Ewch i’r prif gynnwys

Cyfres Sgwrs y Byd: Pawb drosto'i hunan, ac i'r diawl â'r diwethaf, neu Pam Ddylem ni fod am ddarllen Karl Marx heddiw

Dydd Iau, 1 Tachwedd 2018
Calendar 17:00-19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Raging Bull, Wall Street

Mae Sgwrs y Byd yn gyfres newydd o ddarlithoedd am bynciau cyfoes diddorol mewn amryw wledydd ledled y byd gan Arbenigwyr o Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd. Mae'r gyfres wedi'i hanelu at fyfyrwyr UG a Safon Uwch yn bennaf, er mwyn ennyn eu diddordeb a chynnig dealltwriaeth well o ddatblygiadau gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol ledled y byd. Bydd y darlithoedd yn para tua 45 munud, ac yna sesiwn holi ac ateb am 30 munud.

Yn y ddarlith hon, bydd Heiko Feldner yn edrych yn fanylach ar ba mor ddefnyddiol mae dealltwriaeth Karl Marx o gyfalafiaeth, ddau gan mlynedd ar ôl iddo gael ei eni ar 5 Mai, 1818.

Crynodeb

Daeth yr amswer i gwyno am wallgofrwydd cyfalafiaeth i ben. Heddiw mae’r cwyno diddiwedd ynghych ei natur ddireswm, afresymegol a gwrthgyferbynniol wedi rhoi lle i feriniadaeth o’i resymolrwydd, rhesymoledd a’i gysondeb ygsubol. Dyw’r newid hwn mewn agwedd ddim wedi dod o unlle, o bell ffordd. Mae’r ddirnadaeth fod angen arnom, efallai, opsinyau gwahanol i gyfalafiaeth, yn hytrach na ffyrdd gwahanol o gyfalafiaeth, wedi tyfu allan o brofiad digymell nad ydym bellach yn wynebu argyfwng rhannol, ond argyfwng llwyr o ran ein ffordd o fyw. Os nad ydych yn meddwl fod hyn yn wir yn ddisgrifiad o lle ydym heddiw, rydych yn hollol iawn. Ond wedyn, dydy oesoedd newydd ddim yn dechrau yn sydyn nad ydyn nhw?

Mae’r sgwrs hon yn rhoi Marx yn ein ‘sgidiau ni. Beth fyddai’r beirniad enwog o gyfalafiaeth yn gwneud o’r llanst eco-eonomaidd sydd yn datblygu’n arbennig o araf o flaen ein llygaid? Beth feddyliai o awtomateiddio digidol, A1 a’r economi ddi- garbon? Os yw ei stori ysgytwol yn wir fod enillion cynnyrch ddigyffelyb cyfalafiaeth yn ein condemnio i sefyllfa anyned lle mae trengi yng ngwyneb digonedd yn bosibiliad clir, beth allwn ni wneud? Bydd y ddarlith yn rhoi cyflwyniad o fewn cyrraedd pawb i brosiect ymchwil sydd yn mynd rhagddo tra’n eich gwahodd i ymuno mewn ffyrdd newydd o elwa ar Marx@200.

Bywgraffiad

Mae Heiko Feldner yn Ddarllenydd mewn Almaeneg ac yn gyd-gyfarwyddwr Canolfan Beirinadaeth Ideoloeg ac Astudiaethau Žižek yn yr Ysgol Ieithoedd Modern. Cyn ymchwilydd ar brosiect Marx-Engels-Gesamtausgabe (MEGA), mae wedi rhoi dehongliadau o Farcsiaeth ar brawf mewn gwahanol feysydd. Tra bod ei waith diweddar yn ymchwilio i achosion ac effeithiau yr argyfwng yn yr economi byd-eang, mae ar hyn o bryd yn gweithio ar hanes cyfalafiaeth yn y dyfodol o dan y teitl The Meaning of 1989.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Iau 18 Hydref i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru

Archebwch docynnau yma. Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.