Ewch i’r prif gynnwys

Mynediad at yr Anhygyrch: Sut Gall Cyfieithu Ysgogi Newid Cymdeithasol yn y Celfyddydau Perfformio

Dydd Mercher, 10 October 2018
Calendar 16:00-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Darlith gyhoeddus ar y cyd rhwng Ysgol y Gymraeg a’r thema ymchwil Cyfieithu, Addasu a Pherfformio yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, gyda siaradwr gwadd Patrick Young (OPRA Cymru).

Crynodeb

Cafod unig gwmni opera Cymraeg y byd, OPRA Cymru, ei sefydlu ddeng mlynedd yn ôl. Roedd y briff yn syml: creu fersiynau Cymraeg o glasuron y repertoire operatig i'w perfformio. Roedd y weledigaeth yr un mor syml, ond ychydig yn fwy heriol efallai: creu cynulleidfa newydd ar gyfer opera ymhlith siaradwyr Cymraeg. Ers hynny mae'r cwmni wedi tyfu, ac erbyn hyn mae'n boblogaidd iawn. Bydd y ddarlith hon yn myfyrio ar y cyfraniad gwerthfawr y mae perfformiad a gyfieithwyd yn ei wneud at y gweithiau a gyfieithir ac, yn enwedig yn achos y Gymraeg, at yr iaith ei hun. Gan ddefnyddio profiad OPRA Cymru fel achos, bydd y ddarlith hefyd yn ystyried y manteision annisgwyl o gael gweledigaeth o'r fath ar gyfer perfformiadau a gyfieithwyd; ac yn ystyried i ba raddau y gallai'r manteision hynny fod yn bwysicach na'r prif amcanion, ac annog newid (a chyfnewid) cymdeithasol yn ogystal â diwylliannol.

Bywgraffiad

Mae Patrick Young yn gyfarwyddwr opera arloesol a phrofiadol. Dechreuodd ei yrfa fel cyfarwyddwr cynorthwyol gyda chwmni teithiol Kent Opera, yna gweithiodd yn Glyndebourne ac Opera'r Alban, cyn ymuno â'r Tŷ Opera Brenhinol yn Llundain.

Bu'n gweithio yn y Tŷ Opera Brenhinol rhwng 1991 a 1998, yn cyfarwyddo adfywiadau a pherfformiadau newydd o amrywiaeth eang o weithiau. Penderfynodd ddechrau gyrfa lawrydd ar ôl ei gynhyrchiad ei hun o Le Nozze di Figaro yno ym 1998, ac ers hynny mae wedi cyfarwyddo cynyrchiadau ledled y byd, o Sydney i Los Angeles. Mae yr un mor gyfforddus yn gweithio gartref ar raddfa fach ag y mae ar gynyrchiadau ar raddfa fawr.

Yn ei anerchiad yn 2005 i Sefydliad Llenyddol a Gwyddonol Caerfaddon, soniodd am ei weledigaeth o opera fel cyfrwng theatr byw dynamig ac economaidd. I gyflawni'r weledigaeth hon, sefydlodd y cwmni opera Cymraeg OPRA Cymru. Erbyn hyn mae gan y cwmni gefnogaeth lawn Cyngor Celfyddydau Cymru, a hyd yma mae wedi cynhyrchu a mynd ar daith gyda chwe fersiwn Gymraeg unigryw o glasuron y canon operatig. Y llynedd, enillodd y perfformiad cyntaf o un o'u cynyrchiadau Wobr Cynhyrchiad Gorau yn y Gymraeg yng Ngwobrau Theatr Cymru ym mis Ionawr 2018.

Er ei fod yn parhau i gynhyrchu a mynd ar daith gyda fersiynau Cymraeg newydd o operâu sydd eisoes yn bodoli, mae'r cwmni ar hyn o bryd yn gweithio ar fersiwn operatig o nofel orau Cymru, Un Nos Ola Leuad, gan yr awdur a'r bardd Caradog Prichard.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 26 Medi i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.