Cyfieithu yn Hanes. Haenau, olion ac ymyriadau
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Darlith wadd gan yr Athro Theo Hermans Coleg Prifysgol Llundain (UCL)
Croeso i bawb
Crynodeb
Gyda phob cyfieithiad rydyn ni’n ei ddarllen, mae o leiaf dair haen o amser ar waith: tra rydyn ni’n darllen, y foment cafodd y cyfieithiad ei greu, a'r cyfieithiad gwreiddiol. Mae'n hawdd canfod mwy o haenau, fel y dangosir gan gyfieithiadau anuniongyrchol, ail-gyfieithu, a’r cyfeiriadau amseryddol mewn cyfieithiadau. Yn ystod rhan gyntaf o’r sgwrs, bydd Athro Hermans yn trafod y math o’r olion sy'n ein harwain at yr haenau amseryddol a gynhwysir mewn cyfieithiadau.
Wrth dynnu sylw i'r haenau hyn, mae’n codi ymwybyddiaeth bod cyfieithiadau wedi’u gosod mewn hanes. Ond, mae rheswm dros gyfieithiadau, ac mae'r rhesymau hyn yn mynd tu hwnt i gyfieithu. Mae hynny'n golygu y gallwn hefyd ddarllen cyfieithiadau fel achosion o weithredu ar eu cyd-destun hanesyddol. Yn ystod ail ran o’r drafodaeth, bydd Athro Hermans yn cyflwyno model saith cam i’n helpu i ddarllen cyfieithiadau yn ymyriadau ac yn darlunio’r model gydag enghraifft estynedig.
Bywgraffiad
Athro Emeritws yw Theo Hermans yn y Ganolfan Astudiaethau Cyfieithu, Coleg Prifysgol Llundain (UCL).
Ymhlith ei ysgrifau: The Structure of Modernist Poetry (1982), Translation in Systems (1999; wedi ei ailgyhoeddi yn 2020 fel Clasur Cyfieithu Routledge), The Conference of the Tongues (2007) a Translation and History (2022). Ymddangosodd detholiad o'i draethodau o dan y teitl Metatranslation (2023). Mae’n olygydd o’r The Manipulation of Literature (1985), The Flemish Movement: A Documentary History (1992), Crosscultural Transgressions (2002), Translating Others (2 gyfrol, 2006), A Literary History of the Low Countries (2009) a theitlau eraill. Ei brif ddiddordebau ymchwil yw theori a hanes cyfieithu.
Trefn y digwyddiad
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal mewn person.
Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Llun 15 Ebrill i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd.
Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.
Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.
Asesiad risg
Cynhaliwyd asesiad risg ar gyfer y digwyddiad hwn. Os hoffech weld copi o'r asesiad risg, e-bostiwch mlang-events@caerdydd.ac.uk
Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.
John Percival Building
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU