Ewch i’r prif gynnwys

Seminar Caerdydd ar Ieithyddiaeth Gymhwysol ac Addysgeg Iaith

Dydd Mercher, 19 Medi 2018
Calendar 16:00-18:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Mae'r Ysgol Ieithoedd Modern yn cynnal y seminar cyntaf ar Ieithyddiaeth Gymhwysol ac Addysgeg Iaith. Bydd y seminar ar y cyd yn croesawu siaradwr gwadd nodedig o feysydd Ieithyddiaeth Gymhwysol ac Addysgeg Iaith. Dilynir hyn gan dderbyniad gwin yng nghyntedd yr Ysgol rhwng 17:10 - 18:30.

Siaradwr gwadd


Dr Yuichi Suzuki (Athro Cysylltiol ym Mhrifysgol Kanagawa). Teitl ei seminar yw Mesur gwybodaeth amlwg ac ymhlyg: Sylfeini ar gyfer addysgu a dysgu ail iaith.

Crynodeb

Mae addysgu, dysgu a gwybodaeth amlwg ac ymhlyg yn sylfeini damcaniaethol ar gyfer athrawon ail iaith ac ymchwilwyr. Yn yr anerchiad hwn, bydd Dr Yuichi Suzuki yn cyflwyno trosolwg o ddilysrwydd y dystiolaeth ar gyfer mesur gwybodaeth amlwg ac ymhlyg mewn gramadeg ail iaith. Cynigir gwahaniaeth damcaniaethol rhwng gwybodaeth amlwg wedi’i hawtomateiddio a gwybodaeth ymhlyg ar sail ei astudiaethau dilysu diweddar ynghylch mesurau gwybodaeth ymhlyg sy’n defnyddio amser adweithio a thechnegau tracio llygaid (Suzuki, 2017; Suzuki a DeKeyser, 2015; Vafaee, Suzuki, Kachinske, 2017).  Yna bydd Dr Suzuki yn cyflwyno tystiolaeth o blaid rhyngwyneb cadarn gwybodaeth amlwg ac ymhlyg, yn ogystal ag ar gyfer rolau pwysig cymhwysedd gwybyddol (Suzuki a DeKeyser, 2017). I gloi, bydd yn trafod goblygiadau ymchwil ac addysgu a dysgu yn y dosbarth o dan gyfarwyddyd ym maes Caffael Ail Iaith (SLA), yng ngoleuni dealltwriaeth well o ddysgu a gwybodaeth amlwg ac ymhlyg ym maes Caffael Ail Iaith i Oedolion.

  • Suzuki, Y. ac R. M.DeKeyser (2015).  Comparing elicited imitation and word monitoring as measures of implicit knowledge. Language Learning, 65(4): 860-895.
  • Suzuki, Y. (2017). Validity of new measures of implicit knowledge: Distinguishing implicit knowledge from automatized explicit knowledge. Applied Psycholinguistics 38(5): 1229-1261.
  • Suzuki, Y., a DeKeyser, R. M. (2017). The interface of explicit and implicit knowledge in a second language: Insights from individual differences in cognitive aptitudes. Language Learning, 67, 747-790. doi:10.1111/lang.12241
  • Vafaee, P., Suzuki, Y., Kachinske, I. (2017). Validating grammaticality judgment tests: Evidence from two new psycholinguistic measures. Studies in Second Language Acquisition, 39(1): 59-95.

Bywgraffiad

Mae Yuichi Suzuki yn Athro Cyswllt yn yr Adran Astudiaethau Traws-ddiwylliannol, Prifysgol Kanagawa. Cafodd BA mewn Addysgu Japaneeg fel ail iaith (Prifysgol Tokyo Gakugei), ME mewn Addysgu Saesneg fel Ail Iaith (Prifysgol Tokyo Gakugei) a PhD mewn Caffael Ail Iaith (Prifysgol Maryland College Park). Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys dilysrwydd mesuriadau ar gyfer gwybodaeth echblyg ac ymhlyg, y mater rhyngwyneb, awtomeiddio, amserlenni delfrydol ar gyfer dysgu geirfa a gramadeg, a'r rhyngweithio rhwng gallu a thriniaeth. Mae ei ymchwil ddiweddar wedi cael ei chyhoeddi mewn cyfnodolion rhyngwladol ym maes Caffael Ail Iaith, megis Studies in Second Language Acquisition, Language Learning, Bilingualisms: Language and Cognition, Language Teaching Research, and Applied Psycholinguistics. Enillodd Wobr Valdman gyda'i gydweithwyr, am yr erthygl orau yn Studies in Second Language Acquisition in 2017: Vafaee, P., Suzuki, Y., Kachinske, I. (2017). Validating grammaticality judgment tests: Evidence from two new psycholinguistic measures. Studies in Second Language Acquisition, 39(1): 59-95.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 5 Medi i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Gweld Seminar Caerdydd ar Ieithyddiaeth Gymhwysol ac Addysgeg Iaith ar Google Maps
2.18
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS

Rhannwch y digwyddiad hwn