Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Canllawiau i Ymgeiswyr Medi 2023 - Cronfa Sbarduno Gydweithredol, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Waikato

  • Diweddarwyd ddiwethaf:

1. Diben

1.1. Ym mis Tachwedd 2021, llofnododd Prifysgol Waikato (PW) a Phrifysgol Caerdydd (PC) gytundeb i ddatblygu partneriaeth i hyrwyddo cydweithio a chydweithredu arloesol wrth weithio i gyflawni gwaith academaidd a phroffesiynol rhagorol.

1.2. Sefydlwyd y gronfa sbarduno gydweithredol hon i gefnogi datblygiad y Bartneriaeth Strategol rhwng PC a PW.

1.3. Bydd y gronfa sbarduno hon yn cefnogi staff yn PC a PW i ddatblygu prosiectau cydweithredol sy’n gysylltiedig ag addysgu a/neu wasanaethau proffesiynol yn ogystal â phrosiectau ymchwil sydd â chanlyniadau clir a llwybr o ran datblygu a chynnal y fenter gydweithredol.

1.4. Nod y gronfa sbarduno yw cefnogi a chynyddu cydweithio rhwng y ddau sefydliad ar draws addysgu (pob maes pwnc), gwasanaethau proffesiynol ac ymchwil (pob maes).

1.5. Er mwyn cefnogi’r broses datblygu gallu, rydym yn arbennig o awyddus i groesawu cynigion sy'n cynnwys neu’n cael eu harwain gan staff ar ddechrau eu gyrfa.

1.6. Nod y gronfa yw cefnogi'r canlyniadau a nodir yn y Cytundeb Partneriaeth Strategol. Rhoddir blaenoriaeth i gynigion o ansawdd uchel sy'n cefnogi un neu ragor o'r nodau strategol canlynol:

  • Mentrau addysgu cydweithredol sy'n cefnogi profiad y myfyriwr;
  • Cyfnewid gwybodaeth academaidd a phroffesiynol, gan gynnwys rhannu arferion da;
  • Cydweithio ar ymchwil, gan gynnwys lledaenu canlyniadau ymchwil;
  • Sicrhau cyllid ar gyfer ymchwil ar y cyd;
  • Canolfannau addysgu ar y cyd/rhagoriaeth broffesiynol/ymchwil;
  • Rhaglenni cyfnewid, gan gynnwys ymchwilwyr, staff academaidd a staff proffesiynol;
  • Gweithgareddau ar y cyd, gan gynnwys cyfarfodydd, seminarau, symposia, darlithoedd, gweithdai a chynadleddau;
  • Partneriaethau â byd diwydiant yn Seland Newydd a'r Deyrnas Unedig.

1.7. Yn ystod y pandemig, rhyngweithio rhithwir fu'r dull o gydweithio. O ganlyniad i lwyddiant y rhyngweithio hwn, bydd ceisiadau ar gyfer gweithgaredd rhithwir (heb deithio) yn parhau i gael eu croesawu.

2. Cymhwysedd

2.1. Mae angen prif ymchwilydd o PC a PW. Rhaid i brif ymchwilwyr fod yn aelodau parhaol o staff neu’n aelodau o staff ar gontract cyfnod penodol na fydd yn dod i ben yn ystod y cyfnod cyllido. Gellir defnyddio’r cyllid i dalu am gostau teithio myfyrwyr PhD.

2.2. Caiff unigolion gymryd rhan mewn hyd at ddau gynnig y flwyddyn, naill ai’n brif ymchwilydd ar un cynnig ac ymchwilydd cyswllt ar un arall, neu’n ymchwilydd cyswllt ar ddau gynnig.

2.3. Ni fydd prif ymchwilwyr ar brosiectau a ariannwyd yn y rownd flaenorol yn cael gwneud cais fel prif ymchwilydd yn y rownd nesaf. Gall rhywun sy’n brif ymchwilydd wneud cais fel ymchwilydd cyswllt ar yr amod nad yw eisoes yn ymchwilydd cyswllt ar brosiect sy’n mynd rhagddo.

2.4. Gellir cynnwys ymchwilydd o brifysgol heblaw PC neu PW yn nhîm y prosiect ond ni allwch wneud cais am arian i'w cefnogi neu eu gweithgareddau/teithio.

3. Gwerth

3.1. Cyfanswm gwerth pob prosiect yw 10,000 GBP neu 20,000 NZD (neu gyfuniad o'r ddau fel nad yw'r gwerth cyffredinol yn fwy na gwerth sy’n cyfateb i 10,000 GBP neu 20,000 NZD). Ni fydd cyllid yn cael ei drosglwyddo rhwng sefydliadau, felly bydd gweithgareddau a gynhelir yn PC neu PW yn cael eu hariannu gan y sefydliad lletyol perthnasol.

3.2. Cyfanswm y cyllid sydd ar gael gan y gronfa sbarduno ym mhob rownd (gydag uchafswm o ddwy rownd y flwyddyn) yw 30,000 GBP gan PC a 60,000 NZD gan PW.

3.3. Nid oes angen i’r cyllid gan y naill sefydliad partner a’r llall fod yr un peth (hyd at werth 20,000 NZD / 10,000 GBP) ond dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd y swm llawn o un partner yn cael eu hystyried.

3.4. Y bwriad yw y bydd pob galwad yn ariannu prosiectau ym mhob un o'r tair ffrwd (ymchwil, addysgu a gwasanaethau proffesiynol). Bydd y swm a ddyrennir i bob ffrwd yn amrywio, yn dibynnu ar y cyflwyniadau a geir a blaenoriaethau'r ddwy brifysgol.

3.5. Ym Mhrifysgol Caredydd, bydd cyllid yn cael ei drosglwyddo i ymgeiswyr llwyddiannus cyn diwedd  y flwyddyn ariannol.

3.6. Ni ellir cario arian drosodd y tu allan i'r cylch ariannu 12 mis (gweler y dyddiadau allweddol)

4. Ceisiadau

4.1.  Bydd dwy alwad bob blwyddyn am geisiadau i’r gronfa sbarduno.

Galwad Medi 2023

  
Ceisiadau yn agor11 Medi 2023
Cyfnod gwneud cais yn dod i ben16 Hydref 2023
Adolygiad gan gymheiriaid a phenderfyniadau cyllidoHydref - Tachwedd 2023
Hysbysu’r ymgeiswyr4 Rhagfyr 2023
Cyfnod y prosiectRhagfyr 2023 - Mehefin 2024
Cyflwyno adroddiadau12 Awst 2024

Galwad Gwanwyn 2024

  
Ceisiadau yn agor 19 Chwefror 2024
Cyfnod gwneud cais yn dod i ben8 Ebrill 2024
Adolygiad gan gymheiriaid a phenderfyniadau cyllidoEbrill - Mai 2024
Hysbysu’r ymgeiswyr27 Mai 2024
Cyfnod y prosiectMehefin - Rhagfyr 2024
Cyflwyno adroddiadau24 Chwefror 2025

4.2. Mae angen cymeradwyaeth y Pennaeth Ysgol/Is-adran/Adran cyn y gellir cyflwyno'r cynnig.

4.3. Gellir gwneud ceisiadau drwy lenwi ffurflen gais PW/PC. Mae'r ffurflen hon yn cynnwys manylion unrhyw wybodaeth bellach sydd ei hangen (gan gynnwys CV a ffurflen gyllideb)

4.4. Ar ôl llenwi’r ffurflen dylid ei hanfon drwy ebost at global@waikato.ac.nz, cath.battersby@waikato.ac.nz a morgana11@caerdydd.ac.uk.

5. Cyllideb y gronfa sbarduno

5.1 Dylai ymgeiswyr gynnwys manylion costau yn eu cais. Dylai'r wybodaeth am gostau gynnwys dadansoddiad o'r costau a ragwelir. Bydd y panel dethol yn ystyried y costau hyn wrth ddyfarnu cyllid.

5.5. Dylai timau prosiect weithio gyda'u Cynghorydd Rheoli Ymchwil/Rheolwr Llinell (PW) neu swyddfa ymchwil/gyllid yr Ysgol (PC) i baratoi cyllideb realistig a chwblhau'r daenlen gyllideb ar wahân.

5.3. Costau cymwys:

CymwysAnghymwys
    • Deunyddiau ymchwil / nwyddau traul
    • Costau dadansoddi
    • Gwaith maes/casglu data
    • Costau teithio rhesymol (gan gynnwys fisâu), llety a chynhaliaeth[1] a chynhaliaeth (i gael arweiniad cyfeiriwch at bolisïau eich sefydliad[2])
    • Mynediad at feddalwedd (ar gyfer prosiectau/budd cydweithredol)
    • Ymchwil tymor byr neu gymorth arbenigol yr ystyrir yn hanfodol i'r prosiect
    • Costau sy'n gysylltiedig â threfnu digwyddiadau/cynadleddau/gweithdai hybrid
    • Costau sy'n gysylltiedig â chymorth diwylliannol priodol (er enghraifft, koha, kaumatua ac ati)
    • Costau cyfieithu.
    • Costau Teithio i gyfarfod mewn cyfleuster ymchwil neu gampws partner byd-eang arall
    • Costau cyflogau[3]
    • Gorbenion
    • Gwariant cyfalaf
    • Ffioedd mynediad agored
    • Ffioedd teithio i gynadleddau neu gynadleddau

[1] Mae costau llety i'w cynnwys yng nghyllideb y sefydliad cartref. Er enghraifft, mae angen i aelod o staff Waikato sy'n teithio i Gaerdydd gynnwys costau llety yng nghyllideb Waikato.

[2] Bydd y gronfa sbarduno’n talu am hediadau dosbarth economi, ond gall y gost uwchraddio gael ei thalu o ffynonellau eraill.

[3] Nid yw’r gronfa wedi’i bwriadu i dalu costau nac amser staff, nac i ariannu estyniadau contract cyfnod penodol tra nad yw costau cyflogau staff yn gymwys i’w hariannu – bydd costau ar gyfer ymchwil tymor byr iawn neu gymorth arbenigol, sy’n hanfodol i lwyddiant y bydd y prosiect yn cael ei ystyried h.y costau cyflogi myfyrwyr a / neu gynorthwy-wyr ymchwil i gefnogi'r Prif Ymchwilydd (PI) / prosiect.

6. Y broses ddethol

6.1.  Caiff cynigion eu hasesu yn fewnol (gan Deon Rhyngwladol a Is-Ddeon Ymchwil.

6.2. Bydd penderfyniadau cyllido yn cael eu gwneud gan gyd-bwyllgor sy'n cynnwys aelodau o PC a PW (yn cynrychioli arbenigedd mewn ymchwil, addysgu a gwasanaethau proffesiynol)

6.3. Bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud ar sail ansawdd a'r gyllideb. Bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud gan roi ystyriaeth i'r angen am gefnogaeth gytbwys i addysgu, gwasanaethau proffesiynol a phrosiectau ymchwil.

6.4. Bydd cyllid yn cael ei ddyrannu gan y naill brifysgol neu'r llall neu’r ddwy brifysgol. Mae angen ysgrifennu pob cais mewn iaith sy'n addas i banel amlddisgyblaethol ei darllen a'i hasesu.

7. Meini prawf asesu

7.1. Gwneir penderfyniadau cyllido yn seiliedig ar sawl maen prawf.

7.2. Bydd y panel asesu yn dyrannu cyllid ar draws y tair ffrwd (addysgu, ymchwil, proffesiynol).

Y meini prawf Sgôr allan o 100
Rhagoriaeth 20
Newydd-deb/arloesedd 20
Effaith y prosiect 25
Effaith partneriaeth 25
Gwella/datblygu enw da 10

8. Dyfarnu

8.1 Ar ôl cael cadarnhad gan y Swyddfa Ryngwladol bod cais am gyllid sbarduno wedi bod yn llwyddiannus, gall ymgeiswyr ddechrau eu prosiectau.

8.2. Sylwer, os bydd ymgeisydd llwyddiannus yn canslo eu prosiect, rhaid iddynt roi gwybod i'r Swyddfa Ryngwladol ar unwaith fel y gellir diweddaru’r cofnodion cyllido.

8.3. Yn Waikato - bydd yr arian yn cael ei drosglwyddo i gyfrif Ymddiriedolaeth Ymchwil y prif ymchwilydd neu’n cael ei sefydlu ar ffurf cyfrif prosiect yn system gyfrifeg y prosiect.

8.4. Yng Nghaerdydd - Bydd yr arian yn cael ei ddyrannu gan y Swyddfa Ryngwladol i'r ysgol/prif ymchwilydd perthnasol. Cyfrifoldeb yr Ysgol / Coleg yw sicrhau bod modd trosglwyddo’r arian yn briodol, ac ar gyfer galwad y Gwanwyn, rhaid cwblhau’r trosglwyddiad cyn diwedd blwyddyn ariannol Caerdydd.

8.5 Cyfrifoldeb yr ymgeiswyr yw gwneud trefniadau llety/teithio, fisâu, gofynion profi/brechu COVID-19 a’u cyfrifoldeb hwy hefyd yw sicrhau eu bod yn gwirio newidiadau i gyngor teithio’r llywodraeth. Ni ellir gwarantu llety prifysgol.

9. Amodau adrodd

9.1. Bydd y canlyniadau a ddisgrifir yn y ffurflen gais yn sail ar gyfer mesur llwyddiant y prosiect.

9.2. Disgwylir i’r rhai sy’n cael arian o’r gronfa sbarduno gyflwyno adroddiad terfynol ar y prosiect o fewn 2 fis ar ôl cwblhau'r prosiect a bydd y Swyddfa Ryngwladol mewn cysylltiad o fewn 12 mis er mwyn cael gwybod am allbynnau, manylion cyllido’r cam nesaf ac ati.

9.3. Bydd unrhyw arian sydd heb ei wario yn cael ei ad-dalu ar ddiwedd y cyfnod cyllido.

9.4. Ar ôl eu cwblhau, dylid dychwelyd adroddiadau i Cath Battersby (PW) neu Anne Morgan (PC). Sylwer na fydd unigolion yn cael cymryd rhan mewn ceisiadau am rowndiau cyllido yn y dyfodol os oes ganddynt adroddiad heb ei gwblhau ar gyfer prosiect a ariannwyd yn flaenorol.