Ewch i’r prif gynnwys

'Gweld Drwgargoelus' a Naratifau Graffig Ôl-Milflwyddol Indiaidd

Dydd Gwener, 4 Mai 2018
Calendar 14:00-15:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Picturing Others

Cyflwyniad ymchwil fydd yn trin a thrafod naratifau graffig ôl-milflwyddol Indiaidd drwy’r syniad o 'weld drwgargoelus', fel rhan o’r thema ymchwil Darlun Eraill yn yr Ysgol.

Crynodeb: Mae'r papur hwn yn amlinellu’r syniad o ‘weld drwgargoelus’ mewn perthynas â naratifau graffig Indiaidd a sut y gall hyn lywio dadansoddiad y canon cynyddol o naratifau graffig ôl-milflwyddol Indiaidd. Gan ddefnyddio enghreifftiau o naratifau graffig ôl-milflwyddol Indiaidd yn Saesneg, bydd y papur hwn yn dadlau sut y mae’r 'drwgargoelus' yn cael ei greu drwy ffurf a chynnwys. Gan ddilyn ymlaen o hynny, mae’n edrych ar sut mae syniadau Indiaidd yn cael eu beirniadu drwy’r dull hwn gan ‘gweld a gwybod’ (yn dilyn Bhatti a Pinney, 2011). Daw’r papur i ben wrth ystyried sut y gallem 'wybod' drwy’r drwgargoelus a swyddogaeth(au) hyn yn y gymdeithas ôl-milflwyddol yn enwedig wrth ystyried y syniadau (esblygol) ‘Indianaidd’

Bywgraffiad y cyflwynydd: Mae ymchwil E. Dawson Varughese yn trin a thrafod amgodio moderniaeth ôl-milflwyddol Indiaidd drwy fynegiant llenyddol ac artistig (gweledol) poblogaidd. Mae hi’n cyhoeddi ffuglen, nofelau graffig a naratifau, cloriau llyfrau domestig Indiaidd a chelfyddyd muriau cyhoeddus; thema ganolog i’w hymchwil yw syniadau (esblygol) o ‘Indianaidd’. Mae ei llyfr diweddaraf Visuality and Identity in post-millennial Indian graphic narratives(2017) wedi’i gyhoeddi gan Palgrave. Mae’n ysgolhaig annibynnol, ac yn rhannu ei hamser rhwng y DU ac India. Roedd yn gymrawd gwadd ym Mhrifysgol Delhi (Saesneg yn 2017; Cymdeithaseg yn 2018).