Ewch i’r prif gynnwys

Etifeddiaeth ddiwylliannol Rhyfel y Môr Tawel yn Chile a Bolifia

Dydd Iau, 14 Mawrth 2019
Calendar 16:00-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Darlith gyhoeddus gyda siaradwr gwadd Dr Paul Merchant (Prifysgol Briste) a Javier Cortés-Ortuño (Prifysgol Caerdydd) fel rhan o thema ymchwil Ffiniau a Chyrff yn yr Ysgol Ieithoedd Modern.

Cefnfor nad yw'n dawel: Eduardo Abaroa, Rhyfel y Môr Tawel a hunaniaeth ddiwylliannol Bolifia

Gan Dr Paul Merchant

Crynodeb

Efallai mai Eduardo Abaroa, milwr yn Rhyfel y Môr Tawel (1879-1883), yw'r mwyaf gweladwy o arwyr Cenedlaethol Bolifia. Yn y rhyfel hwnnw, cafodd arfordir Môr Tawel Bolifia ei gyfeddiannu gan Chile, gan sbarduno gwrthdaro diplomataidd ddaeth i'r wyneb eto'n ddiweddar yn y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol. Mae'r papur hwn yn dadlau bod ymdrechion llywodraeth Bolifia i annog cynhyrchiant diwylliannol sy'n gysylltiedig â'r ‘demanda marítima’ yn tynnu ar draddodiad hir o ymgysylltu'n ddiwylliannol â'r pwnc.

Mae'r papur yn archwilio'r paradocsau a gynhyrchir drwy apelio'n anghyson at y môr, lle diderfyn yn ôl pob golwg, yn ogystal â chorff a or-bennwyd yn symbolaidd, sef Abaroa, fel ffigurau hunaniaeth diriogaethol genedlaethol. Mae'r gweithiau diwylliannol sy'n cyfleu hynny'n cynnwys drama radio 1952, Ausencia y retorno del mar a ffilm o 1984, Amargo mar. Dadl y papur yw bod y cynyrchiadau diwylliannol a ddadansoddir yn datgelu rhwydwaith o berthnasoedd rhwng pobl oedd yn cymryd rhan, amgylcheddau annynol a ffurfiau esthetig na ellir eu cyfyngu i brosiect gwleidyddol unigol. Yn y pen draw, mae'r papur yn awgrymu bod yr union ffaith ei bod yn amhosibl trosi'r Môr Tawel yn gludydd trosiadol ar gyfer hunaniaeth genedlaethol yn elfen sy'n diffinio diwylliant modern Bolifia.

Bywgraffiad

Mae Dr Paul Merchant yn ddarlithydd mewn ffilmiau America Ladin a diwylliant gweledol ym Mhrifysgol Bryste. Mae ei ymchwil bresennol yn archwilio'r tensiynau rhwng ymagweddau tiriogaethol ac ecolegol at gyrff dŵr yn Chile a Bolifia. Mae'n gyd-olygydd y gyfrol sydd ar y gweill, The Limits of the Human in Latin American Culture, ac mae wedi cyd-olygu rhifyn arbennig o'r Journal of Romance Studies ar leoedd domestig mewn sinema America Ladin gyfoes.

Ysgrifennu am anialwch awydd
Gan Javier Cortés-Ortuño

Crynodeb

O 1930 tan 1970, daeth nifer o ysgrifenwyr o Chile yn rhan o ymgyrch lenyddol i bortreadu’r rhanbarthau gogleddol o ddiffeithdir a gawsant eu cyfeddiannu o Bolivia a Peru ar ôl Rhyfel y Môr Tawel. Cyflwynir llawer o’r ysgrifau hyn ar ffurf straeon serch trist lle mae eu cymeriadau’n ymdrechu yn erbyn confensiynau cymdeithasol, ansefydlogrwydd economaidd, trais gwleidyddol, a hanfod natur dyn. Mae awydd y prif gymeriadau am serch, priodas barhaol a theulu yn tueddu i gael ei siomi. Yn y papur hwn, byddaf yn cymharu Los Pampinos (1956) gan Luis González â Punta de Rieles (1960) gan Manuel Rojas. Yn y ddwy nofel, mae’r prif gymeriad yn ddyn o ddosbarth gweithiol Chile sy’n dechrau perthynas â benyw o dras estron (o Peru a Bolivia, yn y drefn honno). Yr hyn rwy’n ei awgrymu yw bod gwahanol ysgrifenwyr yn y cyfnod hanesyddol hwn yn ystyried y diffeithdir yn dirwedd lle gallai awyddau chwalu cyfyngiadau rhywedd, cenedl, dosbarth a thras. Drwy hyn, maent yn cwestiynu cymdeithas Chile ar y pryd a’i hagweddau tuag at y gwahaniaethau cymdeithasol hyn. Serch hynny, mae diwedd trist i'w straeon serch gan amlaf. Erbyn hynny, roedd cymdeithas Chile’n seiliedig ar y teulu a'r syniad y dylai pŵer cariad ennill y dydd, ond yn y nofelau hyn, cafodd y prif gymeriadau eu dieithrio gan eu cymdeithas oherwydd yr un awyddau oedd ganddynt.

Bywgraffiad
Myfyriwr PhD mewn Ieithoedd Modern yw Javier Cortés-Ortuño.

Cyfieithu ar y prydBydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.ukerbyn dydd Mercher 28 Chwefror i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

CofrestruMae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Gweld Etifeddiaeth ddiwylliannol Rhyfel y Môr Tawel yn Chile a Bolifia ar Google Maps
Lecture theatre 2 (room 0.01)
Tower Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn