Ewch i’r prif gynnwys

Moeseg mewn Cyfieithu Proffesiynol

Dydd Mercher, 6 Chwefror 2019
Calendar 16:00-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Seminar ymchwil gyda siaradwr gwadd, yr Athro Jo Drugan (Prifysgol East Anglia, Norwich), yn rhan o thema ymchwil Cyfieithu, Addasu a Pherfformio yr Ysgol Ieithoedd Modern.

Crynodeb

Mae gwaith cyfieithu a chyfieithu ar y pryd yn codi cwestiynau ynghylch moeseg. Sut mae ein dewisiadau cyfieithu’n effeithio ar ddefnyddwyr? Pryd ddylem wrthod cynigion o waith? A oes gan gyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd ddyletswydd i chwythu’r chwiban?

Yn ddealladwy, mae Codau Ymarfer Proffesiynol a chontractau yn y maes yn pwysleisio pwysigrwydd cyfrinachedd, niwtraledd, disgresiwn a chytundeb i beidio â datgelu gwybodaeth. Mae hyn yn golygu bod ieithyddion mewn sefyllfa fwy anodd na galwedigaethau fel gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr meddygol, peirianwyr ac ati i leisio pryderon a’u trafod â chydweithwyr.

Mae’r ddarlith hon yn sôn am ymchwil newydd gyda chyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd go iawn, gan gynnwys rhai sy’n gweithio mewn cyd-destunau heriol o ran moeseg, fel troseddu, iechyd a mewnfudo er enghraifft.

Bywgraffiad

Mae Jo Drugan yn Athro Cyfieithu ym Mhrifysgol East Anglia, Norwich, y DU. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar foeseg, ansawdd a thechnoleg mewn perthynas â chyfieithu a chyfieithu ar y pryd proffesiynol. Ar hyn o bryd, hi yw Prif Ymchwilydd y Prosiect Cyfieithu a Throseddu Cyfundrefnol Rhyngwladol a ariennir gan yr ESRC/AHRC.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.ukerbyn dydd Mercher 23 Ionawr i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Gweld Moeseg mewn Cyfieithu Proffesiynol ar Google Maps
Room 2.18, School of Modern Languages
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS

Rhannwch y digwyddiad hwn