiliau'r cyhoedd; ond nid yw'n cynnwys unrhyw seminar, hyfforddiant, gweithdy, sesiwn ragflas neu ddarpariaeth debyg a ddarperir yn rhan o gwrs; neu seminarau neu gyflwyniadau sy'n ymwneud â pherfformiad neu gynhyrchiad.

13. Cwynion

13.1. Bydd y Brifysgol ymchwilio ac yn ymateb i gwynion a gyflwynir mewn cysylltiad â chydymffurfiaeth iaith Gymraeg pan ddaw'r cwyn i law o fewn 12 mis i'r digwyddiad; caiff cwynion yn ymwneud â chyfnod hirach na 12 mis cyn y cwyn eu hymchwilio yn ôl disgresiwn y Brifysgol.

13.2. Mae gan y Brifysgol broses ar gyfer trin cwynion mewn perthynas â'r Gymraeg.

13.3 Bydd unrhyw gŵyn a dderbynnir yn cael ei chydnabod a'i hymchwilio gan yr Uwch Ymgynghorydd Cydymffurfiaeth a Swyddog y Gymraeg.

13.4 Yn dilyn yr ymchwiliad, bydd yr Uwch Ymgynghorydd Cydymffurfiaeth a Swyddog y Gymraeg yn ymateb i'r achwynydd yn rhoi gwybod am y canlyniad ac unrhyw gamau unioni sydd wedi'u rhoi ar waith pan fydd cwyn wedi'i chadarnhau.

13.5 Caiff yr Uwch Ymgynghorydd Cydymffurfiaeth a Swyddog y Gymraeg ddirprwyo'r cyfrifoldebau hyn i aelodau eraill o staff. Bydd hyfforddiant, cefnogaeth ac arweiniad yn cael eu cynnig gan yr Uwch Swyddog ar sut i ddelio â chwynion.

14. Cyfrifoldeb a monitro

14.1. Bwrdd Gweithredol y Brifysgol sy'n gyfrifol yn y pen draw am wneud yn siŵr bod y Brifysgol yn cydymffurfio'n gyffredinol â Rheoliadau (Rhif 6) y Gymraeg 2017, yn ogystal â'r holl faterion eraill sy'n ymwneud â gweithredu a monitro polisïau.

14.2. Mae gan y Tîm Cydymffurfiaeth a Risg gyfrifoldeb penodol am yr arweiniad a'r cyngor ar faterion Cymraeg mewn cysylltiad â gweithredu'r hyn sy'n ofynnol o dan Reoliadau (Rhif 6) y Gymraeg 2017.

14.3. Mae'r holl staff sy'n ymgymryd â gwaith yn y meysydd polisi o dan sylw yn gyfrifol am y canllawiau a amlinellir yn y polisi hwn.

14.4. Ni fydd modd cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg sydd o dan sylw yn y polisi hwn oni bai bod unigolion ac adrannau yn ymgymryd â'u cyfrifoldebau o ddydd i ddydd

14.5. Bydd safon y gwasanaethau a gynigir yn Gymraeg yn cael ei monitro yn yr Adroddiad Blynyddol i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI), gan dynnu sylw at nifer a natur unrhyw gwynion.

14.6. Bydd y Brifysgol yn cymryd camau i fonitro effaith wahaniaethol ei pholisïau, gweithdrefnau, arferion a gwasanaethau ar fyfyrwyr Cymraeg a Saesneg eu hiaith drwy becyn cymorth ei Hasesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb.

Atodiad 1: Troednodiadau

[1] Mae 'cyhoeddiadau a hysbysebu' yn cynnwys unrhyw ddeunyddiau sy'n ymwneud â hyrwyddo, rhoi cyhoeddusrwydd, hysbysebu neu farchnata gwasanaethau’r Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill: fersiynau copi caled ar gyfer arddangos neu ddosbarthu, neu fersiynau electronig o’r deunydd hwn a rennir ar wefannau (gweler Adran 5).

[2] Mae 'Corff y Brifysgol' yn cyfeirio at y Brifysgol yn gyffredinol neu dimau neu adrannau neu Golegau neu Ysgolion sy'n cynrychioli’r Brifysgol.

[3] Bydd hyn yn cynnwys y dogfennau sy'n ymwneud â'r gweithgareddau sydd eu hangen i gyflwyno gwasanaethau h.y. deunyddiau cyhoeddusrwydd a hysbysebu.

[4] Gellir rhoi dyfyniadau a thermau technegol yn yr iaith y cawsant eu hysgrifennu yn y lle cyntaf, boed hynny yn Gymraeg neuyn Saesneg, ni waeth pa iaith a ddefnyddir yn ystod yr asesiad.

Tabl rheoli'r ddogfen

Teitl y ddogfen:Polisi Iaith Gymraeg mewn perthynas â darparu gwasanaethau i fyfyrwyr a'r cyhoedd i fyfyrwyr a'r cyhoedd
Rhif y fersiwn:2.0