Ewch i’r prif gynnwys

Naratifau Trychinebau wedi’u Dylunio

Dydd Iau, 7 Chwefror 2019
Calendar 16:00-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Seminar ymchwil gyda Dr Christopher Hood (Prifysgol Caerdydd) yn rhan o thema ymchwil Gwrthdaro, Datblygu a Thrychinebau yn yr Ysgol Ieithoedd Modern.

Crynodeb

Yn ôl Mileti (1999), mae trychinebau wedi'u 'dylunio' ac 'o ganlyniad i batrymau datblygu cul ac anystyriol, safbwyntiau diwylliannol, ac agweddau tuag at yr amgylchedd naturiol a hyd yn oed gwyddoniaeth a thechnoleg' (ibid:18). Os yw trychinebau eu hunain wedi'u 'dylunio', beth am naratifau ynghylch trychinebau? Fe wnaeth Yacowar (2012) gategoreiddio ffilmiau trychineb yn ôl math yn ogystal ag amlinellu 16 o gonfensiynau sy'n ymddangos yn y ffilmiau hyn. Er bod gwaith Yacowar wedi'i ddyfynnu gan eraill yn aml dros y blynyddoedd, ac mae sawl rhifyn i'r gwaith y mae'n ymddangos ynddo, nid yw wedi’i ddiweddaru ers iddo gael ei ysgrifennu am y tro cyntaf ym 1976. Mewn geiriau eraill, fe'i ysgrifennwyd cyn ffilmiau trychineb mawr y nawdegau, megis Titanic gan Cameron (1997). Hyd at 2018, hon yw’r ffilm drychineb fwyaf llewyrchus erioed a’r ail ffilm fwyaf llewyrchus erioed o bob genre (Box Office Mojo 2018). Mae'r papur hwn yn ystyried a yw naratifau trychinebau dros y deugain mlynedd ddiwethaf yn cyd-fynd â'r confensiynau a gynigiwyd gan Yacowar. Mae hefyd yn mynd i'r afael ag un o'r bylchau yn y gwaith ymchwil gwreiddiol sef y ffaith ei fod yn canolbwyntio ar ffilmiau Saesneg yn bennaf, drwy ystyried ambell naratif Japaneeg hefyd.

Bywgraffiad

Mae Dr Christopher Hood yn Ddarllenydd Astudiaethau Japaneeg yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Caerdydd. Ef yw awdur Japan: The Basics (2014), Dealing with Disaster in Japan: Responses to the Flight JL123 Crash (2011), a Shinkansen:From Bullet Train to Symbol of Modern Japan (2006). Mae’n Llywydd Cymdeithas Prydain er Astudiaethau Japaneeg. Twitter: @HoodCP

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Gwener 24 Ionawr i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Gweld Naratifau Trychinebau wedi’u Dylunio ar Google Maps
2.18
Glamorgan Building
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA

Rhannwch y digwyddiad hwn