Ewch i’r prif gynnwys

Diwedd y Frwydr yn erbyn Cyffuriau: Diwylliant o Wahardd o Safbwynt Byd-eang

Calendar Dydd Mawrth 11 Medi 2018, 12:00-Dydd Mercher 12 Medi 2018, 15:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Symposiwm un a hanner diwrnod sy’n canolbwyntio ar agweddau diwylliannol o’r ‘Frwydr yn erbyn Cyffuriau’ o feysydd megis Daearyddiaeth Dynol, Ffeministiaeth, Gwleidyddiaeth, Astudiaethau Maes, Cymdeithaseg, Anthropoleg, Llenyddiaeth ac Astudiaethau Ffilm. Mae rhaglen ar gael.

Mae oferedd y ‘Frwydr yn erbyn Cyffuriau’ bellach yn cael ei gydnabod yn eang. Mae hyd yn oed aelodau o sefydliadau ceidwadol yn galw’n rheolaidd am ddiwedd y gwaharddiad. Er hyn, wrth i bolisïau ddechrau ystyried dad-droseddu cyffuriau ‘meddal’ mewn rhai rhannau o’r byd, mae gwaharddiad treisgar wedi dwysáu mewn rhannau eraill wrth i wleidyddion barhau i ennyn poblogrwydd drwy arferion llym. Mae camau o’r fath yn rhoi hygrededd i’r rhai hynny sydd wedi dadlau nad lleihau niweidiau cysylltiedig â chyffuriau oedd dibenion y gwaharddiadau ond, yn hytrach, cynnal hierarchaethau pŵer - gwleidyddol, trefedigaethol a hiliol. Ar yr un pryd, ceir ffyniant mewn diwydiant diwylliant sy’n cwmpasu’r gwrthdaro, sy’n amrywio o sioeau poblogaidd fel Narcos a Breaking Bad i ‘nofelau-narco’ sydd wedi ennill gwobrau ac adrannau o’r diwydiant ffilm a cherddoriaeth a ariennir yn uniongyrchol gan elw o gyffuriau.  Yn y cyd-destun hwn, mae nifer wedi dadlau bod rhesymeg gwaharddiad yn ‘ddiwylliannol’ yn yr ystyr ehangaf.

Mae’r symposiwm rhyngddisgyblaethol hwn yn canolbwyntio ar agweddau diwylliannol o’r ‘Frwydr yn erbyn Cyffuriau’ o feysydd megis Daearyddiaeth Dynol, Ffeministiaeth, Gwleidyddiaeth, Astudiaethau Maes, Cymdeithaseg, Anthropoleg, Llenyddiaeth ac Astudiaethau Ffilm.

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.ukerbyn dydd Mawrth 28 Awst  i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Gweld Diwedd y Frwydr yn erbyn Cyffuriau: Diwylliant o Wahardd o Safbwynt Byd-eang ar Google Maps
2.26 (+ foyer)
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS

Rhannwch y digwyddiad hwn