Ewch i’r prif gynnwys

Peint o Wyddoniaeth 2024: Mae genetegwyr yn ddiddorol... Rwy'n addo!

Dydd Mercher, 15 Mai 2024
Calendar 18:30-21:30

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Pint of Science / Peint o Wyddoniaeth

Mae digwyddiadau gŵyl Peint o Wyddoniaeth wedi eu trefnu gan fyfyrwyr PhD o Brifysgol Caerdydd. Mae gennym siaradwyr yn ymuno â ni o Ysgol y Biowyddorau, Ysgol Meddygaeth, ymchwil yr Ysgol Gymdeithasol ac Economeg, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru! 

Mae Peint o Wyddoniaeth yn darparu cyfres unigryw o sgyrsiau, arddangosiadau ac arbrofion byw a gynhelir mewn bariau eiconig ledled Caerdydd. Mae'r pynciau'n amrywio o: gwyddor diffyg ymddiriedaeth, darganfyddiadau Cymru, niwrowyddoniaeth, geneteg, a'r system imiwnedd! 

Ariannwyd gan Academi Ddoethurol Prifysgolion Caerdydd.

Ymunwch â ni wrth i ni drafod pobpeth geneteg, o ddilyniannu genomau a mynegiant genynnau i feddygaeth genomeg!

O Shanghai i Gaerdydd, fy nhaith i mewn i eneteg canser
Amy Houseman (ymchwilydd PhD mewn Geneteg Canser, Prifysgol Caerdydd)
Ymunwch ag Amy wrth iddi drafod sut aeth i faes biowybodeg a geneteg canser - o Shanghai i Gaerdydd. Dysgwch sut mae hi'n defnyddio biowybodeg i ddod o hyd i genynnau rhagdybiaeth newydd ar gyfer colorectal poliposis.

Gwyddoniaeth dilyniannu
Dr Nick Kent (Canolfan Ymchwil Genomeg Ysgol y Biowyddorau)
Mae genomau yn cynnwys gwybodaeth enetig organeddau ac fe'u hysgrifennir yn y pedwar niwcleotidau enwog: A, T, C a G. Daeth gwybod dilyniant niwcleotidau pob genom yn freuddwyd geneteg yr 20fed ganrif. Roedd datblygu dulliau dilyniannu'r genhedlaeth gyntaf a dulliau cyfrifiadurol newydd yn caniatáu cynhyrchu dilyniant drafft cyntaf y genom dynol yn 2001. Gafaelwch mewn peint a darganfod pa ddatblygiadau sydd wedi digwydd ers hynny a sut rydym yn eu defnyddio ar gyfer clefydau, darganfyddiadau a mwy!

Sut mae adeiladu cannoedd o wahanol fathau o gelloedd, gan ddefnyddio un llawlyfr cyfarwyddiadau?
Dr Hywel Williams (Prifysgol Caerdydd, Darlithydd Biowybodeg)
Mae'r holl wahanol gell-fathau yn y corff dynol, o gelloedd yr ymennydd, i gelloedd gwaed a hyd yn oed celloedd sy'n cynhyrchu gwallt, yn rhannu'r un hynafiad cychwyn cyffredin (ŵy ffrwythlon) a'r un llawlyfr cyfarwyddiadau (DNA genomig). Mae'r amrywiaeth helaeth hon o gell-fathau arbenigol yn codi trwy batrymau mynegiant genynnau trefnus iawn yn ein DNA. Yn y sgwrs hon byddwn yn ystyried ymchwil newydd sy'n disgrifio sut mae'r genom 3D yn rheoleiddio mynegiant genynnau i sicrhau bod y genynnau cywir yn cael eu mynegi ar yr adeg gywir yn y math gell cywir.

Llawr Cyntaf
Tiny Rebel
25 Stryd Westgate
Caerdydd
CF101DD

Rhannwch y digwyddiad hwn