Ewch i’r prif gynnwys

Galwad am grynodebau

Os ydych chi'n fyfyriwr ymchwil ôl-raddedig ar gyfer y celfyddydau, y dyniaethau, neu'r gwyddorau cymdeithasol o brifysgolion GW4 (Bryste, Caerfaddon, Caerdydd a Chaerwysg), Prifysgol Metropolitan Caerdydd, neu Brifysgol De Cymru, cyflwynwch eich ymchwil wyneb yn wyneb i ymchwilwyr ôl-raddedig eraill yn Academi Ddoethurol Prifysgol Caerdydd.

Rydym yn gwahodd crynodebau ar ffurf cyflwyniadau papur a phoster.

P'un a wnaethoch ddechrau chwe mis yn ôl neu fod gennych chwe mis ar ôl cyn gorffen, rydym yn annog pob ymchwilydd ôl-raddedig i gyflwyno crynodeb neu boster. Rydym yn annog yn arbennig ymchwilwyr ôl-raddedig yn eu cyfnod cynnar a fydd yn elwa o bersbectif amlddisgyblaethol ar eu gwaith. Nod ein cynhadledd a arweinir gan fyfyrwyr yw cynnig amgylchedd cefnogol a chroesawgar i bawb arddangos eich gwaith, ei drafod, a chael adborth gan gyfoedion.

Cewch gyflwyno prosiectau sydd wedi gorffen neu sy’n dal i fynd; dylent oll fod yn hygyrch i gynulleidfa ehangach.

Beth i'w gynnwys yn eich crynodeb

Dylai crynodebau ar gyfer papurau (cyflwyniadau) a phosteri ymdrin â’r canlynol: cyd-destun/hanes eich gwaith, yr hyn rydych yn ei wneud, pam ei fod o bwys, ac i ble’r ydych yn mynd nesaf. Os oes modd, dylech gynnwys unrhyw ganfyddiadau gwirioneddol neu gychwynnol, neu beth fydd eich canfyddiadau, yn eich barn chi. Ar gyfer trafodaethau rhyngddisgyblaethol, amlygwch pam mae eich cyfraniad yn arloesol, pwy/pa feysydd fyddai'n elwa, a/neu’r effeithiau posibl o hynny ar gyfer y meysydd.

Mae hefyd yn bwysig iawn cofio mai nod y gynhadledd ryngddisgyblaethol hon yw cyfleu eich ymchwil i fyfyrwyr/ymchwilwyr y tu allan i'ch maes. Dylai eich crynodeb adlewyrchu hynny drwy osgoi jargon neu gysyniadau hynod arbenigol.

Sylwer:

  • Ni ddylai teitl eich cyflwyniad/poster gynnwys dros 10 gair.
  • Bydd papurau (cyflwyniadau) yn para 10 munud a bydd 5 munud ar gyfer cwestiynau.
  • Ni ddylai prif gorff y crynodeb fod yn fwy na 200 gair.
  • Dylai fod ym mhrif destun y crynodeb y penawdau canlynol:
    • Cyflwyniad
    • Nod
    • Dulliau
    • Canlyniadau (os oes rhai)
    • Casgliad

Cyflwynwch eich crynodeb drwy ddefnyddio’r ffurflen hon.

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno crynodebau: dydd Gwener 17 Mawrth 2023, 23:59.

Meini prawf beirniadu crynodebau

  • Cynnwys - a yw'r crynodeb yn dangos amcan cydlynol ac yn dangos syniad cyflwyno clir?
  • Diddordeb - a yw'r crynodeb yn berthnasol i'r gynhadledd ac a fydd o ddiddordeb i gynulleidfa'r gynhadledd?

Beirniadir eich crynodeb gan adolygwyr y pwyllgor heb i’ch enw fod yn hysbys iddynt. Dileer eich enw a’ch sefydliad o’r crynodeb cyn y beirniadu.

Posteri

Rhoddir manylion pellach ynghylch fformat posteri ar ôl derbyn eich crynodeb. At hynny, y gynhadledd fydd yn talu costau argraffu posteri.

Rhagor o wybodaeth

Mae'r gynhadledd hon yn rhad ac am ddim, a dyfernir gwobrau ar gyfer y papurau a’r posteri gorau. Daw’r alwad am grynodebau i ben dydd Gwener 17 Mawrth 2023 am 23:59, a byddwch yn cael eich hysbysu am y canlyniad o fewn tair wythnos o'r dyddiad cau.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ebostiwch breakboundaries@caerdydd.ac.uk.

Dilynwch ni ar Twitter i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y gynhadledd.