Ewch i’r prif gynnwys

Peint o Wyddoniaeth 2024: Defnyddio pryfed ffrwythau i astudio arogl, blas a swyddogaeth yr ymennydd

Dydd Mercher, 15 Mai 2024
Calendar 18:30-21:30

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Pint of Science / Peint o Wyddoniaeth

Mae digwyddiadau gŵyl Peint o Wyddoniaeth wedi eu trefnu gan fyfyrwyr PhD o Brifysgol Caerdydd. Mae gennym siaradwyr yn ymuno â ni o Ysgol y Biowyddorau, Ysgol Meddygaeth, ymchwil yr Ysgol Gymdeithasol ac Economeg, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru! 

Mae Peint o Wyddoniaeth yn darparu cyfres unigryw o sgyrsiau, arddangosiadau ac arbrofion byw a gynhelir mewn bariau eiconig ledled Caerdydd. Mae'r pynciau'n amrywio o: gwyddor diffyg ymddiriedaeth, darganfyddiadau Cymru, niwrowyddoniaeth, geneteg, a'r system imiwnedd! 

Ariannwyd gan Academi Ddoethurol Prifysgolion Caerdydd.

Ymunwch â ni am ddiod, a dim gair o gelwydd mae'r sesiwn yma'n mynd i fod yn fwrlwm!

Hela am rhyngweithio genetig - gan ddefnyddio pryfed wrth astudio clefyd niwro-ddirywiol, Huntington's
Rachel Sellick (Grŵp Trwsio'r Ymennydd, Prifysgol Caerdydd)
Mae Rachel wedi bod yn ymchwilio i sut y gall newidiadau i fynegiant protein a genynnau effeithio ar ddechrau'r symptomau mewn anhwylderau niwroddirywiol. Bydd Rachel yn cyflwyno ei chanfyddiadau yn ymwneud â'r cyflwr niwrolegol genetig, clefyd Huntington's.

Gwyddoniaeth y tu ôl i arogl a blas
Dr Wynand Van Der Goes Van Naters (Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd)
Fel mae'r enw'n awgrymu - Mae pryfed ffrwythau yn caru ffrwythau! Ond sut mae eu synhwyrau o arogl a blas yn eu harwain i ddod o hyd i'r ffrwyth a beth sy'n achosi niwed i'n cnydau? Ymunwch â ni am ddiod wrth i ni feddwl y tu allan i'r hox!

Llawr gwaelod
Caffi Metchy's
1 Cathays Terrace
Caerdydd
CF24 4HS

Rhannwch y digwyddiad hwn