Gweithdrefn Dyrchafiadau Academaidd
- Diweddarwyd ddiwethaf:
- Lawrlwytho'r ddogfen hon (PDF, 276.5 KB)
Prifysgol Caerdydd Tŷ McKenzie, 30-36 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0DE
- Dyrchafiadau Academaidd
- Tel: +44 (0)29 2087 6555
- Email: academicpromotions@caerdydd.ac.uk
1. Cyflwyniad
1.1. Mae Dyrchafiad Academaidd yn caniatáu cam ymlaen i swydd Uwch Ddarlithydd, Darllenydd a Chadair Bersonol (Athro) ar gyfer staff sydd ar y llwybrau gyrfa Addysgu ac Ymchwil ac Addysgu ac Ysgolheictod, ac i Uwchgymrawd Ymchwil, Prif Gymrawd Ymchwil a Chymrawd Ymchwil Athrawol ar gyfer staff sydd ar y llwybr gyrfa Ymchwil.
1.2. Mae dyrchafiad i swydd Uwch-ddarlithydd/ Uwch-gymrawd Ymchwil ar gael i’r rheini sy’n gallu dangos enw da cenedlaethol mewn perthynas âu cyfraniad at y meincnodau. Mae dyrchafiad i swydd Darllenydd/ Prif Gymrawd Ymchwil ar gael i’r rheini sy’n gallu dangos enw da rhyngwladol sy'n dod i'r amlwg, ac i swydd Cadair Bersonol/ Cymrawd Ymchwil Athrawol ar gyfer y rheini sy’n gallu dangos enw da rhyngwladol sefydledig. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth sylweddol o lefel briodol o berfformiad sy’n debygol o gael ei chynnal.
1.3. Dylai ymgeiswyr roi tystiolaeth o'r enw da cenedlaethol/ rhyngwladol sy'n briodol i'r maes rhagoriaeth a honnir. Er enghraifft, er y ceir cydnabyddiaeth mai Addysgu sy’n cael y prif sylw yn y sefydliad, gall Uwch Gymrodoriaeth (SFHEA) neu Brif Gymrodoriaeth o’r Academi Addysg Uwch neu ddyfarniad Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol fod yn fodd o ddangos enw da cenedlaethol/rhyngwladol.
O ran Arloesedd, Cenhadaeth Ddinesig a Rhyngwladol, gall hyn gynnwys gweithgareddau y mae’r ymgeisydd wedi gwneud cyfraniad pwysig tuag atynt sy’n ehangu enw da’r brifysgol / rhanbarth ehangach neu at bolisi cyhoeddus yn lleol / cenedlaethol sy’n cael ei fabwysiadu’n rhyngwladol wedi hynny.
1.4. Mae ymgeiswyr yn gymwys i gael dyrchafiad o fewn eu llwybr gyrfa presennol yn unig. Mae’r teitlau a ddyfernir drwy Ddyrchafiad Academaidd yn gydnabyddiaeth o statws academaidd y deiliad. Rhaid i staff gwasanaethau proffesiynol sy’n gwneud cais i newid llwybr gyrfa ddangos eu statws academaidd drwy broses y Dyrchafiadau Academaidd er mwyn i’r teitlau hyn gael eu dyfarnu.
Fel arfer, dyfernir dyrchafiad i gam nesaf yr yrfa yn unig (e.e. o Uwch-ddarlithydd i Ddarllenydd). Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dyfernir dyrchafiad i lefel sy'n uwch na cham nesaf yr yrfa (e.e. o Uwch-ddarlithydd i Athro), lle gall ymgeiswyr ddangos tystiolaeth diamheuol a sylweddol o'r lefel briodol o berfformiad, sy'n debygol o gael ei chynnal.
2. Sail y cais
2.1. Rhaid i'r ymgeiswyr seilio eu cais ar ragoriaeth mewn un o'r tri maes canlynol yn ôl eu llwybr gyrfa.
Addysgu ac Ymchwil | Addysgu ac Ysgolheictod | Ymchwil |
---|---|---|
Addysgu | Addysgu | Ymchwil |
Ymchwil | Ymchwil | |
Arloesedd, Cenhadaeth Ddinesig a Rhyngwladol | Arloesedd, Cenhadaeth Ddinesig a Rhyngwladol |
2.2. I ymgeiswyr ar y llwybrau gyrfa Addysgu ac Ymchwil ac Addysgu ac Ysgolheictod, pa un bynnag a ddewisir fel y brif sail ar gyfer y cais, lle y bo'n briodol, rhaid i ymgeiswyr hefyd ddangos eu gallu a’u heffeithiolrwydd yn y ddau arall. Bydd ymgeiswyr fel arfer yn cyfrannu at hyd a lled y llwybr gyrfa yn ogystal â rhagoriaeth yn eu maes dewisedig. Nid oes angen i’r cyfraniad at y ddau faes arall fod yn gyfartal ac, mewn amgylchiadau eithriadol, gallai’r cyfraniad fod yn berthnasol i un maes yn unig.
2.3. Mae'n rhaid i ymgeiswyr ar y llwybr gyrfa Ymchwil ddangos rhagoriaeth ym maes Ymchwil a gallu ac effeithiolrwydd ym maes Addysgu ac mewn Arloesedd, Cenhadaeth Ddinesig a Rhyngwladol. Caiff cyfran y mewnbynnau/ allbynnau ym mhob maes eu hasesu gan gyfeirio at rôl a disgwyliadau'r ymgeisydd ar gyfer y llwybr gyrfa. Nid oes angen i’r cyfraniad at y ddau faes arall fod yn gyfartal ac, mewn amgylchiadau eithriadol, gallai’r cyfraniad fod yn berthnasol i un maes yn unig.
2.4. Mewn amgylchiadau eithriadol, gallai’r Pwyllgor Dyrchafiadau Academaidd ystyried yr holl weithgarwch ar gyfer achos sydd ychydig islaw'r trothwy rhagoriaeth, lle mae gan ymgeisydd broffil cryf iawn ar draws y tri maes a gynhaliwyd dros gyfnod sylweddol o amser. Rhaid i ymgeiswyr honni rhagoriaeth mewn un maes o hyd, ond dylent fanylu ar hyd a lled eu proffil yn eu cais. Gofynnir i Baneli Dyrchafiadau Ysgolion wneud sylwadau ar ehangder y dystiolaeth mewn perthynas ag achosion o'r fath.
3. Colegoldeb a Dinasyddiaeth y Brifysgol
3.1. Yn ogystal â mynd i’r afael â’r meincnodau, rhaid i bob ymgeisydd ddarparu tystiolaeth o gyfraniad effeithiol at golegoldeb a dinasyddiaeth y Brifysgol. Gall colegoldeb a dinasyddiaeth y Brifysgol fod ar sawl ffurf ac mae’n cynnwys:
- Ymgymryd â rolau a chyfrifoldebau yn yr Ysgol, y Coleg a/neu’r Brifysgol.
- Gwasanaethu ar bwyllgorau, rhwydweithiau polisi, gweithgorau, paneli, ac ati, yr Ysgol, y Coleg a/neu’r Brifysgol.
- Cyfrannu at gymuned gynhwysol drwy hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.
- Cefnogi datblygiad gyrfa cydweithwyr, gan gynnwys mentora, cefnogi, adolygiad cymheiriaid a phartneriaethau perthnasol, yn enwedig mewn cysylltiad â staff ar ddechrau eu gyrfa.
- Gweithgareddau ymgysylltu gwirfoddol neu ddinesig a gefnogir gan y Brifysgol (e.e. mentrau cymunedol Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd).
- Camau i liniaru effaith y coronafeirws (COVID-19) (e.e. aelodaeth o grwpiau cynllunio wrth gefn, cyfraniad at Wasanaeth Sgrinio Coronafeirws y Brifysgol).
3.2. Ni fydd cyfraniad eithriadol yn y maes hwn yn cael ei ystyried yn brif sail ar gyfer dyrchafiad, ond gellid rhoi pwys iddo o ran ychwanegu at gais sy’n ffiniol fel arall.
4. Defnyddio’r meincnodau ar gyfer dyrchafiad
4.1. Amlinellir y meincnodau ar gyfer dyrchafiad yn adrannau 10 i 13. Nid oes angen i dystiolaeth yn erbyn y meincnodau fod yn gyfartal. Cefnogir y meincnodau gan ddangosyddion asesu. Nid yw'r dangosyddion yn gynhwysfawr nac yn rhagnodol. Maent yn enghreifftiau o feysydd a ystyrir wrth asesu ceisiadau. Bydd rhai dangosyddion yn fwy perthnasol i rai disgyblaethau nag eraill. Bydd y Pwyllgor Dyrchafiadau Academaidd yn ystyried y ffactorau hyn wrth asesu ceisiadau. Bydd lefel y cyflawniad mewn perthynas â’r dangosyddion yn amrywio yn ôl p'un a yw'r ymgeisydd yn dangos rhagoriaeth neu allu ac effeithiolrwydd yn y maes penodol. Ni ddisgwylir i ymgeiswyr fodloni’r holl ddangosyddion ym mhob maes.
4.2. Mae disgwyliadau perfformiad Academaidd a Choleg Caerdydd yn rhoi mwy o fanylion am ddisgwyliadau rôl ac yn cefnogi cynllunio ar gyfer datblygu gyrfa hefyd.
5. Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA)
5.1. Mae Prifysgol Caerdydd yn llofnodwr Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA), sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau hysbysebu a hyrwyddo, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil yn cael ei chyhoeddi ynddo. Cewch ragor o wybodaeth ar dudalennau gwe'r Brifysgol ar asesu ymchwil cyfrifol.
6. Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
6.1. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ei holl arferion a gweithgareddau, a’i nod yw sefydlu diwylliant cynhwysol heb gamwahaniaethu, wedi’i seilio ar werthoedd urddas, cwrteisi a pharch. Mae Prifysgol Caerdydd yn ymrwymo i gael gwared ar wahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb ar sail oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred (gan gynnwys diffyg cred), rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Rydym hefyd am feithrin perthynas dda rhwng gwahanol grwpiau. Mae’r Brifysgol yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn cydnabod bod y sefydliad yn cael ei wella’n sylweddol gan yr ystod amrywiol o gefndiroedd, profiadau, safbwyntiau, credoau a diwylliannau a gynrychiolir o fewn ei boblogaethau staff a myfyrwyr. Nod y sefydliad yw sicrhau bod amrywiaeth yn gwbl ganolog i’w weithgareddau, ac mae’n cydnabod â balchder bod amrywiaeth a gwahaniaeth yn hanfodol er lles a datblygiad dyfodol y Brifysgol. Gallwch anfon cais yn Gymraeg neu yn Saesneg.
6.2. Mae'r Weithdrefn Dyrchafiadau Academaidd yr un mor berthnasol i bob aelod o staff cymwys. Mae hyn yn cynnwys staff ar gontractau penagored a chyfnod penodol. Bydd trefniadau cytundebol yr ymgeisydd (e.e. amser llawn, rhan-amser, rhannu swyddi, cyfrifoldebau clinigol ) ac unrhyw amgylchiadau personol, teuluol neu anacademaidd y gallent fod wedi effeithio ar yrfa broffesiynol yr ymgeisydd yn cael eu hystyried wrth asesu maint ei weithgarwch. Er na chaniateir gostyngiad mewn ansawdd, rhoddir ystyriaeth i faint y gwaith.
O ran staff clinigol, mae lefel y cyfraniad academaidd yr un fath ag ar gyfer staff nad ydynt yn glinigol, ond gostyngir maint y gwaith a ddisgwylir er mwyn ystyried cyfrifoldebau clinigol. Dylid cynnwys manylion yr ymrwymiadau sesiynol dynodedig i’r Brifysgol a'r Ymddiriedolaeth berthnasol yn y cais.
6.3. Anogir ymgeiswyr i ddatgelu unrhyw ffactorau sydd wedi effeithio ar eu proffil gyrfa a maint y gwaith a gynhyrchwyd ganddynt yn eu cais. Gallai’r ffactorau hyn gynnwys y canlynol, ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt:
- trefniadau gweithio hyblyg (e.e. seibiant gyrfa, gweithio'n rhan-amser, gweithio yn ystod y semester / tymor, rhannu swydd)
- beichiogrwydd, mamolaeth, tadolaeth, absenoldeb rhiant a rennir, mabwysiadu a benthyg croth, gwarcheidiaeth arbennig* cyfrifoldebau gofalu
- anabledd, salwch neu anaf
- amgylchiadau iechyd meddwl
- effaith pontio ar gyfer y gymuned draws ac anneuaidd
- Amgylchiadau personol, teuluol neu anacademaidd sydd wedi cyfyngu neu oedi ar yrfa broffesiynol yr ymgeisydd
- effeithiau sy'n gysylltiedig â phandemig y Coronafeirws (COVID-19) (e.e. profedigaeth, absenoldeb salwch, iechyd meddwl a lles, cyfrifoldebau gofalu, addysg a gofal plant, hunanynysu, cysgodi'r rhai sy'n hynod fregus yn glinigol, ffyrlo, trefniadau gweithio hyblyg, heriau ariannol, cyfyngiadau teithio).
6.4. Gwneir yr asesiad o geisiadau yng nghyd-destun pandemig COVID-19 ac effaith ein hymateb i'r argyfwng ar ofynion ein cymuned academaidd. Dylai ymgeiswyr egluro effaith COVID-19 yn eu hachos penodol nhw yn adran amgylchiadau unigol y ffurflen gais ac ym mhob rhan o'r datganiadau personol, lle bo hynny'n berthnasol.
6.5. Dylai ymgeiswyr sy'n well ganddynt gadw manylion penodol am ffactorau o'r fath yn gyfrinachol ganolbwyntio ar eu heffaith. Ni ystyrir datgeliadau ôl-weithredol, oni bai y daw amgylchiadau i'r amlwg nad oedd yn hysbys i’r ymgeisydd ar adeg cyflwyno’r cais. Dim ond er mwyn llywio’r broses Dyrchafiadau Academaidd y caiff y wybodaeth ei defnyddio. Ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddiben arall gan gynnwys fel datgeliad i lywio neu ddiweddaru cofnodion staff.
6.6. Mewn Addysg Uwch, nid yw staff benywaidd a staff Du, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig yn cael eu cynrychioli’n ddigonol mewn uwch-swyddi academaidd. Felly, croesewir yn arbennig geisiadau gan ymgeiswyr sy'n nodi eu bod yn fenyw a/ neu’r Ddu, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig. Lle bo’n bosibl, bydd aelodau’r Pwyllgor Dyrchafiadau Academaidd a Phaneli Dyrchafiadau Ysgolion yn cynrychioli’r gymuned academaidd ehangach o ran llwybrau gyrfa a nodweddion gwarchodedig. Bydd data cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael ei adrodd yn ddienw i’r Pwyllgor Dyrchafiadau Academaidd yn flynyddol o leiaf, ac i gyrff eraill fel y bo'n briodol.
7. Sut i gyflwyno cais
7.1. Rhaid cyflwyno ceisiadau drwy ebost at academicpromotions@caerdydd.ac.uk erbyn 12:00 (h.y. hanner dydd) Dydd Llun, 9 Ionawr 2023, yn unol â’r canllawiau ar sut i lenwi'r ffurflen gais. Caiff ceisiadau eu derbyn ar ôl y dyddiad cau mewn amgylchiadau eithriadol yn unig a gyda chytundeb ymlaen llaw gan Is-Gadeirydd Pwyllgor y Dyrchafiadau Academaidd.
Ni all cyflawniadau a wnaed ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais gael eu hystyried yn ddiweddarach. Mae’r ffurflen gais a'r canllawiau cysylltiedig ar gael ar fewnrwyd y staff.
7.2. Dylai’r manylion a gyflwynir yn eich cais fod yn seiliedig ar eich cyfraniad ers cyflwyno ar gyfer eich dyrchafiad llwyddiannus diwethaf (h.y. dyddiad cau’r cais) neu, os nad ydych wedi cael dyrchafiad yn flaenorol, ers i chi gael eich penodi ar gyfer eich rôl bresennol. Ni all tystiolaeth a gyflwynwyd yn rhan o gais llwyddiannus blaenorol gael ei hystyried wedi hynny. Dylai ymgeiswyr sy’n gwneud cais yn dilyn cais aflwyddiannus blaenorol hefyd amlygu’r prif ddatblygiadau ers y cais blaenorol.
7.3. Anogir ymgeiswyr i drafod eu cais gyda'u Pennaeth Ysgol / rheolwr llinell academaidd cyn ei gyflwyno. Efallai y gofynnir i ymgeiswyr newid eu cais ar ôl y dyddiad cau os bydd hyn yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â'r weithdrefn yn dechnegol. Anogir cefnogaeth ehangach ar gyfer datblygu gyrfa cyn ei gyflwyno, gan gynnwys trwy gyfleoedd fel Adolygiad Datblygu Perfformiad (ADP).
7.4. Mae Atodiad 1 yn dangos prif gamau'r broses Dyrchafiadau Academaidd. Cysylltir â phob ymgeisydd ar ôl diwedd cam cyntaf y Pwyllgor Dyrchafiadau Academaidd i’w cynghori ar hynt eu ceisiadau. Bydd y rhai sy’n aflwyddiannus ar y cam hwn yn cael gwybod. Bydd yr holl ymgeiswyr eraill yn cael gwybod am ganlyniad terfynol eu cais ar ôl diwedd ail gam y Pwyllgor Dyrchafiadau Academaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dyrchafu ar 1 Awst 2023.
7.5. Aseswyr / canolwyr
7.5.1. Mae asesu allanol yn rhan annatod o'r broses Dyrchafiadau Academaidd er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal y safonau academaidd uchaf o gymharu â’n cymheiriaid. Cynhelir asesu allanol gan aseswyr a chanolwyr.
7.5.2 . Dylai’r aseswyr a chanolwyr fod yn athrawon, neu o statws athrawol, sy’n gyfarwydd â’r safonau cyffredinol ar gyfer dyrchafu ym mhrifysgolion y Deyrnas Unedig. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir dewis aseswyr a chanolwyr o fath arall o sefydliad. Ni chaiff aseswyr a chanolwyr fod yn gyflogedig gan Brifysgol Caerdydd ar hyn o bryd.
7.5.3. Aseswyr
i. Caiff aseswyr eu henwebu gan y Brifysgol. Ni ddylai aseswyr fod â chysylltiad uniongyrchol â'r ymgeisydd na'u gwaith (e.e. cyd-awdur, cyd-olygydd, cyd-ddeiliad grant, cyn-oruchwyliwr, arholwr allanol, cyfaill personol).
7.5.4. Canolwyr
i. Enwebir canolwyr gan yr ymgeisydd. Gall canolwyr gynnwys, ymhlith rhai eraill, cyd-ddeiliaid grant, cyd-awduron, goruchwylwyr a chydweithredwyr academaidd.
ii. Rhaid i bob ymgeisydd enwebu un canolwr y gellir cysylltu ag ef pe byddai’r cais yn symud y tu hwnt i gam cyntaf y Pwyllgor Dyrchafiadau Academaidd.
7.6. Adborth
7.6.1. Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod os yw eu Panel Dyrchafiadau Ysgol yn credu bod eu cais yn rhy gynnar. Rhoddir adborth gan Bennaeth yr Ysgol ynghyd ag un aelod arall o’r Panel Dyrchafiadau Ysgol. Gall ymgeiswyr fynnu bod eu hachos yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Dyrchafiadau Academaidd ni waeth a yw'r Panel Dyrchafiadau Ysgol yn cefnogi eu hachos.
7.6.2. Cynigir y cyfle i ymgeiswyr aflwyddiannus gael cyfarfod â Phennaeth eu Coleg a Phennaeth eu Hysgol, i gael adborth am y penderfyniad a arweiniad ynghylch datblygu yn y dyfodol. Bydd adborth yn cael ei ddarparu ar lafar, nid yn ysgrifenedig. Cynghorir pob ymgeisydd aflwyddiannus yn gryf i dderbyn y cynnig o adborth.
7.7. Appeals
7.7.1. Gellir cyflwyno apêl yn erbyn penderfyniad i beidio â rhoi dyrchafiad ar sail diffyg wrth gymhwyso’r weithdrefn bresennol yn unig os yw’r diffyg hwn wedi cael effaith wirioneddol ar y canlyniad. Caiff ymgeiswyr apelio os oes ganddynt bryderon am y broses sy'n parhau ar ôl y cyfarfod adborth.
7.7.2. Rhaid i ymgeiswyr sy’n dymuno apelio roi gwybod i’r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol yn ysgrifenedig, gan fanylu ar sail yr apêl, o fewn pymtheg niwrnod gwaith o’r cyfarfod adborth.
7.7.3. Bydd Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol yn cadarnhau p’un a yw sail yr apêl yn gallu effeithio ar sut rhoddir y weithdrefn ar waith. Os caiff hyn ei benderfynu, bydd panel apêl yn cael ei gynnal.
7.7.4. Bydd aelodau’r panel apêl yn cynnwys dau Athro academaidd sydd heb fod yn gysylltiedig ag asesu’r cais yn flaenorol.
7.7.5. Gall y panel apêl ddod i un o’r casgliadau canlynol:
i. Cadarnhau’r apêl a chyfeirio’r achos yn ôl i’r Pwyllgor Dyrchafiadau Academaidd i’w hailasesu gan ddilyn y weithdrefn gywir.
ii. Peidio â chadarnhau’r apêl. Canlyniad gwreiddiol y Pwyllgor Dyrchafiadau Academaidd fydd ar waith.
7.6.6. Ni chaiff y panel apêl ddyfarnu dyrchafiad. Mae penderfyniad y bwrdd apêl yn derfynol.
7.8. Ail-ymgeisio yn dilyn cais aflwyddiannus o'r blaen
7.8.1. Dim ond mewn amgylchiadau lle gall yr ymgeisydd ddangos gwelliant priodol yn ei achos, sy'n ddigonol o ran bodloni’r meini prawf ar gyfer dyrchafiad, y gellir ailgyflwyno cais yn dilyn cais blaenorol aflwyddiannus. Dylai datblygiadau allweddol ers y cyflwyniad blaenorol gael eu hamlinellu yn y cais.
8. Hysbysiad Diogelu Data
8.1. Caiff eich data personol ei brosesu yn unol â'r hysbysiad diogelu data staff. Gallai'r Brifysgol rannu eich cais gyda thrydydd partïon er mwyn caffael asesiadau allanol gan gyflogwyr neu unigolion eraill.
9. Rhagor o wybodaeth
9.1. Mae’r Weithdrefn Dyrchafiadau Academaidd ar gael i'w lawrlwytho ar Fewnrwyd y Staff.
9.2. This document is also available in English.
9.3. Cysylltwch ag Adnoddau Dynol os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch Dyrchafiadau Academaidd neu os oes arnoch angen y ddogfen hon mewn fformat arall.
Dyrchafiadau Academaidd
10. Asesu Ymchwil
ar gyfer staff ar y llwybr gyrfa Addysgu ac Ymchwil ac Ymchwil yn unig
Dylai staff ar y llwybrau gyrfa Dysgu ac Ysgolheictod sy'n ymgymryd ag Ymchwil roi tystiolaeth o hynny yn erbyn meincnodau'r Ysgolheictod.
10.1. Meincnodau
R1. Allbwn cyson o gyhoeddiadau rhagorol a phwysig mewn cyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid a / neu allbynnau ymchwil eraill (e.e. llyfrau, cyfansoddiad cerddorol).
R2. Tystiolaeth o arian allanol sy’n briodol i’r ddisgyblaeth.
R3. Goruchwyliaeth effeithiol ar ymchwilwyr/fyfyrwyr ymchwil.
R4. Tystiolaeth o gyfraniad, ar lefel y Deyrnas Unedig neu’n rhyngwladol, i’r maes pwnc, i gyrff proffesiynol a/neu barch allanol.
10.2. Dangosyddion asesu
Mae'r canlynol yn enghreifftiau o ddangosyddion y gellir eu cynnwys mewn cais i ddangos gallu ac effeithiolrwydd, neu ragoriaeth, yn erbyn y meincnodau cyffredinol uchod. Sylwer na ddisgwylir i ymgeiswyr fodloni pob dangosydd ym mhob maes o reidrwydd.
Meincnodau | Dangosyddion asesu |
---|---|
R1. Allbwn cyson o gyhoeddiadau rhagorol a phwysig mewn cyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid a / neu allbynnau ymchwil eraill (e.e. llyfrau, cyfansoddiad cerddorol). |
|
R2. Tystiolaeth o arian allanol sy’n briodol i’r ddisgyblaeth. |
|
R3. Goruchwyliaeth effeithiol ar ymchwilwyr/fyfyrwyr ymchwil. |
|
R4. Tystiolaeth o gyfraniad, ar lefel y Deyrnas Unedig neu’n rhyngwladol, i’r maes pwnc, i gyrff proffesiynol a/neu barch allanol. |
|
11. Asesu Ysgolheictod
Ar gyfer staff ar y llwybr gyrfa Addysgu ac Ysgolheictod yn unig
Dylai staff ar y llwybrau gyrfa Dysgu ac Ymchwil neu Ymchwil sy'n ymgymryd ag Ysgolheictod roi tystiolaeth o hynny yn erbyn meincnodau'r Ymchwil.
11.1. Meincnodau
S1. Tystiolaeth o gyfraniadau arwyddocaol at addysgeg y maes pwnc/ ymarfer proffesiynol.
S2. Ysgoloriaeth/ ymchwil sy'n gysylltiedig â Dysgu ac Addysgu neu mewn maes pwnc penodol, i wella dull seiliedig ar dystiolaeth o ymdrin â chynnwys a chyflwyno addysgu.
S3. Tystiolaeth o arweinyddiaeth wrth ddatblygu addysgu a dysgu y tu allan i’r Brifysgol.
S4. Tystiolaeth o arian allanol / parch sy’n briodol i’r ddisgyblaeth.
11.2. Dangosyddion Asesu
Mae'r canlynol yn enghreifftiau o ddangosyddion y gellir eu cynnwys mewn cais i ddangos gallu ac effeithiolrwydd, neu ragoriaeth, yn erbyn y meincnodau cyffredinol uchod.
Sylwer na ddisgwylir i ymgeiswyr fodloni pob dangosydd ym mhob maes o reidrwydd.
Meincnodau | Dangosyddion asesu |
---|---|
S1. Tystiolaeth o gyfraniadau arwyddocaol at addysgeg y maes pwnc/ ymarfer proffesiynol. |
|
S2. Ysgoloriaeth/ ymchwil sy'n gysylltiedig â Dysgu ac Addysgu neu mewn maes pwnc penodol, i wella dull seiliedig ar dystiolaeth o ymdrin â chynnwys a chyflwyno addysgu. |
|
S3. Tystiolaeth o arweinyddiaeth wrth ddatblygu addysgu a dysgu y tu allan i’r Brifysgol. |
|
S4. Tystiolaeth o gael arian/ parch sy’n briodol i’r ddisgyblaeth. |
|
12. Asesu Addysgu
Ar gyfer staff ar y llwybr gyrfa Addysgu ac Ymchwil, Addysgu ac Ysgolheictod ac Ymchwil
12.1.Meincnodau
T1. Tystiolaeth o safon uchel o addysgu, fel y barnwyd gan ddulliau gwerthuso megis adborth gan fyfyrwyr ac adolygu gan gymheiriaid.
T2. Tystiolaeth o arloesedd addysgol sylweddol a datblygu cwrs, cynllunio cwrs a gweinyddu ar lefel ôl-raddedig a/ neu israddedig.
T3. Tystiolaeth o arwain wrth ddatblygu strategaeth addysgol yr Ysgol/ Coleg/ Prifysgol.
T4. Tystiolaeth o weithgarwch wedi'i gynnal, sy'n gwella profiad myfyrwyr yn sylweddol.
12.2. Dangosyddion asesu
Mae'r canlynol yn enghreifftiau o ddangosyddion y gellir eu cynnwys mewn cais i ddangos gallu ac effeithiolrwydd, neu ragoriaeth, yn erbyn y meincnodau cyffredinol uchod. Sylwer na ddisgwylir i ymgeiswyr fodloni pob dangosydd ym mhob maes o reidrwydd.
Meincnodau | Dangosyddion asesu |
---|---|
T1. Tystiolaeth o safon uchel o addysgu, fel y barnwyd gan ddulliau gwerthuso megis adborth gan fyfyrwyr ac adolygu gan gymheiriaid. |
|
T2. Tystiolaeth o arloesedd addysgol sylweddol a datblygu cwrs, cynllunio cwrs a gweinyddu ar lefel ôl-raddedig a/ neu israddedig. |
|
T3. Tystiolaeth o arwain wrth ddatblygu strategaeth addysgol yr Ysgol/ Coleg/ Prifysgol. |
|
T4. Tystiolaeth o weithgarwch wedi'i gynnal, sy'n gwella profiad myfyrwyr yn sylweddol. |
|
13. Asesu Arloesedd, Cenhadaeth a Rhyngwladol
ar gyfer staff ar y llwybrau gyrfa Addysgu ac Ymchwil, Addysgu ac Ysgolheictod ac Ymchwil
13.1. Meincnodau
I1. Tystiolaeth o gyfraniad parhaus at drosglwyddo gwybodaeth.
I2. Tystiolaeth o gyfraniad llwyddiannus at weithgareddau cenhadaeth ddinesig a/neu brosiectau rhyngddisgyblaethol ar raddfa fawr.
I3. Arweinyddiaeth a rheolaeth/ cydlyniad ar lefel uwch.
I4. Tystiolaeth o weithgareddau sy’n hyrwyddo/ gwella enw da/ proffil y Brifysgol.
13.2. Dangosyddion asesu
Mae'r canlynol yn enghreifftiau o ddangosyddion y gellir eu cynnwys mewn cais i ddangos gallu ac effeithiolrwydd, neu ragoriaeth, yn erbyn y meincnodau cyffredinol uchod. Sylwer na ddisgwylir i ymgeiswyr fodloni pob dangosydd ym mhob maes o reidrwydd.
Meincnodau | Dangosyddion asesu |
---|---|
I1. Tystiolaeth o gyfraniad parhaus at drosglwyddo gwybodaeth. |
|
I2. Tystiolaeth o gyfraniad llwyddiannus at weithgareddau cenhadaeth ddinesig a/neu brosiectau rhyngddisgyblaethol ar raddfa fawr. |
|
I3. Arweinyddiaeth a rheolaeth/ cydlyniad ar lefel uwch. |
|
I4. Tystiolaeth o weithgareddau sy’n hyrwyddo/ gwella enw da/ proffil y Brifysgol. |
|